10 munud gyda...Richard Theo - Prif Weithredwr, Wealthify

Mae Wealthify, a grëwyd gan arbenigwyr ym maes buddsoddi, peirianyddion meddalwedd ac entrepreneuriaid sydd ag uchelgais gyffredin i roi newidiadau mawr ar waith a gwneud buddsoddi’n hawdd ac yn fforddiadwy i bawb, yn herio pobl i feddwl yn wahanol a gwneud mwy gyda’u cynilion.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Gweithio fel rhan o dîm, ond mae’n siŵr y byddai rhai yn dweud i’r gwrthwyneb.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Yr awydd i fod yn llwyddiannus.

Y bore neu'r nos?

Y bore.  Rydw i’n codi’n gynnar, ond fel brechdan erbyn 10pm.

Apple neu Samsung?

Apple. Yn anffodus rydw i’n rhan o ecosystem Apple gydag aelodau o fy nheulu.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Optimistiaeth ddi-baid.

Y gaeaf neu'r haf?

Yr haf yn bendant. Rydyn ni’n dioddef gormod o Anhwylder Affeithiol Tymhorol yn y DU.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Paid â chuddio dy allu a dy ddoniau rhag pobl eraill.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Creu dau o blant prydferth.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

98% o nosweithiau tawel i mewn, 2% o nosweithiau allan mawr.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Garddio, gyda fy nheulu, bod yn weithgar.

Te neu goffi?

Coffi, dydw i ddim wir yn deall te.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Natur.

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored.

Beth yw dy hoff beth di am dy swydd?

Cydnabyddiaeth.

Pryd cartref neu decawê?

Tecawê.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

2001 A Space Odyssey.