10 munud gyda…. Shoned Owen

Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Tanya Whitebits. Y brand lliw haul ffug cyntaf i ddod o Gymru. Mae’n cynnwys cynhwysion organig, mae’n addas i bobl fegan, does dim arogl arno ac nid yw wedi’i brofi ar anifeiliaid.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

I gychwyn, fy nghi, sef ‘cockapoo’ a dwy ferch 14 oed sy’n efeilliaid. Yna’r gwaith o gyflenwi archebion, ymateb i ymholiadau a rhoi sylw i’m rhestr ddiwedd o bethau i'w gwneud. Mae'n ddiddiwedd ond yn eich ysgogi hefyd.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Yn bersonol, dwi mor falch o’r ddwy ferch ac o ran gyrfa, Tanya Whitebits ydy’r peth gorau dwi wedi’i greu hyd yma.

Te neu Goffi?

Coffi bob tro ond coffi drud.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Efallai fod eraill yn well na thi yn yr ysgol, ond mi elli di lwyddo o hyd. Dal ati a rho dy egni i gyd i beth rwyt ti’n ei fwynhau ac mi ddoi di’n arbenigwr ar hynny! Dim gallu academaidd bob amser sy’n mesur llwyddiant - cofia hynny!

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Yng nghwmni fy ngŵr, fy merched, y ci, teulu a ffrindiau agos. Dwi wrth fy modd yn yr awyr agored, dwi’n ferch yr arfordir ac allwn i byth fwy ymhell oddi wrth y môr. Dwi’n hoffi gwyliau byr moethus.

Beth yw eich hoff beth am redeg eich busnes eich hun?

Sut mae dechrau pethau o ddim byd, gweld pa mor bell rydych chi wedi dod a chredu bod y gorau eto i ddod. Y teimlad hwnnw yw’r wobr orau ynghyd â gair da gan gwsmeriaid. Mae hynny bob amser yn dod â gwên.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Peidio byth â rhoi’r ffidil yn y to. Os ydych chi’n ddigon penderfynol, rydych chi’n siŵr o lwyddo.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Mae adborth gan gwsmeriaid yn fy helpu i roi cyfeiriad i’r busnes a dwi’n cael ysbrydoliaeth oddi wrth y cyfryngau cymdeithasol ac erthyglau ac astudiaethau.

Beth yw eich prif gyngor ar gyfer ennill Cyflwyniad Busnes?

Bod yn onest, chwilio am gyfleoedd i gydweithio, dangos dim dweud, arbenigo dim cyffredinoli, gwneud eich ymchwil a’ch gwaith cartref.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Dwi ddim yn gwylio fawr o deledu erbyn hyn. Dwi’n tueddu i wylio cyfres fel Breaking Bad ac roeddwn i wrth fy modd yn dawel bach â Love Island.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel i mewn!