10 munud gyda….yr Athro Rob Rolley

Mae gan Rob, sy’n rhedeg y cyfleuster EDGE Innovation ar ran General Dynamics UK, 37 mlynedd o brofiad eang yn y diwydiant. Mae Rob yn frwd dros Addysg ym maes Peirianneg. Ef yw Cadeirydd Bwrdd Cynghori Diwydiannol Adran Beirianneg Prifysgol Caerdydd ac mae’n gyfarwyddwr ar fwrdd The ESTnet.

Beth sy’n gwneud i chi godi o’r gwely ar fore Llun?

Sŵn aflafar fy nghloc larwm! Yna af i lawr y grisiau am baned o de poeth. Bydd Einstein, ein hen gath, neu Henry, y ci defaid Cymreig, yn aml yn fy nilyn. Maen nhw’n fwy brwdfrydig na fi o lawer dros eu brecwast!

Beth fyddech chi’n dweud yw eich prif gyflawniad?

Magu pump o blant, bod â rhywfaint o wallt ar ôl ar fy mhen a’r ffaith nad ydw i wedi colli fy iawn bwyll...eto. Fe wnes i ysgrifennu a chyfarwyddo pantomeim cyfan, ond mae hynny ar gyfer fforwm gwahanol...

Te neu Goffi?

Te, a llawer ohono. Dwi yn hoffi coffi o bryd i’w gilydd ond mae’n rhaid ei fod wedi’i wneud o’r ffa gorau. Mae coffi gwael yn ofnadwy. Dydw i ddim yn hoff o’r ‘coffi ystafell gyfarfod’ a gaiff ei weini mewn yrnau...bydda i’n dechrau cnoi fy mhensiliau ar ôl ychydig o’r rheini. Mae’n fwy anodd gweini te gwael.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrthoch chi’ch hun yn 16 oed?

Ar wahân i brynu ambell i gyfranddaliad yn Google a Facebook pan ddaethant ar y farchnad gyntaf, dwi’n meddwl bod profiad wedi dangos i mi pa mor bwysig yw delio â’r pethau anodd o’r cychwyn cyntaf, bod yn barod amdanyn nhw a sicrhau fy mod i’n dysgu gwersi. Wrth weithio gyda thechnoleg arloesol, dwi’n meddwl yn aml fod gormod o amser yn cael ei dreulio ar ddechrau rhaglen. Oes, mae angen dyluniad da ond integreiddio systemau yw’r cam lle mae peirianneg yn dechrau mynd yn gymhleth. Mae’r byd yn tueddu i gyflwyno heriau go iawn i chi fynd i'r afael â nhw. Gyda thechnoleg newydd, dyma’r cam lle bydd angen peirianyddion clyfar arnoch chi sydd â’r profiad a’r ddealltwriaeth fanwl i ddod o hyd i’r atebion peirianyddol clyfar ac effeithiol. Mae methodoleg hyblyg yn helpu, ond mae angen i chi fod yn ddigon clyfar i ateb... “Pam bod hyn yn digwydd?! Ddylai hyn ddim digwydd”.  

Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser hamdden?

Gwrando ar gerddoriaeth neu ei chreu. Fel cerddor, ac rydw i’n defnyddio’r term yn llac, rydw i wrth fy modd yn chwarae nifer o offerynnau gydag ambell i fand lleol. Mae perfformio i safon resymol yn gofyn am ymarfer ond mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd pan fyddwch chi’n chwarae gyda phobl eraill. Rydych chi’n synhwyro, o edrych arnyn nhw, beth maen nhw am ei wneud nesaf. Eleni rydw i wedi chwarae nifer o gyngherddau elusennol ac fe wnaeth pobl dalu arian go iawn i ddod i’n gweld...ond efallai eu bod yn talu i ni roi’r gorau iddi?!

Beth yw eich hoff beth am eich swydd?

Cwrdd â phobl ymrwymedig ac egnïol yn yr ystod eang o gwmnïau a sefydliadau rwy’n dod i gysylltiad â nhw a gweithio gyda nhw. Y bobl sy’n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. Maen nhw’n sefyll allan.

Beth yw'r un peth a fyddai'n annog mwy o weithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru?

Mae’n anodd dewis un peth yn unig, gan fod llawer yn mynd rhagddo’n barod... Efallai mai parhau i wneud Cymru yn lle deniadol i ffynnu, felly i mi, mae hynny’n golygu sicrhau bod yr holl anghenion eraill sy’n bwysig i bobl - fel iechyd, addysg, manwerthu a thrafnidiaeth yn dda neu’n well nag ardaloedd sy’n cystadlu. Mae gan bob un ei ‘heriau’...ydych chi erioed wedi gyrru i mewn i Gaerdydd yn y bore...?

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Yn aml, mae llwyddiant peirianyddol yn seiliedig ar stori ddifyr. Gallwch chi wneud neu golli llawer o arian mewn eiliadau ar y farchnad stoc, ond dydy hynny ddim yn creu argraff arna i. Y bobl sydd wedi gweithio, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn, ac wedi dal ati a chyflawni rhywbeth sy’n para ac yn newid bywydau pawb - nhw sy’n fy ysbrydoli i. 

Beth yw eich prif gyngor ar gyfer ennill cyflwyniad busnes (business pitch)?

Deall beth mae eich cynulleidfa eisiau ei gael. Ar gyfer cyflwyniad busnes, rydych chi’n gofyn i rywun roi eu harian i chi - arian maen nhw wedi gweithio’n galed i’w ennill.  Rhowch eich hun yn eu sefyllfa nhw. Peidiwch â gwneud y cyflwyniad yn rhy dechnegol (ond gwnewch yn siŵr fod gennych chi fanylion wrth law, os bydd angen), byddwch yn gywir ac yn gryno ynghylch y manteision a pham y byddant yn gwneud elw ac ym mha ffordd. Atebwch y cwestiynau pwysig - “Pam ydw i eisiau un o’r rheini a sut y bydd o fudd i mi/fy musnes”?

Beth yw eich hoff sioe deledu/podlediad a pham?

Dydw i ddim yn tueddu i wylio llawer bellach. Rhaglenni dogfen ar fandiau roc y 70au mae’n siŵr...maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n iach, yn ffit ac yn iau.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel i mewn yn bendant, gyda bwyd cartref da, gwin da a hyd yn oed coffi da!