Canolfan Arloesi yn penodi Prif Weithredwr newydd gan gryfhau'r bwrdd cyn y 'ffordd newydd o weithio’

Mae gofod gweithio ar y cyd mwyaf Cymru, ICE Cymru (sefCanolfan Arloesi Menter Cymru)wedi penodi Jamie McGowan fel ei Brif Weithredwr newydd.

Ice co-working

Bydd Jamie, cyn Cyfarwyddwr Campws ICE, yn ehangu ei gyfrifoldebau presennol i arwain strategaeth dyfodol y cwmni a Champws ICE yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys llywio drwy ansicrwydd y byd ar ôl Covid-19.

CEO, Jamie McGowan

Mae nifer o newidiadau eraill i Fwrdd ICE gydag Adrian Walker yn newid o'i rôl fel Cyfarwyddwr Cyllid i fod yn Brif Swyddog Technegol, hynny er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau digidol ICE - ffased fydd yn amlygu ei hun fel un tyngedfennol wrth i ymbellhau cymdeithasol barhau i yrru busnesau a gwasanaethau ar-lein.

Mae Stephen Burt yn ymuno â'r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Cyllid Anweithredol. Mae Stephen, sy'n Gyfrifydd Siartredig cymwysedig a Gweithiwr Proffesiynol ym Maes Llywodraethiant, wedi gweithio gyda nifer o ddiwydiannau ledled Cymru, yn fwyaf diweddar gyda theclynnau meddygol a bio-dechnegol. Mae Stephen hefyd yn hyfforddwr gyda Rhaglen Cyflymu Twf Llywodraeth Cymru a bydd yn defnyddio'i wybodaeth a'i brofiad i yrru twf economaidd ICE yn ei flaen.

Mae Annie Browne, Cyd-sefydlydd a Chyfarwyddwr y gymuned hunan-gyflogedig Freelance Heroes sydd â 10,000 o aelodau drwy Brydain, hefyd yn ymuno â'r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Mae Annie yn aelod o ICE Cymru yn dilyn sefydlu ei busnes cymorth rhithiol Hello My PA pan ymunodd â champws Caerffili yn 2017. Bydd Annie yn dod â chyfoeth o brofiad o adeiladu cymunedau ar-lein ynghyd â galluogi busnesau'n ddigidol, rhywbeth mae hi'n ei wneud o ddydd i ddydd.

Yn cwblhau'r Bwrdd, mae Anthony Record MBE sy'n parhau fel y Cadeirydd Anweithredol a bydd William Record yn parhau fel Cyfarwyddwr Anweithredol.      

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Jamie y bydd goresgyn sialensiau’r 12 mis sydd i ddod yn sodro ICE yn un o arweinwyr y maes gweithio-ar-y-cyd a chefnogaeth busnesau bychain. Meddai Jamie: “Yn dilyn cymryd drosodd fel Cyfarwyddwr Campws yn 2018 roeddwn yn gallu cymryd mwy o rôl torchi llewys, ymarferol wrth reoli Campws ICE a chydweithio â'r gymuned o dros 700 o staff, aelodau a busnesau.

“Nid gor-ddweud yw datgan bod y tirlun gweithio-ar-y-cyd wedi newid yn aruthrol ac mae llawer o'n cefnogaeth wedi symud ar-lein. Serch hynny, law yn llaw â sialensiau fel hyn, daw cyfleoedd. Drwy lywio'n ffordd drwy'r cyfyngiadau presennol rydym yn teimlo y byddwn mewn cryfach sefyllfa i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl anhygoel, gan na fyddwn yn gaeth i ddaearyddiaeth na chludiant.

“Mae ein gwaith llwyddiannus iawn Clwb 5 i 9eisoes wedi symud ar-lein ac rydym wedi torri record yn nifer y bobl sy'n awyddus i ymuno â chymuned ICE a chymryd eu camau cyntaf i fyd hunangyflogaeth. Yn rhinwedd fy swydd newydd fel Prif Weithredwr, edrychaf ymlaen at gydweithio â gweddill y Bwrdd i chwyddo ein cymuned o arloeswyr tu hwnt i'n gofod presennol ac adeiladu ar enw da ICE fel y man cychwyn i dyfu eich busnes ym Mhrydain.”

Dywedodd Anthony Record, Cadeirydd ICE Cymru, fod penodiad Jamie, ynghyd â chryfhau'r Bwrdd ymhellach yn gamau pwysig wrth dyfu'r busnes yn gynaliadwy. Meddai Anthony: "Mae Jamie wedi gwneud gwaith arbennig iawn fel Cyfarwyddwr Campws gan helpu chwyddo'r gymuned a chynnig lefelau cefnogaeth heb eu hail i'n haelodau. Fel mae busnesau dechrau addasu i ddulliau newydd o fyw a gweithio, teimlwyd ei bod yn amser da i Jamie ymgymryd â rôl ehangach gan gynnwys datblygu a strategaeth dyfodol y cwmni.

““Heb os nac oni bai yn y misoedd nesaf bydd cyfnodau o ansicrwydd wrth i fusnesau ddod i delerau â gwneud mwy ond gyda llai. Teimlwn y bydd hyn yn cynyddu nifer yr unigolion fydd yn ystyried sefydlu busnesau eu hunain, boed hynny'n troi i fod yn berchnogion ar eu swyddi eu hunain neu â chynlluniau ar gyfer mentrau mwy mawreddog. Gyda’r cynnydd hwn mewn sefydlwyr busnesau mae’n ddyletswydd arnom i fod yno i'w cefnogi - a gyda'r newidiadau hyn i'n Bwrdd - fe fyddwn ni.

Un o bum echel ranbarthol ar draws Cymru yw ICE Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd y rhain yn gweld buddsoddiad o dros £4m i gynnig gofod cefnogol a mentora i fusnesau newydd a busnesau sydd ar dwf, gyda Champws ICE yn cefnogi ardal Cymoedd De Ddwyrain Cymru.

Am ragor o wybodaeth ar sut y gall ICE eich cefnogi chi, gallwch gysylltu â nhw ar iceangels@welshice.orgneu drwy ffonio 02920 140 040.

plan it