Addysg Fenter - 3 pheth tebyg rhwng Cymru a Japan

Yma, mae Lauren Davies, Cynghorydd Entrepreneuriaeth yn y Ganolfan Entrepreneuriaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn rhannu’r hyn a ddysgodd yn dilyn ei hymweliad addysg fenter â Japan.

Ar ddiwedd mis Medi, treuliais dri diwrnod yn Japan fel rhan o ymweliad astudio Addysgwyr Menter y DU (EEUK), gyda’r nod o rannu arfer da ym maes addysg fenter. Roeddwn wrth fy modd i gael fy newis ar gyfer y cyfle cyffrous hwn, yn ogystal â’r ffaith mai fi oedd yr unig addysgwr o sefydliad Cymreig a oedd yn cymryd rhan. Yr oedd y ddirprwyaeth yn cynnwys 10 unigolyn o bob rhan o’r DU, sy’n gweithio mewn gwahanol swyddi yn cwmpasu addysg fenter. 

Rhannwyd y ddirprwyaeth yn ddau dîm, un yn ymweld â Tokyo a’r llall ag Osaka. Roeddwn i yn nhîm Osaka ac er mai dim ond cyfnod byr a dreuliais yno, gwelais ei bod yn ddinas hynod lewyrchus a chyffrous. Yn hanesyddol, Osaka oedd canolfan fasnachol Japan, ond erbyn hyn, mae llawer o gwmnïau newydd disgleiriaf y ddinas yn tueddu i symud i Tokyo neu ymhellach na hynny. Wrth edrych yn ôl ar yr ymweliad, dyma dair gwers a ddysgais o ganlyniad: 

1. Mae ofni methiant yn rhwystr cyffredin i gychwyn menter

Roedd yn ddiddorol sylwi bod Japan yn rhannu llawer o heriau gyda Chymru, yn enwedig o ran y ffaith bod ofni methiant yn rhwystr allweddol i entrepreneuriaeth. Tynnodd y cynadleddwyr o Japan sylw at y ffaith y byddai rhieni yn aml yn annog eu plant i beidio ag ymgymryd ag entrepreneuriaeth, gan fod yn well ganddynt eu gweld yn dewis gyrfa ‘ddiogel’ (mwy traddodiadol).

Mae hyn yn adlewyrchu’r sefyllfa yng Nghymru, sydd â lefel is o Fwriad Entrepreneuraidd na’r DU yn ei chyfanrwydd, gyda 38% o’r boblogaeth yn cael eu rhwystro rhag dechrau busnes oherwydd eu bod yn ofni methiant (Global Entrepreneurship Monitor). Tynnwyd sylw at bwysigrwydd modelau rôl cadarnhaol ym maes entrepreneuriaeth fel dull allweddol o oresgyn y rhwystr hwn, a nodwyd rhaglen modelau rôl Syniadau Mawr Cymru fel arfer da.  

2. Arloesi Technolegol yn allweddol

Yr oedd Arloesi Technolegol, sef arloesi sy’n cael ei alluogi drwy gynnydd mewn technoleg, yn faes ffocws ar gyfer pob prifysgol y buom yn ymweld â hwy, ac yn flaenoriaeth hefyd i lywodraethau lleol. Er enghraifft, mae Llywodraeth Dinas Osaka yn ceisio cynhyrchu busnesau technolegol newydd drwy Ganolfan Arloesi Osaka sy’n anelu at efelychu llwyddiant Silicon Valley. Mae’r Ganolfan Arloesi wedi’i lleoli mewn canolfan siopa brysur lle y gall siopwyr roi prawf ar fersiynau beta o’r dechnoleg ddiweddaraf. Unwaith eto, mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sefyllfa yma yng Nghymru lle y mae’r economi ddigidol yn sector blaenoriaeth ac entrepreneuriaeth sy’n cael ei gyrru gan arloesedd yw ffocws y cynllun Creu’r Sbarc.

3. Mynd i’r afael â phroblemau gwirioneddol yw’r ffocws

Un peth a’m trawodd i ym mhob un o’r prifysgolion oedd eu pwyslais ar ddefnyddio addysg fenter i fynd i'r afael â phroblemau go iawn. Mae Japan yn wynebu llawer o heriau cymdeithasol megis poblogaeth sy’n heneiddiol a llygredd aer; diddorol oedd dysgu sut y mae’r heriau hyn yn cael eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth. Unwaith eto, adlewyrchir hyn yng Nghymru, yn enwedig yn fy mhrofiad fy hun ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle y mae digwyddiadau fel hacathonau wedi bod yn allweddol o ran ennyn diddordeb ystod eang o fyfyrwyr mewn addysg fenter. Gyda thwf entrepreneuriaeth gymdeithasol, mae pwyslais cynyddol ar gymhwyso sgiliau a meddylfryd entrepreneuraidd yn ehangach, a’r buddion i gymdeithas yn ei chyfanrwydd. 

Gair am yr awdur

Gyda chefndir mewn marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, ymunodd Lauren a’r  Ganolfan Entrepreneuriaeth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2013 mewn rôl oedd yn cwmpasu cynllunio a darparu addysg entrepreneuriaeth a mentergarwch o fewn lleoliad allgyrsiol, â hyrwyddo gweithgareddau i fyfyrwyr yn y brifysgol. Mae rôl Lauren yn cynnwys cefnogi entrepreneuriaid presennol a darpar entrepreneuriaid yn ogystal â datblygu sgiliau mentrus a meddylfryd myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth eang o gyd-destunau.

Mae rôl Lauren hefyd yn cynnwys gweithio gyda staff academaidd i gynnwys mentergarwch yn y cwricwlwm ac yn cyfrannu at nodau strategol y brifysgol o ran entrepreneuriaeth. Yn 2014, dyfarnwyd cymrodoriaeth i Lauren gan y Ganolfan Genedlaethol Entrepreneuriaeth mewn Addysg (NCEE) wedi iddi gwblhau’r Rhaglen Addysgwyr Entrepreneuriaeth Rhyngwladol.  Mae Lauren ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer MSc mewn Marchnata Strategol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn arwain ar ddarparu cynnwys marchnata i fyfyrwyr drwy weithdai y Ganolfan yn ogystal â chyfrifoldeb cyffredinol dros marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn y Ganolfan.