10 munud gyda…James Robinson

James yw’r rheolwr-gyfarwyddwr yn asiantaeth hysbysebu Hello Starling yng Nghaerdydd. Ar ôl dilyn gyrfa mewn hysbysebu awyr agored a radio masnachol, penderfynodd James rwygo’r llyfr rheolau a chreu asiantaeth hysbysebu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Byddai rhan fwyaf o bobl yn dweud eu cloc larwm, ond rydw i’n un sy’n deffro yn gynnar ac yn neidio allan o’r gwely. Deffro gan wybod y byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth i fusnes rhywun arall yw fy ysgogiad mwyaf ar gyfer codi o’r gwely bob bore.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Roedd gwneud ein miliwn o bunnoedd cyntaf yn gamp wych oherwydd roedd cymaint o bobl wedi dweud wrthyf na ellid ei wneud neu nad oeddwn i’n hanner call. Ambell waith, pan mae rhywun yn dweud wrthych chi na ellwch chi wneud rhywbeth, mae’n eich annog chi ymlaen er mwyn profi i bobl eu bod nhw’n anghywir!

Te neu Goffi?

Pam ydych chi’n rhoi eich hun mewn cyfyng-gyngor? Mae’r ddau yn rhyfeddol. I mi, rydw i’n yfed coffi yn y bore a the yn y prynhawn.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Peidiwch â meddwl gormod am syniad, dim ond cychwyn arno. Nid oes gwell diwrnod na heddiw i ddechrau busnes.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Pan nad wyf yn cymdeithasu gyda ffrindiau neu deulu, rydw i wrth fy modd yn eistedd a gwylio setiau blwch ar y teledu neu’n darllen ffuglen hanesyddol. Mae’n bwysig cael amser i mi fy hun, mae’n rhoi amser ar gyfer gwella’ch corff a’ch meddwl.

Beth yw eich hoff beth am redeg eich busnes eich hun?

Y bobl a’r amrywiaeth. Rydw i’n cael gweithio gyda rhai pobl ryfeddol sy’n fy atgoffa bod unrhyw beth yn bosibl os rhowch eich meddwl arno. Rydw i’n falch o beth mae fy nhîm yn ei gyflawni bob dydd ac maen nhw’n parhau i’m rhyfeddu pan nad wyf yn ei ddisgwyl! Yn ail, mae amrywiaeth fy niwrnod yn golygu na allaf fyth fod wedi diflasu. Rydw i’n dysgu pethau newydd yn gyson neu’n clywed am heriau y mae busnesau eraill yn eu hwynebu ac mae hyn yn cadw fy meddwl yn brysur. Ni allwch chi fod yn ddiflas pan ydych chi’n gweithio yn y byd hysbysebu!

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Sgiliau pobl. Mae pobl yn prynu pobl ac mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn gwrando mwy nad yr ydych chi’n siarad. Dim ond pan ydych chi’n gwrando a gadael iddo ymdreiddio y gallwch chi wir werthfawrogi beth mae rhywun yn ei ddweud wrthych chi. Mae busnesau wedi’u hadeiladu ar bobl, ac os yw pobl yn eich hoffi chi, ac os ydych chi’n unigolyn sy’n hawdd gwneud gyda chi, rydych wedyn yn rhoi eich hun yn bendant mewn sefyllfa well i lwyddo.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Fy mam, mae’n debyg. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi dysgu i mi hyd yn oed pan ydych chi’n meddwl nad oes unrhyw bwynt mynd ymlaen, mae’n rhaid i chi oresgyn y broblem a chario ymlaen gyda bywyd, oherwydd nid oes neb arall am ei wneud drosoch chi. Yn wir, mae hi’n un sy’n brwydro ac rydw i’n derbyn cefnogaeth ddiamod ganddi. Mae pawb angen rhywun fel yna yn eu bywydau. Rydw i’n hefyd yn hoffi sut mae fy nai a’m nith wrth eu boddau yn gofyn cwestiynau drwy’r amser. Mae eu chwilfrydedd yn fy atgoffa bod gofyn cwestiynau yn dda oherwydd ei fod yn aml yn eich cael chi i feddwl am rywbeth gwahanol a dyna beth all olygu methu â tharo bargen!

Beth yw eich prif gyngor wrth gynnig syniad busnes?

Ceir dau beth allweddol wrth gynnig syniad busnes:

  1. Gofynnwch i chi eich hun a fyddwn ni yn prynu hwn?  - rhowch eich hun wrth galon a meddwl y cwsmer a gofynnwch i chi eich hun a yw’r hyn yr ydych chi’n ei gyflwyno yn ddigon da ac a fyddech chi’n ei brynu eich hun? Os mai ‘na’ yw’r ateb, peidiwch â’i gyflwyno. Ewch yn ôl at y bwrdd dylunio a gwnewch yn well y tro nesaf.
  2. Sicrhewch nad ydych chi’n drysu eich pen â’r hyn y gall y gystadleuaeth ei chyflwyno. Cyflwynwch y syniad a meddyliwch am y cwsmer, beth maen nhw ei eisiau a sut y gallwch chi wneud hynny ddigwydd? Y mwyaf o amser yr ydych chi’n ei dreulio yn meddwl am eich cystadleuwyr, bydd gennych chi lai o amser i dreulio yn gwneud eich gorau ar ran eich cwsmer, ac yn y pen draw, eich busnes eich hun. Rhowch y cwsmer gyntaf a chanolbwyntiwch ar ddatrys eu problemau nhw!

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Rydw i wrth fy modd yn gwylio Suits. Drama deledu ydyw sydd wedi’i gosod mewn cwmni o gyfreithwyr yn yr Amerig. Rydw i’n mwynhau popeth, o’r sgriptiau at y cymeriadau. Maen nhw i gyd mor benderfynol yn eu ffordd eu hunain, ond yn y pen draw, maen nhw’n gweithio at yr un nod: sicrhau bod eu cwmni cyfreithwyr yn parhau.  Mae’n wych i’w gwylio, ac mae llawer o bethau y gallwch chi eu cymryd er mwyn helpu adeiladu busnes a pherthnasau.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson allan fawr yn bendant. Rydw i’n hoff o noson dawel i mewn o dro i dro, ond yn gyffredinol, mae’n well gen i fod allan gyda’m ffrindiau.