Arbenigwr Menter NatWest yn cymryd yr awenau i arwain Creu Sbarc

Mae Caroline Thompson wedi cael ei henwi fel arweinydd Creu Sbarc, y mudiad arloesedd ac entrepreneuriaeth sydd newydd ei lansio.

Caroline yw rheolwr datblygu entrepreneuriaid NatWest ar hyn o bryd, sy'n goruchwylio’r ganolfan Entrepreneurial Spark dan weithrediad NatWest yng Nghaerdydd. Bellach mae NatWest yn un o’r busnesau mawr cyntaf yng Nghymru sy’n addo cefnogi Creu Sbarc drwy ariannu secondiad Caroline i rôl y Prif Weithredwr.

Lansiwyd Creu Sbarc fis diwethaf, sef mudiad sydd wedi'i greu i gysylltu pobl o’r un anian a dod ag arloesedd ac entrepreneuriaeth at ei gilydd. Fel un o brif randdeiliaid y mudiad, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Creu Sbarc drwy gyfateb nawdd y sector preifat a chaniatáu i un o swyddogion Llywodraeth Cymru fynd ar secondiad.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith “Roeddwn yn falch iawn o gael lansio’r mudiad Creu Sbarc fis diwethaf.  Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi entrepreneuriaeth wedi’i seilio ar arloesedd wrth galon ein hymdrechion i greu swyddi a rhoi hwb i’r economi.  I wneud hyn, mae angen i ni reoli grym ac effaith ein hymdrechion ar y cyd, gan gydnabod y rôl y gall pob un ohonom ei chwarae er mwyn rhoi hwb i amcan cyffredin.”

Mae naw o’r ffigurau amlycaf o’r byd busnes a’r byd economaidd yng Nghymru wedi dod ynghyd i sbarduno’r mudiad hwn, gyda nod o greu cymuned fydd yn helpu i weddnewid Cymru, ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a sbarduno mwy o fusnesau newydd, mwy o arloesedd a masnacheiddio, mwy o gyfleoedd a mwy o swyddi. 

Dyma’r naw unigolyn: Ashley Cooper o Catalyst Growth Partners; yr Athro Simon J. Gibson o Wesley Clover Corporation; yr Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru; yr Athro Hilary Lappin-Scott o Brifysgol Abertawe; Dan Mines o'r Admiral Group; Dr Drew Nelson o IQE plc; Hayley Parsons, sylfaenydd GoCompare.com; a James Taylor, sylfaenydd SuperStars.

Bydd Caroline yn ymgymryd â swydd Prif Weithredwr y Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Creu Sbarc sydd newydd ei ffurfio, ac a fydd yn gweithredu fel asgwrn cefn i'r broses o greu’r Gymuned Entrepreneuriaeth wedi'i Seilio ar Arloesedd. Bydd y CIC yn cael ei Gadeirio / Cyfarwyddo gan Ashley Cooper, Caroline Thompson a Dan Mines, gyda’r Panel presennol ehangach o naw o bobl yn cael ei gadeirio gan Simon Gibson, a fydd yn ymgymryd â rôl weithredol yn mynd i’r afael â Chyfeiriad Strategol.

Mae Creu Sbarc yn deillio o Raglen Datblygu Entrepreneuriaeth Rhanbarthol Sefydliad Technoleg Massachusetts y gwnaeth Cymru ymuno â hi yn 2015. Mae’n fenter fyd-eang wedi ei dylunio i helpu rhanbarthau i gyflymu twf economaidd a chreu swyddi drwy entrepreneuriaeth wedi’i seilio ar arloesedd.

Meddai Caroline: “Rwyf wedi cyflawni amrywiaeth o rolau i NatWest ers 28 o flynyddoedd, ond y cyfnod rwyf wedi'i dreulio yn arwain y ganolfan Entrepreneurial Spark yng Nghaerdydd yw un o’r rhai mwyaf gwerth chweil i mi ei gael erioed gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi ddefnyddio fy mrwdfrydedd dros entrepreneuriaeth ac arloesedd. Mae gan Gymru economi entrepreneuraidd fywiog, sy'n ehangu, ac mae'r ecosystem sy'n cefnogi hyn eisoes yn gryf. Creu Sbarc yw’r cam naturiol nesaf yn y broses o esblygu’r strwythur cefnogi hwn, a bydd yn dod â rhwydwaith o unigolion a sefydliadau at ei gilydd i ddefnyddio’r egni a’r dalent sydd eisoes ar gael yma a'u symud i’r lefel nesaf.”

Meddai Kevin Morgan, cyfarwyddwr rhanbarthol bancio busnes Cymru: “Mae gan Gymru gwmnïau ysbrydoledig wedi’u sefydlu gan entrepreneuriaid yr un mor ysbrydoledig. Ond mae angen i ni weld mwy fyth o entrepreneuriaeth, arloesedd a chydweithio, yn ogystal â buddsoddiad, os ydym am i'n heconomi a’n cymunedau ffynnu a llwyddo.

“Mae NatWest eisoes wedi dod â Entrepreneurial Spark i Gymru, sy'n darparu cefnogaeth, adnoddau mentora, rhwydweithio a swyddfeydd i entrepreneuriaid yn lleoliad blaenllaw Sgwâr Canolog Caerdydd. Yn ei chwe mis cyntaf, fe wnaeth y ganolfan gefnogi 64 o fusnesau a lwyddodd rhyngddynt i greu 95 o swyddi, codi £1.05 miliwn mewn buddsoddiad a sicrhau cyfanswm trosiant o dros £6.4 miliwn.

“Gofynnir i fusnesau, y byd academaidd ac unigolion o bob cwr o Gymru addo cefnogi Creu Sbarc, ac mae cwmni NatWest yn falch o chwarae ei ran drwy ddarparu amser, arbenigedd a thalent Caroline. Mae hon yn fenter arloesol a byddwn yn annog eraill i feddwl beth y gallant hwythau hefyd ei wneud i helpu i gefnogi twf economaidd ac arloesedd drwy gyflwyno eu haddewid eu hunain i Creu Sbarc.”

Mae Creu Sbarc bellach yn galw ar yr holl randdeiliaid, p’un ai a ydynt yn entrepreneuriaid, yn fusnesau, yn asiantaethau cymorth, yn sefydliadau academaidd, neu’n ddarparwyr cyfalaf i gefnogi’r rhaglen yn frwd drwy gofrestru yn www.creusbarc.cymru/, dilyn @creusbarc ar twitter, defnyddio’r hashnod #CreuSbarc mewn unrhyw weithgaredd sy'n hyrwyddo Entrepreneuriaeth wedi'i Seilio ar Arloesedd ymysg grŵp o randdeiliaid cysylltiedig, hyrwyddo a darparu cynnwys digidol, darparu cysylltiad rhwng y grwpiau rhanddeiliaid a gwneud addewid i gefnogi. Gyda’n gilydd fe allwn wneud gwahaniaeth.