10 MUNUD GYDA...Matt Jones – PRIF WEITHREDWR S3 ADVERTISING

Gadewais yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a dechreuais ar fy ngyrfa fel un o’r is-gorporaliaid ieuengaf yn y Gwarchodlu Cymreig, gan deithio i Bosnia, Kosovo ac Affganistan. Dywedodd fy sarjant unwaith, "does dim angen unrhyw gymwysterau arnat ti i lwyddo mewn bywyd, ond mae angen i ti fod yn benderfynol". Dyma pryd y dechreuais i godi drwy'r rhengoedd y tu hwnt i’r lluoedd arfog, o Reolwr Cyfrifon i Gyfarwyddwr Cyfrifon yn niwydiant y cyfryngau. Un diwrnod, penderfynais sefydlu fy musnes fy hun o fy atig. Datblygais hynny i greu asiantaeth hysbysebu genedlaethol.

Heddiw, mae’r weledigaeth honno wedi dwyn ffrwyth – mae gennym ni 28 o staff, yn rheoli 60 o gyfrifon cleientiaid, ac yn sicrhau trosiant o fwy na £4.5 miliwn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ennill 4 gwobr RAR, a hynny am fod yr asiantaeth orau o ran Prynu Cyfryngau, Prynu Cyfryngau Ar-lein, Creadigrwydd ac Arloesedd, a Hysbysebu. Yn 2016, cawsom ein cydnabod fel Asiantaeth Hysbysebu'r Flwyddyn gan The Drum, ac fe wnaethom ennill gwobr yr asiantaeth orau yn y DU am sicrhau boddhad i gleientiaid, a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol yng nghyfrifiad digidol The Drum.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Gweithio mewn tîm.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Rwy’n mwynhau treulio fy mhenwythnosau gyda fy nheulu, yn archwilio tirwedd hardd Cymru. Yn ystod yr wythnos, os oes gen i amser hamdden, rwy’n hyfforddi’n rheolaidd mewn campfa leol.

Wyt ti’n hoffi codi ar fore dydd Llun?

Ydw, rydw i ar dân eisiau gwella a llwyddo er mwyn profi bod y rhai sy’n fy amau i’n anghywir.

Te ynteu goffi?

Coffi.

Bore ynteu nos?

Nos.

Beth sy’n dy ysbrydoli?

Fy mhlant. Maent yn fy ysbrydoli i wella bob dydd ac i greu dyfodol diogel a hapus ar eu cyfer nhw.

Apple ynteu Samsung?

Apple.

Dan Do ynteu'r awyr agored?

Yr Awyr Agored.

Beth yw un o’r prif rinweddau sydd ei hangen ar entrepreneuriaid?

Dewrder. Mae angen dewrder i sefyll dros eich egwyddorion a dewrder i fentro’n ofalus pan na fydd pobl eraill yn credu ynoch chi.

Beth yw dy hoff beth di am y swydd?

Y bobl hynod o ddawnus rydw i’n cael gweithio gyda nhw bob dydd. Rydw i sefydlu grŵp o'r bobl mwyaf dawnus a brwdfrydig yn y diwydiant.

Haf ynteu'r gaeaf?

Haf.

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref.

Beth fyddet ti’n ddweud wrtha ti dy hun yn 16 oed?

Paid â phoeni am y problemau llai. Mae angen meddwl am y darlun mwy a’r nodau tymor hir rwyt ti wedi’u gosod i ti dy hun.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Billions. Mae’r cymeriadau yn y sioe yn debyg iawn i rai sydd yma yn S3.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a chael fy enwi yn Entrepreneur y Flwyddyn yn 2016 fel perchennog asiantaeth hysbysebu genedlaethol sydd wedi ennill nifer o wobrau.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson allan fawr.