Creu Sbarc ar gyfer y Cwmni Newydd Hwnnw o Gymru

Does gen i ddim syniad ble i ddod o hyd i fy syniad!

Mae’n fraint cael gweithio gydag entrepreneuriaid ifanc am y rhan fwyaf o’r diwrnod (a’r nos). Timau sy’n delio ag atebion o ganolfannau galw a seiberddiogelwch i gadw gweithwyr a darparu meddalwedd.

Mae pob diwrnod yn wahanol ac mae’r timau hyn yn dod ar draws rhwystrau newydd i’w goresgyn bob awr. Nid yw hyn yn eu digalonni. Yn hytrach, mae fel petai’n eu hysgogi ac maent i gyd wrthi’n gyson yn arloesi ac yn creu llwybrau newydd, gan baratoi’r ffordd er mwyn iddynt all tyfu ac esblygu yn y dyfodol.

Dywed Bill Aulet, Awdur Disciplined Entrepreneurship a Rheolwr Gyfarwyddwr MIT Entrepreneurship, "Mae cyrff sy’n symud, yn parhau i symud nes y cânt eu stopio, bydd cyrff sy’n gorffwys yn parhau i orffwys”. Rwy’n gweld hyn ar waith gyda'r timau bob dydd, bob amser yn esblygu, yn ymchwilio, yn dysgu ac yn derbyn yr holl adborth a mentora a dderbyniant, boed hynny drwy'r cynllun #creusbarc neu drwy gysylltiadau y maent wedi’u meithrin yn rhyngwladol.

Cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml i mi yw “O ble ddaeth y syniad gwreiddiol?”

Dydy’r cwestiwn hwn ddim yn un teg i ddweud y gwir gan y dylid gofyn llawer o gwestiynau eraill cyn y cwestiwn hwn. Y peth cyntaf ddylai fod “Pa broblem ydych chi ar dân i’w datrys?”

Hyd yn oed cyn gofyn y cwestiwn hwn, mae’n rhaid i chi bennu'r broblem yn y lle cyntaf.

Yna mae’n rhaid i chi fod yn llawn brwdfrydedd i ddatrys y broblem honno.

Mae’n anodd iawn datblygu busnes o syniad os nad oes gennych ddiddordeb angerddol yn y  broblem rydych yn ei datrys. Angerdd yw’r allwedd i ddatgloi’r symbyliad dyddiol sy’n ofynnol i ddod o hyd i’r ateb i’ch problem rhwystredig.

Wedi dweud hynny, mae digon o bobl wedi cychwyn eu cwmnïau eu hunain nad ydynt ond yn datrys problem maent wedi’i chanfod ac yn gwneud gwaith ffantastig yn ei datrys. Mae cwmnïau wedi graddio drwy unedau hybu entrepreneuriaeth fel Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd sydd wedi cael problemau go iawn i'w datrys ac sy’n gwneud gwaith anhygoel yn datrys y broblem honno ac yn creu cwmni gwych wedyn.

Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn helpu gyda'r cwestiwn gwreiddiol “O ble ddaeth y syniad gwreiddiol?”

Gall syniad eich taro mewn sawl ffordd.

Bod ar y tu mewn - efallai eich bod wedi gweithio i gwmni am sawl blwyddyn neu’n dilyn cwrs addysg ac yn sylwi ar fwlch yn y cynnyrch neu'r broses dan sylw. Gallech fynd at eich rheolwr neu eich darlithydd a sôn am y posibiliadau newydd hyn gyda nhw, ond oherwydd eu blaenoriaethau a’u llwyth gwaith eu hunain, efallai na fyddant yn rhoi sylw i’r posibiliadau hynny ac felly’n eu diystyru. (Yma yn y Ganolfan Arloesi rydym yn datblygu cynnyrch i helpu i ddileu hyn ac felly, maes o law, ni fydd dim esgus dros beidio ag arloesi mewn cwmnïau a phrifysgolion. Mwy am y fenter gyffrous hon yn y man).

Efallai fod syniad newydd wedi’i gynhyrchu yn y cwmni eisoes, ond ei fod wedi’i daflu ar y domen oherwydd rhesymau busnes neu wleidyddol. Os ydych yn teimlo bod yr ateb hwn yn rhy fawr i’w anwybyddu neu os yw eich meddylfryd eang yn fodd i chi weld posibiliadau ychwanegol y tu allan i'r defnydd cyfyngedig ohono o fewn y cwmni, efallai ei fod yn hen bryd i chi ddatblygu'r ateb eich hun.

Y fantais yma yw eich bod eisoes mewn cwmni a allai brynu’r ateb hwn a/neu roi deunydd ymchwil defnyddiol i chi ac adborth. Mae eich rhwydwaith a’ch profiad personol yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i’ch galluogi i saernïo’r syniad hwn. Siaradwch â gweithwyr a chysylltiadau y gallwch ymddiried ynddynt a gweld a oes mwy o bosibilrwydd ar gyfer eich syniad.

Bod yn Reddfol - Yn sydyn reit, bydd syniad yn eich taro. Syniad digymell a all ddod o ddim byd neu fod yn uniongyrchol gysylltiedig â rhywbeth yr oeddech yn ei ddarllen, yn ei basio neu’n ei brofi.  Rydych yn gweld rhywbeth ac yn sylweddoli bod ffordd haws o gyflawni’r canlyniad hwnnw, neu rydych yn gweld rhywbeth ac yn gallu adeiladu ar y syniad hwnnw a chreu rhywbeth newydd ohono. Rwy’n mwynhau bod yn y cyflwr hwn, mae’n gyffrous ac yn synnu nad oes neb wedi meddwl amdano o'r blaen.

Cyn i chi wneud dim byd arall, chwiliwch ar-lein am eich syniad i ganfod a oes rhywun wedi rhoi cynnig arno o'r blaen, gan fod posibilrwydd bod rhywun wedi rhoi cynnig ar y syniad ac wedi methu. Yma eto, gallai sawl ffactor fod yn gyfrifol am hyn - amseru, y farchnad, cyllid, angerdd. Felly peidiwch â rhoi gorau i'ch syniad yn syth os oes rhywun wedi rhoi cynnig arno’n barod ac wedi methu. Gallwch chi wneud pethau’n well. Felly datblygwch y syniad a’i addasu ar gyfer y cyfyngiadau y byddwch yn dod ar eu traws. Eto, rhannwch y syniad â ffrindiau rydych yn ymddiried ynddynt a chael eu hadborth ar bwyntiau. Er enghraifft, fyddai pobl yn talu amdano? Fydden nhw’n ei ddefnyddio? Pa opsiynau arall sydd ganddynt? Ydy’r ateb hwn yn ei wneud yn rhatach, yn gyflymach, yn symlach, yn fwy ecogyfeillgar nag un unrhyw un arall?

Os digwydd iddo fod yn syniad gwych, bydd yr entrepreneur ynoch chi yn dweud ”Beth am fynd amdani!”

Rwyf i, fel y rhan fwyaf o bobl, yn cael y syniadau hyn drwy'r amser, ac yn amlach na pheidio rwy’n penderfynu eu diystyru. Rwy’n mynd â’m syniadau o ddim byd i lwyddiant mewn 30 eiliad ond wedyn yn gweld llawer gormod o broblemau sy’n mynd â mi i ddim byd unwaith eto. Wedi dweud hynny, byddaf yn ailedrych ar sawl syniad rwyf wedi’u rhoi ar bapur, ac weithiau byddaf yn mynd ati i lunio cynlluniau busnes a chynigion ar eu cyfer. Byddaf yn hoffi rhai ohonynt ac yn dangos mwy o angerdd tuag atynt. Dydy rhai ddim mor apelgar i mi ond byddaf yn eu saernïo dim ond o safbwynt diddordeb.

Felly, o ble y daw’r Sbarc gwreiddiol hwnnw? Unrhyw le. Gall y sylweddoliad fod y syniad yn un da fod yn gryfach gyda rhai syniadau. Gall eich tanio i fwrw ymlaen neu ddiffodd yn sydyn, ond roedd y syniad hwnnw gennych. 

Y gamp yw cymryd y sbarc hwnnw o arloesedd a’i ddefnyddio i wneud rhywfaint o ddaioni.

Gwneud y byd yn lle gwell.

Defnyddiwch eich syniad a’ch angerdd ac ymuno â menter Creu Sbarc a defnyddio’r grwpiau cysylltiedig i roi’r cymorth y mae ei angen arnoch i ddatblygu’ch syniad.

 

Gair am yr Awdur

Paul Bailey ydy Cyfarwyddwr Dylunio a Marchnata yn Wesley Clover. Mae wedi gweithio dan ymbarel entrepreneuriaeth busnesau a ariennir gan Terry Matthews ar ôl graddio ym Mhrifysgol Casnewydd yn 2000.  Paul sy’n gyfrifol am gyfeiriad a brand byd-eang y rhaglen Alacrity. Mae’n mentora ac yn uniongyrchol gynorthwyo cwmnïau graddedigion o Sefydliad Alacrity o'r Ganolfan Arloesedd yng Nghasnewydd yn ogystal â helpu portffolio Wesley Clover o dros 70 o gwmnïau ledled y byd.