3 mis i’r diwrnod ers lansio CreuSbarc

CreuSbarc yw canlyniad 2 flynedd o gydweithio gyda'r Ysgol Reolaeth MIT Sloan yn Boston drwy Raglen Sbarduno  Entrepreneuriaeth Ranbarthol (REAP).

Lanswyd CreuSbarc ar 28 Mehefin 2017, gyda 300 o arweinwyr a dylanwadwyr ledled Cymru yn dod at ei gilydd o bum grŵp rhanddeiliaid allweddol sef; Entrepreneuriaid, Llywodraeth, Corfforaethol, Academia a Chyfalaf Risg.

Gwnaed dros 200 o addewidion yn ymrwymo yn bersonol i gymryd camau i annog cydweithio rhwng y grwpiau rhanddeiliaid ac i ysgogi entrepreneuriaeth wedi ei yrru gan arloesi yng Nghymru.

Ond dim ond y cychwyn yw’r digwyddiad hwn.