10 munud gyda… Robert Dragan, Learnium

Robert yw Prif Swyddog Gweithredol Learnium, y llwyfan dysgu cymdeithasol sy’n helpu pobl i gysylltu, cyfathrebu a chydweithio.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Mewn tîm, yn bendant. Mae modd cyflawni cymaint mwy mewn grŵp.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Brecwast gyda fy nghariad a’r syniad o wythnos newydd sbon.

Y bore neu'r nos?

Y ddau. Ganol dydd yw’r cyfnod dydw i ddim yn ei hoffi - yn syth ar ôl cinio!

Apple neu Samsung?

OnePlus

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur yn dy farn di?

Gwytnwch. Mae cyfnodau da a drwg mewn busnes. Mae angen dal ati.

Y gaeaf neu'r haf?

Ym mha hemisffêr? Yma yn y DU, yr haf yn bendant.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Gwranda ’ma, nid y dosbarth llenyddiaeth yw’r peth gwaethaf yn y byd o bell ffordd.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Dwn i ddim. Mae dewis un yn gwneud i’r cyflawniadau eraill ymddangos yn llai pwysig.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Beth am ambell i beint gyda ffrindiau? Noson allan dawel os hoffet ti.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Darllen, heicio, gwersylla.

Te neu goffi?

Te

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Meddwl bod yr hyn dwi’n ei wneud yn golygu fy mod i’n gallu gadael y byd yn lle gwell.

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored.

Beth yw dy hoff beth di am dy swydd?

Gweithio gydag aelodau o fy nhîm i wneud effaith a helpu pobl i ddysgu.

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Cwestiwn anodd...ond am ryw reswm, daeth 12 Angry Men i fy mhen. Fersiwn 1957.