Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn Angenrheidiau Cenedlaethol i Gymru

Dyma Aelod o Banel Creu Sbarc a Chadeirydd CIC Creu Sbarc, Ashley Cooper o Catalyst Growth Partners, i rannu ei wybodaeth am y pileri allweddol ar gyfer creu ecosystem ffyniannus yng Nghymru sy’n cael ei sbarduno gan arloesi, entrepreneuriaeth ac intrapreneuriaeth.

Arloesi ac Entrepreneuriaeth yw conglfeini unrhyw economi sy’n tyfu. Ond, nid yw cael Arloeswyr gwych ac Entrepreneuriaid gwych yn ddigon. Mae angen symbyliad ychwanegol ar ecosystem sy’n ffynnu er mwyn sicrhau bod entrepreneuriaeth wedi’i seilio ar Arloesedd yn fyw ac iach a bod cyfleoedd o fewn yr ecosystem yn cael eu hamlhau i’r eithaf.

Yn 2012, lansiodd Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ei Raglen Datblygu Entrepreneuriaeth Rhanbarthol (REAP). Mae model REAP yn nodi 5 grŵp rhanddeiliaid allweddol fel pileri i gefnogi economi sy’n tyfu.  Dyma’r pileri;

1) Entrepreneuriaid;

2) Cyllidwyr;

3) Prifysgolion;

4) Busnes Mawr;

5) y Llywodraeth.

Pe baem yn dychmygu’r economi a thwf economaidd fel llwyfan trwm iawn sy’n cael ei gefnogi gan y pum piler hyn, yna bydd yn rhaid i bob un o’r pileri gyfrannu’n gyfartal at gefnogi a chynnal pwysau enfawr y llwyfan economaidd, ac yn bwysig iawn, er mwyn codi’r llwyfan / datblygu’r economi, bydd yn rhaid i bob piler ehangu ar yr un gyfradd. Os bydd un neu ragor o’r pileri yn wan neu os na fydd pob piler yn ehangu yr un fath, bydd y llwyfan, ar ei orau, yn mynd ar ogwydd neu’n anwastad, ac ar ei waethaf, yn cwympo yn y pen draw.

“Os ydym am wneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru, rhaid i ni ddechrau gyda newid o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Daeth rhaglen REAP MIT â charfan ryngwladol o wledydd neu ranbarthau at ei gilydd sydd yn unfryd o ran eu dymuniad i ddatblygu eu heconomi genedlaethol neu ranbarthol.  Roedd yr Alban ymhlith yr wyth gwlad a gynrychiolwyd yng Ngharfan 1, ynghyd â gwledydd fel Seland Newydd.  Roedd Cymru yng Ngharfan 3, ynghyd â Beijing, Tokyo, Bangkok, Ashdod (Israel), Medina (Saudi Arabia), Santiago a Norwy - grŵp gwirioneddol amrywiol yn ddiwylliannol, wedi dod ynghyd ar gyfer diben cyffredin sef cynyddu  Entrepreneuriaeth wedi'i Seilio ar Arloesedd yn eu gwlad neu ranbarth. Roedd y cyfle ar gyfer dysgu ar draws y byd ac ar draws diwylliannau yn enfawr. Cawsom ddysgu gryn dipyn gan Saudi Arabia, Chile a Norwy, gwledydd sy’n gyforiog o adnoddau naturiol, am ddiwylliant busnesau newydd entrepreneuraidd Israel a Thailand, heriau twf China, a chryfder Corfforaethol Japan.

Roedd aelodau panel Cymru’n cynnwys grŵp o 10 dylanwadwr allweddol o bob cwr o Gymru sy’n cynrychioli pob un o’r pum piler (dau fesul piler). Roedd aelodau’r panel wedi’u clymu gan ddiben cyffredin sef datblygu twf economaidd yng Nghymru, ac yn arbennig, fe wnaethant roi o’u hamser gwerthfawr iawn i’r fenter sy’n para dwy flynedd, a hynny am ddim - prawf amlwg ein bod ni’n credu ein bod ni’n gallu gwneud gwahaniaeth. Oherwydd llwyddiant aelodau’r panel yn eu meysydd amrywiol, nid oedd methiant, na chreu “siop siarad arall” neu “banel cynghori arall” yn sefyllfa dderbyniol nac yn ganlyniad derbyniol.

Mae Panel REAP wedi nodi ei amcan o wneud Arloesi ac Entrepreneuriaeth yn Angenrheidiau Cenedlaethol ac mae’n gwneud hyn drwy greu mudiad o dan faner “Creu Sbarc”.   Mae’n rhaid i ni uno’r mentrau hyn â’i gilydd i greu Entrepreneuriaeth wedi'i Seilio ar Arloesedd (IDE). Yn wahanol i rai o’n cyd-gyfranogwyr rhyngwladol, sy’n gryf iawn yn gyffredinol mewn un neu ddau o bileri, ac efallai’n llai cryf mewn un neu ddau o rai eraill, mae gan Gymru nifer sylweddol a chryfder gweithgaredd ym mhob un o’r pum “piler” allweddol. Yr her i Gymru yw bod cymaint o weithgareddau, mae’n anodd iawn edrych o’r tu allan i weld beth sy’n digwydd ym mhle a sut gall gweithgareddau o’r fath fod o fudd i’r ecosystem ehangach. Mae llawer o weithgarwch yn digwydd mewn seilos, ac er nad yw rhannu gwybodaeth yn wael yn fwriadol, mae mentrau allweddol yn tueddu i aros o fewn cylch gwaith eang y piler penodol hwnnw. Felly, amcan cyntaf Creu Sbarc yw sicrhau bod beth sy’n digwydd yn amlwg. Mae rhai wedi dadlau bod llwyfannau ar gael yn barod i rannu data, ond yn aml, maent yn gymhleth ac oni bai eich bod yn gwybod ble i chwilio, mae’n anodd tynnu data ohonynt. Felly mae’n bwysig fod y llwyfan yn syml a hawdd ei ddefnyddio, ac yn cyfeirio’n syml at y prif weithgareddau ym mhob maes.

Os ydym am wneud gwahaniaeth go iawn yng Nghymru, rhaid i ni ddechrau gyda newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Bydd, fe fydd hyn yn rhywbeth hir dymor ac ie, y genhedlaeth nesaf fydd yn gweld y canlyniadau enfawr, ond mae’n dechrau yn yr ysgol. Mae adroddiadau addysgol diweddar gan unigolion fel Donaldson yn nodi Menter fel elfen allweddol i'r cwricwlwm. Mae hyn i gyd yn ymwneud â “chreu meddyliau chwim ar gyfer byd sy’n newid” a sicrhau bod ein pobl ifanc yn arloesol o ran eu dulliau, yn fentrus gyda’u syniadau ac yn entrepreneuraidd wrth ddatrys eu problemau. Yng Nghymru mae Entrepreneuriaeth wedi’i chynnwys yn y cwricwlwm i ryw raddau, ond a ydym ni’n esgus cefnogi hynny? Mae gennym ni’r strategaeth entrepreneuriaeth ieuenctid a rhaglenni fel y “Criw Mentrus” a Model Rôl a Bwtcamp Syniadau Mawr Cymru sydd wir yn cael effaith. Ond a yw’r effaith honno’n ddigon eang? A yw pawb sy’n ei chyflwyno ym maes addysg prif ffrwd yn rhoi’r cyd-destun ac yn rhoi ystyr i hyn mewn gwirioneddol? Mae meithrin cysylltiadau o fewn ein system addysg â busnesau o bob math yn hanfodol.  Nid yw hyn yn golygu y bydd pob un yn dod yn entrepreneur ac yn sefydlu busnes, ond mae’n golygu y bydd cenedl o Arloeswyr ac Intrapreneuriaid yn cael eu creu drwy’r prifysgolion ac yna ym myd gwaith... y rheini sy’n rhoi syniadau ar waith o fewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus a phreifat gan sicrhau twf mewn busnesau o fusnesau bach a chanolig i rai mawr corfforaethol, i endidau cyhoeddus enfawr fel Iechyd y Cyhoedd a’r GIG. 

Mae gan gorfforaethau preifat a chyhoeddus broblemau i'w datrys. Mae angen timau mewnol arnynt gyda meddylfryd “intrapreneuriaeth” i’w datrys ac mae’n rhaid iddynt allu cael gafael ar academia er mwyn canfod y bobl orau i arloesi’n flaengar ar sail gwaith ymchwil ôl-ddoethurol blaengar. Mae academia yn cynhyrchu dyfeisiau newydd rhagorol, ond yn aml iawn, nid yw’n gallu masnacheiddio’r syniadau hynny. Mae llawer iawn o eiddo deallusol academaidd yn parhau i fod yn anweledig a heb ei fasnacheiddio. Dyma gyfle’r cyw entrepreneuriaid. Bydd cydweithio gwell rhwng busnesau mawr, academia ac entrepreneuriaid yn siŵr o arwain at ragor o syniadau a syniadau gwell, rhagor o ffyrdd a ffyrdd gwell o ddefnyddio’r syniadau hynny, a busnesau mwy a gwell. Mae gennym ni rywfaint o gerrig sylfaen cadarn wedi’u gosod, ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl sylfeini wedi cael eu gosod, ac yna adeiladu arnynt.

“... Bydd pawb yn gyfrifol am geisio “Creu Sbarc” o ran cyflymu ein twf a llywio ffyniant economaidd y dyfodol...”

Mae gan y gymuned gyllido rôl enfawr ar draws y sbectrwm busnes, o fusnesau sy’n cael eu sefydlu i fusnesau bach a chanolig i fusnesau corfforaethol. Mae cyllid priodol sydd ar gael yn allweddol ar gyfer llywio twf yn amserol. Ond ble mae cael cyllid? Mae ar gael ond nid yw’n amlwg ac nid yw’n hawdd dod o hyd iddo. Ydw i’n barod ar gyfer buddsoddwyr? Sut ydw i’n tynnu sylw ataf fy hun ac at fy musnes? Beth yw’r hyn y maent yn chwilio amdano mewn gwirionedd gan y sefydlydd, y rheolwr, y cyfarwyddwr, yr uwch dîm neu’r Prif Weithredwr?

Ond mae’n ymwneud â llawer mwy nag arian i fusnes cyfnod cynnar. Nid yw Prif Weithredwyr yn gwybod beth nad ydyn nhw’n ei wybod yn eu dyddiau cynnar.  Mae angen cael cefnogaeth a mentoriaeth o safon, sydd fel rheol yn cael eu darparu gan asiantaethau cefnogi, deorfeydd a sbardunwyr.  Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth i guro profiad uniongyrchol. Dyma ble mae ein cyn-fyfyrwyr sy’n fentoriaid yn bwysig. Mae yna nifer o bobl fusnes lwyddiannus yng Nghymru sydd â llu o brofiad y mae angen cael gafael arno, mae nifer o Gymry alltud sy’n byw y tu allan i Gymru ar hyn o bryd ac sy’n dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i lwyddiant Cymru i’r dyfodol.  Mae amlygu’r holl brofiad ac arbenigedd hynny yn hanfodol ar gyfer twf cyflym.

“Mae yna nifer o bobl fusnes lwyddiannus yng Nghymru sydd â llu o brofiad y mae angen cael gafael arno...”

Yng Nghymru, mae gennym rai cwmnïau blaengar iawn fel Admiral ac IQE sydd ar flaen y gad yn eu meysydd ar lefel fyd-eang. Mae gennym lywodraeth sy’n cefnogi arloesi ac entrepreneuriaeth, fel y gwelir gan ffurfio Cyngor Cynghorol ar Arloesi, Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru sydd werth £20M a gweithgareddau cefnogi ehangach Busnes Cymru. Mae gennym fentrau o’r radd flaenaf yng Nghymru gyda’r Catapwlt Lled-Ddargludydd a Chanolfan Arloesi Spark, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd. Mae gennym sbardunwyr a deorfeydd rhagorol ar gyfer busnesau cyfnod cynnar fel IndyCube, ICE ac Entrepreneurial Spark a mentrau sector gwych fel y Ganolfan Gwyddorau Bywyd a’r Rhwydwaith Technolegau Electronig a Meddalwedd (ESTnet).

Mae cymaint o bethau gwych yn digwydd, ond yr her o hyd yw a) Amlygu hyn; b) Cadw pethau’n syml; c) Canfod Cysylltedd; ac yna cyfathrebu a chydweithio i lywio twf economaidd. Mae pob darn o'r jig-so ar gael yma yng Nghymru. Os gallwn ni roi’r darnau at ei gilydd a chreu darlun cydlynol i bawb ei weld, a datblygu ein pileri economaidd ar yr un pryd, bydd y llwyfan, sef ffyniant economaidd Cymru, yn codi i uchelfannau newydd.

Mae Creu Sbarc wedi rhoi cychwyn arni. Rydym ar y ffordd. Ar 28ain Mehefin, daeth grŵp o 300 o brif arweinwyr o bob cwr o’r ecosystem at ei gilydd i danio brwdfrydedd a dechrau Creu Sbarc. Mae’r llwyfan digidol wedi’i lansio ar ei ffurf sylfaenol yn creusbarc.cymru. Mae dros 200 o “addewidion” wedi dod i law gydag unigolion a chorfforaethau yn ymrwymo Amser, Talent a Thrysor (ffisegol a chyfalaf) i gefnogi’r achos. Mae asgwrn cefn Creu Sbarc yn cael ei ffurfio ac rydym wedi dechrau creu mudiad a fydd yn gweld y 300 yn tyfu i 3000 yn y tymor agos.

Bydd yn rhaid i bob elfen o'r ecosystem ehangach chwarae ei rhan, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny; rhwydweithiau entrepreneuraidd, busnesau bach a chanolig, Cwmnïau sy’n Bwysig yn Rhanbarthol, Cwmnïau Angori, Prifysgolion, Deoryddion a Sbardunwyr, cyrff Diwydiant, darparwyr cyllid, cyrff proffesiynol a’r rhai sy’n cymryd rhan ym Margen Ddinesig Caerdydd ac Abertawe.  

Pan fydd yr ecosystem ehangach yn cydweithio, bydd pawb yn gyfrifol am geisio #CreuSbarc wrth gyflymu ein twf cenedlaethol a llywio ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol i lefelau nad oeddent yn cael eu hystyried yn bosib yn flaenorol. Mae’n her enfawr, yn weledigaeth ragorol, ond drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud hyn.  Entrepreneuriaeth wedi'i Seilio ar Arloesedd (ac Intrapreneuriaeth) yw’r allwedd. Mae’n rhaid i ni roi hunan-ddiddordeb o’r neilltu a chydweithio yn hytrach na chystadlu wrth adeiladu’r gymuned. Drwy gydweithio, nid oes amheuaeth y byddwn ni i gyd yn fwy cyfoethog, gyda’n gilydd.  #CreuSbarc