10 munud gyda… Daniel Lewis, Digital Profile

Mae Dan Lewis yn entrepreneur technoleg llwyddiannus o Gymru, ar ôl sefydlu cwmni datblygu gwefannau The Genie Lab yn 2010 a llwyfan dadansoddi'r cyfryngau cymdeithasol Blurrt yn 2012.  

Nod ei fenter bresennol, Digital Profile, yw newid sut mae pobl yn dod o hyd i swyddi a sut mae cyflogwyr yn dod o hyd i dalent newydd. 

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Ar fy mhen fy hun.  Mae’r rhan fwyaf o’m swydd yn ymwneud â denu buddsoddiad a thyfu’r busnes, sy’n waith unig iawn. 

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Y cloc larwm, a’r ffaith fy mod i wrth fy modd gyda’r hyn rydyn ni’n ei adeiladu. 

Y bore neu'r nos?

Person y bore. 

Apple neu Samsung?

Apple.

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Gwytnwch a dyfalbarhad. 

Y gaeaf neu'r haf?

Rydw i’n caru'r haf, ond yn anffodus dwi’n llosgi fel cimwch!

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Cer amdani, a phaid â pherswadio dy hun i beidio â gwneud rhywbeth. 

Beth yw dy brif gyflawniad?

Adeiladu busnes rydw i’n angerddol yn ei gylch a gweithio gyda phobl hynod ddawnus. 

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Noson dawel i mewn. 

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Yn gweithio! Rwy’n hoffi teithio pan gaf i’r cyfle. 

Te neu goffi?

Mae’n dibynnu faint o’r gloch yw hi. 

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Mae canlyniadau cadarnhaol fy ymdrechion a gweld yr effaith maen nhw’n ei chael ar bobl o’m cwmpas a rhannu fy llwyddiant yn fy ysbrydoli. 

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored. 

Beth yw dy hoff beth di am dy swydd?

Gweithio gyda fy nhîm, gall y bobl iawn o’ch cwmpas wneud gwahaniaeth mawr. 

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Pursuit of happiness