10 munud gyda… Rob Lo Bue, Applingua

Sefydlodd Rob ei gwmni cyntaf, Applingua Ltd, ar ei ben-blwydd yn 24 oed. Pan nad yw at ei geseiliau mewn cyfieithiadau, gallwch ddod o hyd iddo’n mentora cwmnïau newydd eu sefydlu neu’n siarad mewn cynadleddau ar entrepreneuriaeth, busnes neu ieithoedd.

Mae Rob wedi bod yn aelod o gymunedau cwmnïau sydd newydd ddechrau mewn pum gwlad wahanol, ac mae’n awyddus i weld Caerdydd yn cystadlu â dinasoedd technolegol eraill ar lwyfan y byd. Pan nad yw'n gweithio, mae Rob yn aml yn hyfforddi ar gyfer ei hanner marathon nesaf neu o gwmpas y dref yn yfed Peroni bach cyfrwys ar ôl gwaith.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Rydw i'n credu’n gryf fod rhannu hapusrwydd yn ei ddyblu a bod rhannu tristwch yn ei haneru. Er fy mod i'n berffaith abl i weithio ar fy mhen fy hun, fe fyddwn i bob amser yn dewis bod mewn tîm.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Fe hoffwn i ddweud mai fy uchelgais di-ben-draw i godi a newid y byd, ond mewn gwirionedd, fy nghi yn llyfu fy wyneb sy’n fy neffro i.

Y bore neu'r nos?

Yn bendant nid y prynhawn.

Apple neu Samsung?

Apple. Maen nhw’n glynu wrth eu hegwyddorion hyd yn oed pan mae pawb arall yn eu gwatwar.

Beth yw un o’r prif rinweddau sydd ei hangen ar entrepreneuriaid?

Dyfeisgarwch. Does dim ots beth sydd gennych chi, pwy ydych chi neu o ble rydych chi’n dod, rydw i wedi cwrdd â llawer o entrepreneuriaid llwyddiannus sy'n gallu gwneud rhywbeth o ddim byd.

Y gaeaf neu'r haf?

Mae mwy o waith yn cael ei wneud yn y gaeaf yn ôl pob tebyg... felly’r haf.

Beth fyddet ti’n ddweud wrtha ti dy hun yn 16 oed?

Nid oes unrhyw beth yn barhaol. Nid yw'r dewisiadau rydych chi'n eu gwneud yn rhai sy'n para am oes, ac mae pob un ohonom yn cael y cyfle i ailddyfeisio ein hunain gymaint o weithiau ag y dymunwch i gyrraedd lle’r ydych chi eisiau bod yn y pen draw.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Roeddwn i’n benderfynol o fod yn nomad digidol am gyfnod, gan fynd â’m gliniadur gyda mi a gweithio o amgylch y byd. Fe wnes i i hynny ddigwydd rhwng 2013 a 2016, gan gyfarfod cannoedd o bobl a dysgu miliynau o bethau newydd, a’r cyfan tra'n gweithio yn Applingua.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel allan.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Mynd â'r ci am dro, mynd i weld y teulu neu ffrindiau, cynllunio fy antur nesaf.

Te neu goffi?

Coffi.

Beth sy’n dy ysbrydoli?

Pobl sy'n gwybod llawer am un peth. Rydw i'n bendant yn un sy'n ceisio gwybod ychydig am lawer, ond pan fyddaf yn cyfarfod â rhywun sy'n gwybod llawer am bwnc, rydw i'n glustiau i gyd.

Dan do neu'r awyr agored?

Wrth i mi fynd yn hŷn, rydw i'n hoffi’r awyr agored fwy a mwy.

Beth yw dy hoff beth di am y swydd?

Pan fydd yr holl dîm gyda'i gilydd mewn un ystafell. Mae'n rhyfedd mynd o syniad a dim ond ychydig o bunnoedd yn y banc, i gwmni sy'n gwneud arian ac sy’n gallu cyflogi pobl eraill. Weithiau mae'n rhaid i mi binsio fy hun a meddwl, 'ydyn ni’n gwneud hyn mewn gwirionedd?’

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref, heb amheuaeth. Wedi ei goginio gan fy mam, o ddewis.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Rydw i'n casáu'r cwestiynau hyn ;-) Unrhyw ffilm sy'n gwneud i mi feddwl, unrhyw sioe deledu sy'n gwneud i mi chwerthin, unrhyw bodlediad sydd wedi ei strwythuro'n dda ac sy’n cadw at y pwnc.