Chris Griffiths, Prif Swyddog Gweithredol OpenGenius

Chris Griffiths, Prif Swyddog Gweithredol OpenGenius a chrëwr hwb arloesi blaenllaw Tec Marina, yn sôn am yr hyn sy’n ysbrydoli ei greadigrwydd a phwysigrwydd meddwl y tu allan i’r ‘bocs’. 

Mae rhai yn honni mai meddwl y tu allan i’r bocs yw creadigrwydd, ond beth yw’r bocs? Mae Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd OpenGenius, Chris Griffiths, yn cyflwyno cysyniad sy’n grymuso er mwyn rhyddhau creadigrwydd rhywun drwy gael gwared ar y rhwystrau sydd ar ffurf bocs. 

Mae creadigrwydd ac arloesedd yng ngwaed Griffiths. Mae ganddo 28 mlynedd o brofiad o sefydlu ac arwain busnesau blaenllaw, ysgrifennu llyfrau poblogaidd ar feddwl yn greadigol ac arloesol, datblygu rhwydwaith hyfforddiant byd-eang sy’n cynnwys mwy na 650 o hyfforddwyr, annog meddwl entrepreneuraidd drwy sgyrsiau ysbrydoledig a chreu hwb arloesi ar gyfer rhai o gwmnïau twf uchel mwyaf cyffrous Cymru. 

Mae llwyddiant Chris yn deillio o’i ddull anghonfensiynol o feddwl am syniadau newydd. Dydy ‘traddodiadol’ ddim yn air y mae’n tueddu i’w ddefnyddio. Mae ei ddull unigryw o herio tybiaethau a’r ffaith nad yw’n ofni torri tir newydd wedi caniatáu iddo feddwl ‘heb’ unrhyw focs o gwbl.   

Fel y mae Chris yn ei drafod yn ei sgwrs TEDx isod, mae symbylu ein meddwl yn rhydd heb y ‘bocs’ yn creu cyfle diderfyn i arloesi heb gyfyngiad, ac mae’n ein helpu ni i weld cyfyngiadau o safbwynt newydd.   

Mae gallu ‘Meddwl yn Wahanol’ yn ein galluogi i oresgyn heriau ac ansicrwydd o ddydd i ddydd. Yn ôl Griffiths, wrth i ni heneiddio, mae’r ‘bocs’ yn llenwi gyda’n harferion, ein credoau a’n tybiaethau, ac mae’n cyfyngu ar yr hyn rydyn ni’n credu sy’n bosib. Heb y bocs, does dim ffiniau i’n cyfyngu, a heb y rhwystrau creadigol hyn gallwn dorri tir newydd ac arwain y ffordd er mwyn arloesi go iawn.  

Mae Chris yn credu nad gwybodaeth a’r defnydd ohoni yw’r pŵer - creu gwybodaeth yw’r pŵer. Roedd pobl yn arfer dweud drwy wneud beth rydych chi bob amser wedi’i wneud, fe gewch chi beth rydych chi bob amser wedi’i gael. Mae’r meddylfryd hwn yn y gorffennol. Mewn gwirionedd, os byddwch chi’n gwneud beth rydych chi bob amser wedi’i wneud, byddwch chi’n cael eich gadael ar ôl. Os ydych chi’n barod i ysgogi eich meddwl creadigol a chael gwared ar y bocs, cliciwch ar Sgwrs TEDx Chris Griffiths isod i ddysgu sut mae meddwl yn wahanol.