10 MUNUD GYDA...Steve Dimmick, un o gydsylfaenwyr doopoll

Mae Steve yn un o gydsylfaenwyr doopoll - llwyfan i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chasglu safbwyntiau drwy arolygon syml a phwerus mae pobl yn mwynhau eu llenwi. Enillodd y cwmni Wobr Cwmni Technoleg Newydd Syr Michael Moritz yn 2016.

Mae Steve hefyd yn arwain digwyddiadau Dydd Mawrth Digidol (digwyddiad misol sy’n dod â chymuned ddigidol a thechnolegol Cymru ynghyd) ac yn rhedeg CardiffRead (yn syml iawn, clwb llyfrau gorau Caerdydd!).

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Tîm bob tro.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Fy mhlant, a’r ffaith bod angen i mi wneud paned i’r wraig a finnau.

Y bore neu'r nos?

Y bore.

Apple neu Samsung?

Dim un.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur yn dy farn di?

Dewrder. Bod yn ddigon dewr i sefyll dros eich egwyddorion, ac i fentro’n ofalus pan nad oes gan bobl ffydd ynoch chi.

Y gaeaf neu'r haf?

Yr haf.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?
Paid â phoeni am fod yn wahanol – mae bod yn wahanol yn beth da. Mae gan Kurt Cobain ddyfyniad gwych: 

"They laugh at me because I'm different, I laugh at them because they're all the same."

Dydw i ddim yn meddwl bod pobl ifanc yn ymhyfrydu yn eu natur unigryw eu hunain, ac mae hynny’n drueni mawr. Dwi’n meddwl y byddwn i wedi cyflawni pethau’n gyflymach petawn i wedi bod yn fwy parod i ddilyn fy nghalon yn ogystal â fy mhen.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Dysgu siarad Cymraeg. Defnyddio’r iaith bob dydd yn y cartref ac yn y gwaith, ac annog pobl eraill i’w defnyddio hefyd.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Ymm...alla i fentro dweud noson dawel i mewn?!

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Roeddwn i’n arfer gwneud llawer o ymarfer corff, yn rhedeg yn aml ac yn chwarae rygbi. Yn anffodus, daeth hynny i ben yn sgil anafiadau. Felly pan nad ydw i’n dacsi i fy mhlant, yn eu cludo i wahanol glybiau ar ôl ysgol ac ati, rydw i’n mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dwi wir yn mwynhau dysgu ieithoedd, ac rydw i’n rhedeg read.co.uk Caerdydd hefyd.

Te neu goffi?

Coffi.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Fy nhad - roedd yn entrepreneur, yn fardd ac yn bysgotwr brwd - a fy nghydsylfaenwyr, Marc a Sam. Rydw i wedi dysgu cymaint ganddyn nhw yn ystod blynyddoedd cyntaf doopoll.

Dan do neu’r awyr agored?

Yr awyr agored.

Beth yw dy hoff beth di am dy swydd?

Gweld y cwmni’n sefyll ar ei draed ar ôl cyfnodau anodd, ac yn datblygu. Rydyn ni wedi cael llawer o gyfnodau da a drwg, ond drwy fod yn broffesiynol, yn amyneddgar ac yn barod i ddyfalbarhau, rydyn ni’n gwneud cynnydd gwych.

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Mae hi’n rhy anodd dewis ffefryn. Fe wnaf i gyfaddef i’r rhain, yn dawel bach: Erin Brockovich, Pointless a Say Something In Spanish (ond roedd S-Town yn wych hefyd).