Creu Tîm Deinamig a Chefnogol

Dylan Matthews ydw i, ac roeddwn i’n Brif Swyddog Gweithredol yn y Celtic Manor rhwng 2003 a 2014. Yn ystod fy nghyfnod yno, cynhaliwyd Cwpan Ryder ac Uwchgynhadledd NATO yn y Celtic Manor – dau ddigwyddiad a oedd yn eiconig i’r DU, ac i Gymru yn arbennig.   

Dair blynedd yn ôl, rhoddais y gorau i weithio yn y sector lletygarwch er mwyn dechrau gweithio yn y diwydiant cwmnïau TG newydd yn cefnogi entrepreneuriaid ifanc o Gymru yn benodol, ac yn helpu i ddod â chwmnïau at ei gilydd er budd ein timau lleol. Heddiw, rwy’n helpu i reoli saith cwmni TG yn y Ganolfan Arloesi yn ystad y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Wrth newid fy sefyllfa waith, rwyf wedi dysgu bod arferion busnes da yn hanfodol mewn sawl diwydiant.

Yn fy marn i, cyflogi’r bobl iawn i weithio yn eich tîm yw’r elfen unigol bwysicaf i sicrhau bod busnes yn llwyddo – boed yn dîm mawr fel sydd gan y Celtic Manor gyda’i 1200 o weithwyr, yn 10,000 o weithwyr mewn endid corfforaethol mawr, neu’n gwmni â 3-10 o weithwyr fel y rhai rwy’n cydweithio â nhw bob dydd. Os nad oes gennych chi’r tîm iawn yn gwneud y gwaith, fydd y busnes ddim yn llwyddo.  

Mae angen i dîm busnes llwyddiannus gael awyrgylch gwaith cadarnhaol hefyd.  Mae hyn yn cynnwys cael y partneriaid, y rhanddeiliaid, y dulliau marchnata a’r eiriolwyr busnes priodol. Dyma pam rwy’n gadarn o blaid Creu Sbarc – mudiad newydd ac arloesol ym myd busnes yng Nghymru. Ie, mudiad ddywedais i, oherwydd dyna’n union beth yw Creu Sbarc. Mae ei genhadaeth yn syml – cefnogi busnesau yng Nghymru a gwneud Cymru yn wlad fwy ffyniannus. Mae’n dweud y byddwn, wrth gydweithio â’n gilydd fel tîm estynedig, yn sicrhau bod Cymru yn llwyddo ym myd busnes.

Er fy mod i’n falch o holl lwyddiannau’r Celtic Manor a’i gyfraniad cadarnhaol at economi Cymru, yr hyn rwy’n ymfalchïo ynddo fwyaf yw’r geiriau a glywais gan fy nhad, Syr Terry Matthews, wrth i mi adael tîm rheoli’r Celtic Manor.   

 “Yn y Celtic Manor, rwyt ti wedi creu’r tîm rheoli gorau rydw i erioed wedi gweithio gydag ef yn ystod fy ngyrfa – da iawn ti!” 

Anogaeth wych gan ddyn busnes gwych o Gymru – ond mae’n siŵr y byddwn i’n dweud hynny!

Mae prynu cynnyrch lleol, rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio cadwyn gyflenwi yng Nghymru pan fo modd, a chefnogi ac annog talentau entrepreneuraidd Cymru yn bwysig iawn.   Pam na fyddai pob un ohonom am gydweithio, os byddai hynny’n creu Cymru gyfoethocach?  Rhowch eich amser i’r bobl o’ch cwmpas. Os bydd pawb yn rhoi mymryn bach, bydd hynny’n gwneud byd o wahaniaeth i’r mudiad. 

Drwy’r mudiad Creu Sbarc, rydym yn rhoi cyfle i’r holl entrepreneuriaid llai fod yn rhan o dîm allanol mwy. Dylech drin mentoriaid a chefnogwyr y mudiad hwn fel rhan o’ch tîm, gan y bydd pob un ohonyn nhw’n helpu i sicrhau canlyniad cadarnhaol i chi, iddyn nhw, i ni ac i Gymru.  

Felly, sut mae cael y ddeinameg briodol yn eich tîm craidd? Sut byddech chi’n recriwtio ac yn cyfweld â’ch gweithiwr cyntaf? Eich ail weithiwr, a’ch 100fed gweithiwr? I greu’r tîm busnes priodol ar gyfer y dasg, fy nghyngor i fyddai penodi ymgeiswyr ar sail eu hagwedd gyffredinol a’u hagwedd at waith. Rydych chi’n penodi’r person, ond rydych chi hefyd yn croesawu teulu, diddordebau a meddylfryd diwylliannol y person hwnnw. Gwerthwch weledigaeth eich busnes i’r ymgeiswyr, a chwiliwch am ymateb cadarnhaol.   

Penodwch ymgeiswyr sy’n bodloni 90% o’r meini prawf, er mwyn iddyn nhw gael cyfle i ddatblygu. Nodwch lwybr iddyn nhw ddatblygu’u gyrfa yn eich busnes – gallent ddiflasu fel arall, ac mae’n bosib na fydden nhw’n cyrraedd eu potensial neu’r lefel a ragwelwyd. Rhannwch nodau’r tîm, gan wobrwyo’i lwyddiannau yn aml ar hyd y ffordd. Nodwch ddisgwyliadau sy’n herio, ond heb lethu. A chofiwch, po leiaf yw’r tîm, y mwyaf o bethau all fynd o’i le os na fyddwch chi’n penodi’n ddoeth. Penodwch rywun rydych chi’n ei hoffi ond sydd hefyd yn bodloni’r meini prawf ac, yn bwysicach na dim, sydd â rhywbeth ychwanegol i’w gynnig. 

Rwy’n annog pawb sy’n gweithio ym myd busnes yng Nghymru i gefnogi Creu Sbarc. Mae’n rhaid i ni weithredu ar unwaith er budd Cymru heddiw ac yn y dyfodol.   

Dangoswch eich cefnogaeth ac ymunwch â thîm Cymru drwy gofrestru heddiw yn https://creusbarc.cymru/.