10 munud gyda…. Kristina Banholzer

Ffotograffydd llawrydd yn y Felinheli yw Kristina. Mae’n  tynnu lluniau mewn sawl maes gan gynnwys teledu, theatr, digwyddiadau ac yn dysgu ffotograffiaeth i bobl.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Gwybod mai fi ydy’r unig un sy'n gallu gwneud fy ngwaith, does neb arall yn mynd i'w wneud ar fy rhan! Gwybod hefyd nad ydw i’n mynd i weithio mewn swyddfa, rhywbeth nad ydw i’n ei fwynhau.

Beth yw dy brif gyflawniad?

Gweld fy lluniau ar gloriau albymau a chylchgronau Cymraeg.

Te neu Goffi?

Rydw i'n fegan felly fel arfer mi fydda i’n yfed latte soi heb gaffein neu de herbal. Gyda chacen wrth gwrs!

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Paid â brysio a phoeni am dy yrfa, mi wnaiff ddigwydd pan fyddi DI’n barod.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Rydw i wrth fy modd gyda bwyd felly mi ydw i’n hoffi mynd am ginio neu swper neis gyda fy nghariad. Rydw hefyd yn mwynhau dysgu am fwyta a byw yn iach, yn ogystal â mynd i’r gampfa a gwneud ioga.

Beth yw eich hoff beth am redeg eich busnes eich hun?

Fi sy'n rheoli pa fath o waith rydw i’n ei wneud ac rydw i'n cael mynegi fy hun fel ydw i eisiau. Hyblygrwydd creadigol.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Mae bod yn drefnus yn bwysig, ond rydw i’n meddwl bod cael sgiliau pobl yn hollbwysig.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Rydw i bob amser yn ‘dilyn’ entrepreneuriaid creadigol eraill ar gyfryngau cymdeithasol fel Instagram ac yn cael fy ysbrydoli gan eu llwyddiant nhw a’r ffordd maen nhw'n gwneud pethau.

Beth yw eich prif gyngor ar gyfer ennill Cyflwyniad Busnes?

Gwenwch, a dangoswch LAWER o frwdfrydedd. Mae pobl yn gallu synhwyro pan ydych chi wir yn frwdfrydig dros rywbeth!

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Rydw i wrth fy modd gydag unrhyw fath o raglenni dogfen - yn enwedig gan David Attenborough!

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel i mewn! Rydw i wrth fy modd yn mynd allan i’r dafarn gyda fy ffrindiau, ond does dim byd gwell na noson i mewn mewn gyda thecawê...mae bod yn hunangyflogedig wedi gwneud i mi werthfawrogi gwneud DIM BYD am noson. Rydw i bob amser yn meddwl am waith felly mae noson i mewn yn bleserus bob tro!