10 munud gyda...Chris Griffiths, OpenGenius

Gyda dros 28 o flynyddoedd o brofiad o sefydlu ac arwain busnesau llwyddiannus, Chris Griffiths yw un o’r entrepreneuriaid digidol mwyaf mynych yng Nghymru. Chris Griffiths yw Prif Swyddog Gweithredol OpenGenius (y cwmni sy’n gyfrifol am yr adnoddau digidol iMindMap a DropTask, a ddefnyddir gan dros 1 filiwn o bobl ledled y byd). Ymhlith ei gyflawniadau eraill mae’n awdur llwyddiannus ar greadigrwydd a meddwl yn arloesol ac ef sefydlodd yr hwb arloesi Tec Marina (pencadlys OpenGenius) - gan ddarparu gweithle creadigol a bywiog i rai o gwmnïau twf uchel mwyaf cyffrous Cymru. 

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Rydw i’n hapus yn gweithio ar fy mhen fy hun ond rydw i wrth fy modd yn gweithio fel rhan o grŵp!

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Fy nghloc larwm! Rydw i fel arfer yn gweithio’n hwyr ar nos Sul felly rydw i’n cael trafferth codi weithiau. Does gen i ddim trefn bendant. Ond, rydw i wrth fy modd yn cymryd rhan mewn sesiynau tasgu syniadau gyda fy nhîm drwy gydol y dydd sy’n ffordd wych o’m sbarduno i godi o’r gwely.

Y bore neu'r nos?

Rydw i bendant yn aderyn y nos, ac wedi bod erioed! Rydw i’n fwy cynhyrchiol yn y nos ac yn gweithio’n well ar ddiwedd y dydd. 

Apple neu Samsung?

Rydw i’n defnyddio Apple, ond mae’r ddau’n cŵl ac yn gwneud pethau gwych.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Dyfalbarhad. Dywedodd Henry Ford gynt ‘the only real mistake is one from which we learn nothing,’ ac mae angen i bawb gofio nad yw llwyddiant a methiant yn groes i’w gilydd, maen nhw’n rhan o'r un broses.

Y gaeaf neu'r haf?

Tywydd braf cynnes i fi. Dyna pam fy mod i wrth fy modd yn byw yng Nghymru!

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

‘Waeth i fi fynd amdani ddim...’

Beth yw dy brif gyflawniad?

Mae hynny’n dibynnu ar y cyd-destun. Rydw i’n dal i weithio ar hyn. Hola fi eto mewn ychydig flynyddoedd.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Dydw i ddim yn arbennig o hoff o noson allan fawr, felly noson dawel i mewn.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Rydw i wrth fy modd yn mynd i’r gampfa gan fod cadw’n heini yn rhoi mwy o ffocws a chymhelliant i mi. Mae kung fu yn un o’m diddordebau hefyd. Rydw i wedi bod yn ei wneud ers 25 o flynyddoedd.

Te neu goffi?

Fe gymera i goffi os wyt ti’n cynnig!

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Natur a phobl sy’n fodlon meddwl y tu allan i’r bocs. Mae’r bobl hyn yn newid y byd er gwell.

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored pan fydd yr haul yn tywynnu.

Beth yw dy hoff beth di am y swydd?

Cyfuno fy niddordeb mewn ymchwil fodern yn ymwneud â'r ymennydd â’m cariad at dechnoleg. Rydyn ni’n paratoi ar gyfer prosiect cyffrous iawn...cadwch lygad allan!

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref yn ddi-os. Bob tro. 

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Ar hyn o bryd, fy ffefrynnau yw: Gates of Heaven, Walking Dead a Harvard Business Review Idea Cast.