10 munud gyda...Karina Sudenyte - Get Wonky

Karina yw un o gyd-sylfaenwyr Get Wonky; busnes sudd naturiol sy’n ceisio mynd i’r afael â’r broblem gynyddol o wastraff ac aneffeithlonrwydd ym maes cynhyrchu bwyd a diod. 

Mae’r busnes newydd sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn cynhyrchu amrywiaeth o suddion sy’n cynnwys ffrwythau wedi’u pigo â llaw yn unig, waeth beth fo’u maint a’u siâp.

Mae Karina yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru ac enillodd Wobr ‘Smarter Future’ Shell LiveWIRE am ei busnes ym mis Ionawr 2017.

 

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Arogl hyfryd brecwast a’r awydd i gyflawni mwy sy’n gwneud i mi godi o’r gwely ar unwaith.

Beth fyddet ti’n dweud yw dy gyflawniad mwyaf?

Bod lle rydw i nawr o ran cynnydd y busnes yw fy nghyflawniad mwyaf. Dim ond pedwar gair all ddisgrifio taith fy menter busnes hyd yn hyn: gwaith caled, optimistiaeth a phenderfyniad.

Te neu Goffi?

Te 'Earl Grey’.

Beth fyddet ti’n dweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

I fod y gorau a’r mwyaf, mae’n bwysig credu ynot ti dy hun. Fydd neb arall yn credu ynot ti gymaint ag y byddi di’n gwneud!

Beth wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?

Mae cinio da yn fy ngwneud i’n hapus. Rydw i wrth fy modd yn coginio, nid dim ond i fi, ond i fy nyweddi hefyd. Mae’r ddau ohonom wrth ein bodd â bwydydd newydd ac unigryw. Yn aml, pan fydd chwant bwyd arnom, byddwn yn mwynhau blasu bwydydd y byd.

Beth yw dy hoff beth am redeg dy fusnes dy hun?

Mae rhedeg eich busnes eich hun yn eich grymuso chi. Gweithio drosoch chi’ch hun i gyflawni eich nodau eich hun yw’r freuddwyd.  

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Mae hyder yn allweddol i lwyddiant. Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid i entrepreneur go iawn gredu ei fod yn gallu llwyddo.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Mae cwrdd â phobl, ymweld â llefydd, teithio a rhwydweithio gyda phobl yn fy ysbrydoli I.

Beth yw dy gyngor di ar gyfer cyflwyno cynnig busnes llwyddiannus?

Byddwch yn wahanol, yn ddiffuant, yn hyderus, yn frwdfrydig, yn naturiol - dangoswch eich bod chi wrth eich bodd gyda beth rydych chi’n ei wneud.

Beth yw dy hoff sioe deledu/podlediad a pham?

Dydw i ddim yn gwylio llawer o sioeau teledu.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel i mewn.