Creu rhwydwaith arloesi ‘wrth fynd’ - entrepreneuriaeth arloesol ar waith

Ble gallaf i ddod o hyd i’r ganolfan fusnes briodol ar gyfer fy anghenion i?

Sut gallaf i gael gwybod?

Oes map ar gael?

Sut gall Cymru roi hwb i’w chysylltedd a chael gafael ar ei thalentau?

Dim ond rhai o’r heriau yr oedd cwmnïau sy’n gobeithio tyfu a diogelu eu busnesau o fewn economi gref yng Nghymru oedd y rhain.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr her a datblygu map rhyngweithiol yn dangos lleoliadau a mathau’r canolfannau busnes ar hyd a lled Cymru. Mae’r prif fathau o ganolfannau’n amrywio o unedau hybu busnesau newydd i sbardunwyr busnes twf uchel.  

Mae hwn yn fap rhyngweithiol, byw, sy’n adlewyrchu ein byd sy’n newid yn gyflym.

Cofiwch gysylltu â ni gydag unrhyw ddiweddariadau a sylwadau.