10 MUNUD GYDA...Debbie Garside - Geolang

debbie-garside-geolang

Debbie yw Prif Swyddog Gweithredol a Pherchennog Cynnyrch Scrum Datrysiad Ascema GeoLang, sy'n diogelu cynnwys hollbwysig ar draws ffiniau, a darddodd o brosiect cydweithredol IPCRESS rhwng GeoLang, Prifysgol Surrey a Jaguar LandRover.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Fel entrepreneur fy nod yn y pen draw yw sicrhau bod GeoLang a’r platfform Ascema rydym wedi'i ddatblygu yn llwyddiannus. Rwy'n edrych bob dydd ar y camau mae angen i ni eu cymryd i ddod yn nes at gyrraedd y nod hwnnw. Mae fy ngwaith yn wych am fy ysgogi - does dim un diwrnod yn ddiflas ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae gwybod ein bod ni - Tîm GeoLang, wedi creu rhywbeth hynod arloesol ac o’r radd flaenaf yn fy nghyffroi ac yn fy ysbrydoli bob dydd.

Beth fyddet ti’n dweud yw dy gyflawniad mwyaf?

Cyrraedd mor bell â hyn fel busnes newydd a pharhau i ddatblygu - nid yw bod yn Brif Swyddog Gweithredol cwmni seiberddiogelwch newydd yn rhywbeth i’r gwangalon. Yn broffesiynol, cael y fraint o weithio gyda fy nhîm bob dydd, dylunio datrysiad mae pob un ohonom yn credu ynddo - felly fy nghyflawniad mwyaf yw parhau i ennyn parch, teyrngarwch ac ymddiriedaeth fy nhîm. Ar lefel bersonol, fy mhlant a fy wyrion ac wyresau ac efallai (dim ond ychydig bach!) cyflawni fy PhD er gwaethaf popeth.

Te neu Goffi?

Rwyf wrth fy modd gyda the gwyrdd! Does dim digon ohono i’w gael...

Beth fyddet ti’n dweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Creda ynot ti dy hun a bydd eraill yn credu hefyd. 

Beth wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?

Rwyf wrth fy modd yn mynd â fy nghi am dro, a threulio amser gyda fy ngŵr a fy nheulu yn ein cartref yn Sir Benfro. Pan mae gen i amser rwyf wrth fy modd yn nofio a chymryd rhan mewn chwaraeon dŵr. 

Beth yw dy hoff beth am redeg dy fusnes dy hun?

Fel perchennog y cynnyrch, rwyf wrth fy modd gyda chyfarfodydd Ôl-groniad (Backlog)...er y gallant fod yn eithaf tanbaid gan fod y Tîm yn aml yn fy holi'n dwll am fy ngweledigaeth - rwyf wrth fy modd gyda’r agwedd ddigyfaddawd sydd gennym at arloesedd yma yn GeoLang - lle gallwch chi ddweud unrhyw beth sy'n dod i’ch meddwl ac ni fyddwch byth cael eich ystyried yn dwp. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cael cyfle i weithio gyda phobl sy'n fwy deallus na mi. 

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Gweledigaeth.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Bywyd - y bobl o fy nghwmpas, teulu, ffrindiau a chydweithwyr, ymwneud â’m cydweithwyr yn ogystal â gwybod y diweddaraf am dirwedd seiberddiogelwch a chadernid busnes sy'n newid o hyd.   

Beth yw dy gyngor di ar gyfer cyflwyno cynnig busnes llwyddiannus?

Byddwch yn barod a dywedwch stori.

Beth yw dy hoff sioe deledu/podlediad a pham?

The Apprentice.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson gyda fy ngŵr...swper/costa a chacen fel arfer, ac yna mynd i weld ffilm yn y sinema.