4 rheswm yr Hwb Menter @M-Sparc i gefnogi entrepreneuriaid lleol
Mae’r Hwb Menter @M-SParc, a sefydlwyd i helpu pobl i ddechrau eu busnes eu hunain drwy gynnig gofod am ddim, cymuned o unigolion ar yr run siwrne a chyngor busnes yn credu y gall pawb helpu.
Gallwn i gyd gefnogi entrepreneuriaid lleol. Mae manteision mawr mewn prynu a chefnogi busnesau lleol ac mae'n allweddol i dwf economaidd lleol:
- Cyflogau uwch
Mae gan Ogledd-orllewin Cymru un o'r cyflogau cyfartalog isaf yn y DU – o leiaf £5, 000 yn is na chyfartaledd y DU. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ffordd o fyw, a'r cyfleoedd cyffredinol i bobl sy'n byw yn y rhanbarthau hynny. Dyfalwch pwy sy'n talu mwy na'r isafswm cyflog fel arfer? Nid siopau cadwyn mawr. Mae busnesau bach lleol yn deall sut i ddarparu cyflog teg, a beth yw gwerth eu gweithwyr.
Sut mae'n gweithio – drwy wario arian yn lleol, byddwch yn darparu swyddi lleol ac yn helpu'r busnes hwnnw i dyfu!
- Gwariant cylchol
Os ydych yn prynu o siop gadwyn fawr, ac mae hyn yn berthnasol i bopeth o dorri gwallt, i gyfreithiwr, i bâr o drowsus, mae'r arian yn mynd i'r cwmni. Nid yw'n dod ag unrhyw beth i'r man lle'r ydych yn byw. Os ydych yn prynu o fusnes lleol, mae'r arian yn mynd i berson lleol , yn aml yn uniongyrchol i'r perchennog busnes sy'n byw yn yr ardal leol. Yr arian a wnânt, maent yn gwario! Maent yn gwario ar roi bwyd ar y bwrdd, i gadw to dros eu pen a phrynu dillad ar gyfer eu plant. Ac oherwydd eu bod yn gwybod beth yw gwerth gwariant lleol, maen nhw'n fwy tebygol o wario'r arian y maen nhw'n ei ennill yn lleol – boed yn orsaf betrol leol, tafarn leol, neu'n gigydd lleol. Mae hyn yn rhoi arian i mewn i bocedi busnes lleol eraill, ac felly mae'r gwariant cylchol yn parhau i fod o fudd i'r ardal!
Sut mae'n gweithio – os ydych chi'n dechrau ariannu busnesau llai, maen nhw'n tyfu, ac maen nhw'n gwario mewn busnesau lleol eraill sy'n tyfu ... Rydych chi'n lluosi nifer yr entrepreneuriaid lleol!
- Bargeinion gorau
Mae pobl yn aml yn credu eu bod yn cael y bargeinion gorau ar-lein, felly yn mynd ar-lein am bopeth o yswiriant i esgidiau i wyliau. Oeddech chi'n gwybod; pan ydych yn siopio ar-lein, mae eich porwr yn olrhain eich hanes prynu drwy ' gwcis ' ac yn awgrymu hysbysebion a chynyddu prisiau yn dibynnu ar yr hyn rydych yn teipio ynddo? Yn y bôn, mae siopa ar-lein yn dangos cynnigion sydd o fudd i'r gwerthwr. Wrth siopia yn lleol, byddwch yn cael siarad wyneb yn wyneb â rhywun a’r prif gymhelliad o gadw eu busnes yn fyw ac yn llwyddiannus – fydd yn cynnig buddion a bargeinion gwirioneddol fydd o fudd i chi fel prynwr. Ac wrth gwrs, mae gennych rywun go iawn i siarad ag ef os bydd unrhyw beth yn mynd o'i le ac angen ei ddatrys.
Sut mae'n gweithio – rydych chi'n defnyddio'r entrepreneuriaid lleol hyn er eich budd chi a nhw, gan adeiladu cymuned leol!
- Yr amgylchedd
Dywedodd David Attenbourgh wrthym, bod angen i ni feddwl am newid yn yr hinsawdd. Dychmygwch faint o filltiroedd awyr y mae eich eitemau yn eu cymryd i'ch cyrraedd, heb sôn am y deunydd pacio sy'n creu gwastraff, a'r drafferth o ddychwelyd yr eitem. Os ydych yn siopa'n lleol, mae popeth mewn un lleoliad a byddwch yn lleihau eich effaith carbon. Mae lle rydych chi'n gwario'ch arian yn effeithio ar y ddaear.
Sut mae'n gweithio – rydych chi'n gwybod erbyn hyn, drwy wario'n lleol, rydych chi'n cefnogi ac yn creu entrepreneuriaid lleol. Drwy gymryd y cam hwn rydych chi hefyd yn gwneud dewis ymwybodol i newid y byd!
Efallai eich bod erbyn hyn wedi sylweddoli eich bod yn ddipyn o newidwr byd ac efallai wedi'ch ysbrydoli i fod yn entrepreneur eich hun, rydym yma yn yr Hwb Menter eisiau eich helpu chi. Cysylltwch â ni i weld sut y gallwn eich cefnogi ar eich taith i ddod yn entrepreneur lleol!
Ariannir yr Hwb Menter gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
01248 858070