Adolygiad Rose

Yn unol â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019, cafodd Adolygiad Rose, a gomisiynwyd gan y llywodraeth, ei gyhoeddi. Mae’r adolygiad yn edrych ar y rhwystrau sy’n wynebu menywod mewn busnes, a beth y gellir ei wneud i’w goresgyn.

Rose Review

Cafodd Alison Rose, Prif Weithredwr bancio masnachol a phreifat yn NatWest ac awdur yr adolygiad, ei phenodi gan Robert Jenrick, ysgrifennydd Siecr y Trysorlys, i ganfod y bwlch entrepreneuraidd rhwng y rhywiau a beth y gellid ei wneud i'w leihau. Mae ei chanfyddiadau’n dangos bod entrepreneuriaid benyw wedi’u tangynrychioli mewn sectorau uchel eu gwerth fel gweithgynhyrchu, TG a chyfathrebu, a gwasanaethau ariannol.

Daw’r wybodaeth hon ymysg ystadegau diddorol eraill, ynghyd â’i chyngor ar sut y gallwn ni ddechrau gweithio gyda'n gilydd i oresgyn yr anawsterau hyn.

“Mae arnom angen y creadigrwydd a’r arloesi sy’n dod o amrywiaeth er mwyn dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn byw sy’n newid yn gyflym o’n cwmpas. Nod yr adroddiad hwn i helpu i adeiladu economi gryfach, fwy cynhyrchiol, drwy wneud y DU y wlad orau yn y byd i fenywod gychwyn a thyfu busnesau newydd ynddi.” – Alison Rose

Cliciwch yma i weld Adroddiad Rose yn llawn drwy NatWest.  

#RoseReview