#BackHerBusiness - 7 rheswm pam dylech chi ariannu eich busnes drwy gyllido torfol

Oeddech chi’n gwybod bod cyllido torfol yn golygu mwy na chodi arian? A dweud y gwir, mae llu o fanteision cysylltiedig â chyllido torfol, a fydd yn golygu y bydd ar frig eich rhestr o bethau i’w wneud bob blwyddyn o hyn ymlaen.

BHB

Os nad ydych chi’n ein credu ni, cymerwch olwg ar rai o'r llwyddiannau sydd wedi deillio o gyllido torfol, fel  What A MelonEfoldi a Bio-bean. Gyda’i gilydd, fe wnaeth y tri busnes yma godi dros £275,000 drwy gyllido torfol!

Efallai eich bod chi’n meddwl, “Tybed beth yw manteision eraill cyllido torfol a pam mae hynny mor dda i’ch busnes?” Cymerwch olwg ar ein rhestr isod i gael gwybod.

1.  Mae’n ffordd gyflym a rhad o godi arian

Gall gwneud cais am fenthyciadau neu ddod o hyd i fuddsoddwyr fod yn broses araf sy’n cymryd llawer o amser, ond mae cyllido torfol yn ffordd gyflym, fforddiadwy a chreadigol o godi'r arian sydd ei angen arnoch chi i dyfu’ch busnes a dechrau arni! 

2. Does dim rhaid i chi ildio unrhyw ecwiti

Os byddwch chi’n penderfynu dechrau ymgyrch cyllido torfol seiliedig ar wobrau, does dim rhaid i chi ildio unrhyw gyfranddaliadau yn eich busnes. Yn syml, ystyr cyllido torfol seiliedig ar wobrau yw bod cefnogwr yn rhoi cyfraniad i brosiect yn gyfnewid am wobr. Cofiwch, os yw eich gwobrau’n ddeniadol, bydd pobl yn fwy tebygol o gyfrannu.

3. Dod o hyd i gwsmeriaid newydd

Drwy ddenu pobl i gefnogi'ch prosiect, rydych chi’n ehangu eich rhwydwaith ac yn cyrraedd cwsmeriaid newydd, gan ddatblygu cronfa ddata ar gyfer eich busnes ar yr un pryd. Syml, hawdd ac effeithiol!

4. Risg isel wrth roi syniadau a chynnyrch newydd ar brawf

Cyllido torfol seiliedig ar wobrau yw'r ffordd berffaith o roi’ch syniad ar brawf oherwydd y risg isel i’ch busnes. Os byddwch chi’n gweld bod y dorf yn eich cefnogi a’ch brolio, byddwch chi’n gwybod eich bod ar y trywydd iawn. Mae hyn yn golygu bod dim rhaid i chi ddefnyddio llawer o arian, adnoddau ac amser gwerthfawr er mwyn gwybod bod gan rywbeth botensial i lwyddo. 

5. Creu cysylltiadau cryfach â chwsmeriaid

Y peth braf am gyllido torfol yw bod pawb sy’n cyfrannu at eich prosiect yn rhan o’ch stori unigryw. Mae cysylltiad fel hyn yn amhrisiadwy oherwydd gall eich cwsmeriaid fod yn eiriolwyr dros yr hyn rydych chi’n ei wneud!

6. Mae’n dechrau sgwrs

Gall ymgyrch cyllido torfol effeithiol sydd wedi'i chynllunio’n dda fod yn rhan bwysig o'r gwaith rydych chi’n ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’ch brand. Gall pobl ledaenu eich brand wyneb yn wyneb ac ar y rhyngrwyd, a allai ei wneud yn destun trafod yn eich cymuned neu ledled y byd. 

7. Mae’n debyg bod yr hanfodion gennych chi’n barod

Mae’n debyg bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i ddechrau ymgyrch cyllido torfol. Yn ogystal â’ch busnes gwych, yr unig beth sydd ei angen arnoch yw rhywfaint o destun, llond llaw o ddilynwyr, ychydig o gynnyrch fideo ac ambell lun da. Os oes gennych chi bob un o’r rhain, rydych chi hanner ffordd yno.