10 munud gyda…… Nikki Giant

Fi yw sylfaenydd y ddwy fenter gymdeithasol, Full Circle Education a Girls Circle, sy’n gweithio i ysbrydoli plant a phobl ifanc. Rwy’n awdur pedwar llyfr addysgol, yn ogystal ag un nofel ffuglen i bobl ifanc, Hello Me, a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2018. Rwy’n llysgennad ar gyfer y sefydliad o’r Unol Daleithiau, Girl Rising, ac rwy’n teimlo’n angerddol dros hawliau merched. Cefais fy enwi’n un o’r 35 o fenywod busnes dan 35 oed gorau yng Nghymru yn 2015.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Paned o goffi cryf sy’n fy neffro ar fore Llun, ynghyd â meddwl am y gwaith y bydda’ i’n ei wneud dros yr wythnos – er ei bod yn swnio’n dipyn o cliché, mae bod yn rhan o fenter gymdeithasol yn golygu mwy na gwneud swydd neu ennill arian. Mae’n golygu gwneud gwahaniaeth go iawn yn y byd, ac mae hynny’n ysgogiad mawr!

Beth yw dy brif gyflawniad?

Y mis diwethaf, cyfwelais â’r cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol, Ban Ki-Moon, a chyn-Lywydd Mecsico, Ernesto Zedillo, mewn digwyddiad o flaen Richard Branson a chynulleidfa o 50,000 o bobl drwy gyfrwng Facebook Live! Dyna fy nghyflawniad mwyaf rhyfedd – a phennaf – hyd yma, ond mae’r pethau lleiaf yr un mor bwysig. Mae gweld person ifanc yn magu hyder a hunan-werth, a hynny’n rhannol oherwydd y gefnogaeth y mae wedi ei chael gan fy sefydliad i, yn gyflawniad anhygoel, ac mae’r cyflawniadau ‘bach’ hynny yn cynnal fy ffocws, ac yn fy natblygu.

Te neu Goffi?

Coffi. Du. Digon o gaffein!

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Cred ynot ti dy hun a bydd yn hyderus yn dy allu. Mae popeth yn digwydd am reswm, felly hydera dy fod ar y trywydd iawn.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Does gen i ddim! Fel arfer, rwy’n ei dreulio’n gweithio! Un o (an)fanteision rhedeg busnes bach!

Beth yw dy hoff beth am redeg dy fusnes dy hun?

Rwy’n dwli ar yr ymreolaeth a’r annibyniaeth sydd gen i drwy fod yn fos arna i fy hun. Rwy’n hoffi gwneud fy mhenderfyniadau fy hun, a’r teimlad o gael rheolaeth lwyr dros fy mywyd a’m tynged fy hun, ac mae rhedeg fy musnes fy hun yn fy helpu i deimlo hynny. Hefyd, rwy’n hoffi’r ffaith bod gen i ryddid creadigol llwyr i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, ac y gallaf fynd â’r busnes i unrhyw gyfeiriad, yn hytrach na gorfod dilyn cyfarwyddiadau neu gadw at swydd-ddisgrifiad cyfyng.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Natur benderfynol!

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Y bobl rwy’n cwrdd â nhw bob dydd, sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain, a’r bobl ifanc rwy’n gweithio gyda nhw – mae clywed am eu hanawsterau, neu am y pethau anhygoel y maen nhw’n eu gwneud i sicrhau bod y byd yn lle gwell, yn fy ysbrydoli i wneud mwy fy hun. Rydw i hefyd yn llawn edmygedd i Michelle Obama a’i gwaith i gefnogi merched a menywod ifanc.

Beth yw dy brif gyngor ar gyfer ennill Cyflwyniad Busnes?

Siaradwch yn glir, yn gryno, ac o’r galon. Byddwch yn gynnil, gan ddewis eich geiriau’n ofalus, a sicrhewch fod eich cyflwyniad yn llawn angerdd.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Rwy’n dwli ar bodlediadau Radio Lab, sy’n cael eu cynhyrchu gan orsaf radio yn Efrog Newydd. Maen nhw mor ddiddorol.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Rwy’n rhy hen am noson allan fawr – noson dawel i mewn, yn sicr!