Aimee Bateman, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr CareerCake.com

Ar ôl treulio degawd ym maes recriwtio, roedd Aimee Bateman ar dân eisiau helpu pobl frwdfrydig sy’n ceisio gwaith mewn marchnad sy'n fwyfwy cystadleuol... ac roedd ganddi’r sgiliau a'r arbenigedd i wneud i hynny ddigwydd. Camera ail law, rhywfaint o gameos cathod a - voilà - ffurfiwyd Careercake.com.

Mae Careercake.com yn llwyfan dysgu ar-lein aflonyddgar sydd wedi ennill gwobrau, ac mae’n cynnig mynediad ar-alw 24/7 at gyrsiau hyfforddi busnesau a gyrfaoedd, sy’n cael eu darparu gan arweinwyr byd-eang a phobl brofiadol yn y diwydiant.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Gweithio mewn tîm.

Wyt ti’n hoffi codi ar fore dydd Llun?

Ydw, dwi wrth fy modd gyda bwyd ac felly mae meddwl am fwyta brecwast yn gwneud i mi godi yn y bore fel arfer. Dwi’n hoffi bwyd.

Y bore neu'r nos?

Bore.

Apple neu Samsung?

Apple.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Fy hoff bodlediad yw Chase Jarvis (Prif Weithredwr/sylfaenydd Creative Live). Mae ei gyfweliadau â phobl greadigol, sefydlwyr ac entrepreneuriaid amrywiol wedi bod yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth i mi ar hyd y daith o ddechrau fy musnes. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gwrdd ag ef yn Utah ychydig fisoedd yn ôl drwy ffrind cyffredin, ac roedd yn hyfryd. Fy hoff raglen deledu yw West Wing, ac yn ddistaw bach rydw i eisiau i Jed Bartlett fod yn dad i mi.

Y gaeaf neu'r haf?

Haf

Pryd cartref neu decawê?

Tecawê.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Prynu fy nghartref cyntaf, 3 mis ar ôl i mi raddio - bydd pawb sy’n fy adnabod neu sydd wedi gwylio fy sgwrs TEDx yn gwybod pam roedd hynny mor bwysig i mi.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Dwi’n darllen. Dwi’n ceisio darllen llyfr bob wythnos. Rwy'n darllen pethau am hanes, digwyddiadau ffeithiol, bywgraffiadau, hunan-ddatblygu. Dysgu yw fy hoff weithgaredd.

Te neu goffi?

Te.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Y bobl sydd o fy nghwmpas. Mae'n gas gen i fod y person mwyaf peniog mewn ystafell, ac yn ffodus, mae gen i bobl wych, creadigol ac ysbrydoledig o fy nghwmpas. Mae’n swnio’n ystrydebol, ond mae’n wir.

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored.

Beth yw dy hoff beth di am y swydd?

Y bobl hynod o ddawnus rydw i’n cael gweithio gyda nhw bob dydd. Mae’n bleser gennyf ddweud fy mod i wedi sefydlu grŵp o'r bobl fwyaf dawnus a brwdfrydig yn y diwydiant.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Paid â threulio cymaint o amser ac ymdrech yn poeni am gael dy ‘hoffi’ gan ferched eraill. Ni fydd y rhan fwyaf o’r bobl hyn yn ffrindiau gyda thi mewn 10 mlynedd beth bynnag, felly rho’r gorau i dreulio amser mewn safleoedd bws yn yfed seidr ac yn ysmygu sigaréts, a dechreua ddarllen llyfrau ac addysgu dy hun.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel i mewn.