Cefnogi Merched Entrepreneuraidd Yng Nghymru

Ar 31 Ionawr 2019, cyflwynodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ffordd newydd o gefnogi merched entrepreneuraidd yng Nghymru. Aed ati i ddatblygu’r ffordd hon o weithio ar sail rhywedd drwy ofyn am gyngor ac ymgynghori â phanel o arbenigwyr (y Panel), rhanddeiliaid a merched sy'n entrepreneuriaid.

Supporting Entrepreneurial Women in Wales - Ken Skates

Yn ystod yr achlysur lansio, a gynhaliwyd yn Capital Law yng Nghaerdydd, gwahoddodd Ken Skates yr holl sefydliadau cymorth busnes yng Nghymru i ymuno yn y gwaith ac i fabwysiadu’r ffordd hon o weithio ar sail rhywedd a’r Canllawiau Arferion Gorau ar ei chyfer, gan sicrhau y bydd Cymru yn arwain y ffordd o ran helpu merched sy’n entrepreneuriaid i ddechrau, i dyfu ac i ddatblygu busnesau. 

Allai'ch busnes chi helpu i'w rhoi ar ben ffordd? Beth am ddarllen mwy i weld sut y gallwch chi chwarae'ch rhan, a beth am rannu gyda ni y gwaith gwych yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn eich busnes?

 

Y CEFNDIR

Yn ogystal â Llywodraeth Cymru, mae sawl sefydliad wedi dod at ei gilydd i ddatblygu ac i lansio ffordd well o gefnogi merched sy'n entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae'r ffordd hon o weithio ar sail rhywedd, ‘Cefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru: Ffordd Ymlaen i Gymru’, yn nodi'r hyn y byddai merched sy'n entrepreneuriaid yng Nghymru yn hoffi gweld sefydliadau cymorth busnes yng Nghymru yn ei gynnig, gan ganiatáu i'r sefydliadau hynny deilwra mwy ar eu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion penodol merched sy'n entrepreneuriaid.

Datblygwyd y ffordd hon o weithio gan banel o arbenigwyr sy'n cynnwys unigolion a sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a'r sector addysg. Mae cysylltiad agos rhyngddo a Bwrdd Strategol Busnes Cymru, sy'n annibynnol ac sydd â chylch gwaith a bennwyd gan y Gweinidog. Disgwylir iddo oruchwylio a rhoi arweiniad strategol i Busnes Cymru, sef gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru. Cadeirydd y panel yw Helen Walbey: Rheolwr Gyfarwyddwr Recycle Scooters; Cadeirydd Polisi Cenedlaethol ar Faterion Cartref a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Mae rhestr lawn o'r aelodau yn y ddogfen, ‘Cefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru: Ffordd Ymlaen I Gymru’ . 

Wrth fynd ati i lunio'u cyngor a'u hargymhellion, bu aelodau'r Panel yn ystyried amrywiaeth eang o lenyddiaeth a thystiolaeth, gan gynnwys trafodaethau gyda merched sy'n entrepreneuriaid, sefydliadau cymorth busnes a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru.

Wrth amlinellu'r ffordd o weithio ar sail rhywedd, mae'r Panel yn nodi'r hyn yr ydym yn awyddus i'w wneud yng Nghymru, ac ategir y ddogfen honno gan ‘Canllaw Arfer Da’ sy'n amlinellu'r hyn y gall gwasanaethau cymorth busnes ei wneud i deilwra gwasanaethau fel eu bod yn diwallu anghenion merched sy'n entrepreneuriaid yn well.

Mae'r panel wedi gwneud deg argymhelliad sy'n adeiladu ar y cryfderau sydd gan wasanaethau cymorth busnes ledled Cymru ar hyn o bryd. Y nod yw creu strwythur y gall y gymuned cymorth busnes ehangach uniaethu ag ef a'i fabwysiadu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn er mwyn datblygu mwy ar y gefnogaeth y maent yn ei gynnig i ferched sy'n entrepreneuriaid drwy wasanaeth Busnes Cymru, gan wneud hynny drwy baratoi cynllun gweithredu manwl.

Ond ni allwn lwyddo ar ein pen ein hunain. Dim ond drwy gydweithio y gallwn gyrraedd y nod.

 

Yn ôl Helen Walbey, Cadeirydd y Panel:

'Gan ddefnyddio dihareb o Affricanaidd  "Os ydych chi eisiau mynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun, ond os ydych chi eisiau mynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd". Rwyf yn galw ar bawb yng Nghymru i ddod at ei gilydd i'n helpu ni i fynd yn bell a chyrraedd ein llawn botensial, gan sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i sefydlu, cynnal a datblygu busnes yng Nghymru, beth bynnag yw eu cefndir a ble bynnag maent yn byw..'

 

Mae sawl ffordd i sefydliadau chwarae'u rhan:

  • Cliciwch yma i wneud ymrwymiad cyhoeddus − soniwch am yr hyn yr ydych yn ei wneud eisoes a'r hyn yr ydych yn mynd i'w wneud i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i ferched sy'n entrepreneuriaid.
  • Defnyddiwch y “Canllaw Arfer Da” yn eich sefydliad.
  • Ymunwch â’r sgwrs ar-lein drwy ddefnyddio ar #merchedbusnescymru.
  • Ewch ati i ledaenu'r neges ac i annog eraill i gymryd rhan.

 

 

YMRWYMIAD

Os ydych yn sefydliad sy'n cynnig cymorth busnes ac os ydych yn awyddus i helpu merched yng Nghymru i gyrraedd ei llawn botensial - gallwch helpu i gyrraedd y nod drwy wneud ymrwymiad yma.

Beth am chwarae'ch rhan a bod ar flaen y gad yng Nghymru o ran hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym myd busnes?

Cliciwch yma i wneud eich ymrwymiad.

  • Rhowch wybod inni am y gwaith gwych yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd.
  • Beth allwch chi ei wneud er mwyn gwella hyd yn oed mwy ar y gwaith hwnnw?