10 munud gyda… Felix Winstone, Talkative

Mae Felix yn un o sefydlwyr Talkative, cwmni technoleg newydd sy’n helpu busnesau i gynyddu eu cyfraddau trosi gwefannau. Mae cynnyrch Talkative yn defnyddio llais, fideo, sgwrsio a chyd-bori er mwyn galluogi ymwelwyr i gysylltu’n hawdd â chwmnïau o’u gwefan eu hunain.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Gweithio mewn tîm wrth gwrs!

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Y syniad bod ffawd ein tîm a’n cwmni yn ein dwylo ni...rhaid achub ar bob cyfle!

Y bore neu'r nos?

Y bore! Roeddwn i’n arfer bod yn aderyn y nos, ond rydw i wedi newid i fod yn berson y bore.

Apple neu Samsung?

Apple.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Rydw i’n credu bod ‘angen’ llawer o rinweddau ar entrepreneur. Pe bai’n rhaid i fi ddewis un, credu yn eich syniadau fyddai honno. Mae’n swnio’n wirion braidd, ond os nad ydych chi wir yn credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, wnewch chi ddim buddsoddi’r adnoddau sy’n ofynnol i’w gyflawni. 

Mae’n broffwydoliaeth hunangyflawnol yn hynny o beth. Go brin fod cael argyhoeddiad yn eich menter entrepreneuraidd yn ddigon i arwain at lwyddiant, ond mae bendant yn angenrheidiol.  Rhaid i chi werthu chi’ch hun cyn gallu gwerthu unrhyw un arall. 

Y gaeaf neu'r haf?

Yr haf.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Cwestiyna’r llwybr cyffredin yn amlach. Pam wyt ti’n gwneud dy Lefel A? Pam wyt ti’n mynd i’r brifysgol? Mae bywyd yn fyr, beth wyt ti’n mynd i’w wneud gydag ef?

Beth yw dy brif gyflawniad?

Dydw i ddim wedi’i gyflawni eto!

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson allan fawr.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Mae gweithio mewn cwmni newydd yn golygu nad oes gen i lawer o amser hamdden! Rydw i’n mwynhau darllen, chwarae pêl-droed a threulio amser gyda’n ci bach newydd!

Te neu goffi?

Coffi.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Rydw i wrth fy modd yn dysgu am bobl sydd wedi dechrau busnesau anhygoel. Mae gwrando ar Peter Thiel, Elon Musk a Marc Andreessen yn gwneud i fi deimlo y dylwn i wneud mwy o lawer. 

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored.

Beth yw dy hoff beth di am dy swydd?

Cael adborth gwych gan ein cleientiaid. Mae creu cynnyrch newydd yn arwain at lawer o anawsterau, cur pen a chymhlethdod technegol - ond mae cael defnyddwyr go iawn yn canmol eich syniad yn y byd go iawn yn werth pob eiliad.

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref, ar yr amod nad oes rhaid i fi goginio. Wedi dweud hynny, gymera i sushi.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Goodfellas, Breaking Bad a Tim Ferriss Show.