Y cwmni recriwtio a staffio arloesol a’u llwyddiant anhygoel

Ar ôl eu buddugoliaeth ddiweddar yng ngwobrau Fast Growth 50 yng Nghaerdydd cawsom sgwrs ag ALS Managed Services i drafod eu cynlluniau ar gyfer tyfu yn y dyfodol, y tîm y tu ôl i’r cwmni a chlywed eu cyngor ar gyfer entrepreneuriaid uchelgeisiol eraill.

ALS Managed Services - Steve Lanigan and team

Llongyfarchiadau mawr ar ennill 3 gwobr yng ngwobrau Fast Growth 50 yng Nghaerdydd. Enillodd ALS Managed Services y wobr ‘Y Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru’ – sut deimlad oedd ennill a chael eich cydnabod mewn gwobrau sydd mor bwysig yng Nghymru?

 

Steve Lanigan:  Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf mewn 4 blynedd i ni gymryd amser i fyfyrio a chydnabod yr hyn a gyflawnwyd.  Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn drawsnewidiol i’r busnes, cyflawni pryniant gan reolwyr gyda chymorth Banc Datblygu Cymru, symud swyddfeydd, trefnu contract cenedlaethol i 195 o safleoedd, ynghyd â chyflogi 14 o weithwyr newydd.  Mae’n deg dweud bod Gwobrau Fast Growth wedi coroni blwyddyn anferth i ni!

Mae gwobrau Fast Growth wastad wedi bod yn llinyn mesur ar gyfer busnesau â photensial uchel yng Nghymru, ac mae ymuno â rhestr mor anrhydeddus yn llwyddiant anhygoel.  Mae’r gwobrau wedi cael croeso mawr gan ein tîm hefyd, gan roi’r teimlad bod eu gwaith caled dros y blynyddoedd wedi talu ar ei ganfed ac wedi darparu twf digynsail.

Mae pob enillydd blaenorol Fast Growth a nifer o’r cwmnïau ar y rhestr fer o 50 bob blwyddyn wedi mynd yn eu blaenau i gyflawni twf ac elw anhygoel, felly mae hefyd yn ennyn hyder yn ein strategaeth twf wrth i ni symud i gam nesaf ein siwrnai.

 

Allwch chi rannu ychydig o gefndir y ‘pam’ y tu ôl i ALS Manages Services a’r tîm y tu ôl iddo?

 

Steve Lanigan:  Roeddwn i’n gweithio mewn endid Corfforaethol mawr ac yn rhan o gynllun twf cyffrous y cwmni hwnnw ar draws Ewrop, ond roeddwn i wastad awydd rhoi cynnig ar geisio cychwyn busnes llwyddiannus.  Yr ysfa o “Greu Argraff” oedd yr ysgogiad mawr dros adael gyrfa lwyddiannus a bod yn ddewr.  Y prif reswm oedd i gael effaith ar fywydau pobl trwy gynnig datblygiad gyrfa, creu brand gyda gwerthoedd rydym yn eu harddel, creu argraff ar y cwsmeriaid a’r staff rydym yn gweithio â nhw bob dydd. Heb sôn am yr effaith Gymdeithasol, Ariannol ac Economaidd y gallem ni ei wneud.

Rydym ni wedi casglu tîm cryf dros y 4 blynedd ddiwethaf, ac maen nhw wedi arddel ein gweledigaeth i dyfu, ein dycnwch i sicrhau canlyniadau a gosod safonau ar gyfer ein cystadleuwyr.  Mae gweld y cyfuniad o safonau gwasanaeth ardderchog, ynghyd â galluogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr wedi bod yn wefr i’r tîm, ac maen nhw wedi rhagori.  Y tîm yw’r rheswm pam ein bod yn parhau i fod yn llwyddiannus, ac mae eu datblygiad yn parhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent yn ein busnes ac yn helpu i wireddu’r weledigaeth “pam” i mi.

 

Mae ALS yn cael ei adnabod fel busnes “agos atoch” – rhowch 3 awgrym ar gyfer adeiladu a chynnal sylfaen gwsmeriaid lwyddiannus?

 

Steve Lanigan:

EIN MODEL GWEITHREDU

Mae’r rhan fwyaf o asiantaethau recriwtio yn defnyddio model Stryd Fawr, sydd yn mynd yn groes i amcanion gwasanaethu cwsmeriaid mwy ond sydd chwaith ddim yn cefnogi darpar ymgeiswyr.  Rydym wedi chwalu’r syniad mai model recriwtio ar sail swyddfa cangen sydd fwyaf effeithiol, ac o ganlyniad rydym yn dod i adnabod ein staff a’n cwsmeriaid yn well.  Roedd gennym gynllun clir ar gyfer ein Model Gweithredu, gan roi mantais gystadleuol i ni ar bris, gwasanaeth a’r gallu i dyfu.

EIN GWYBODAETH O’R DIWYDIANT

Mae’n hawdd ceisio bod yn bob dim i bawb yn y diwydiant recriwtio, ond yr hyn mae ein cwsmeriaid wedi bod yn gofyn amdano yw ein bod yn arbenigo mewn sector a’i wneud yn dda ac maen nhw’n elwa o hynny.  Rydym yn teilwra ein gwasanaeth i anghenion penodol iawn y diwydiant, gan gadw golwg ar y pwysau perthnasol ac arloesi’n gyson er mwyn mynd i’r afael a gofynion ein cwsmeriaid a’r diwydiant.

EIN TÎM

Mae gennym werthoedd brand syml, “Ymgysylltu, Galluogi, Cryfhau”.  Dyma ein strategaeth arwain graidd a strategaeth sydd wedi cael ei gwireddu wrth edrych ar y dalent rydyn ni wedi’i adeiladu o fewn y busnes.  Rydym wedi ymgysylltu’n rheolaidd â’n tîm, gan esbonio’r hyn rydym yn ei wneud, a beth mae’n ei olygu.  Rydym yn darparu adnoddau sydd eu hangen arnynt i berfformio’n dda a darparu canlyniadau.  Mae ein tîm yn allweddol i lwyddiant busnes newydd, ac mae gwneud yn siŵr eu bod wedi ymrwymo, buddsoddi ynddynt a’u cryfhau wedi bod yn ffactorau hollbwysig i’n helpu i dyfu.

 

Ym syfrdanol, mae ALS wedi tyfu 4,237.6%, rhwng 2015-17 gyda gwerthiant i fyny o £250,264 i £10.85m. Oes gennych chi unrhyw gynlluniau i dyfu ALS ymhellach?

 

Steve Lanigan:  Rydym wedi mwy na dyblu ein twf ers cyhoeddi’r ffigyrau yna ac rydym yn ennill ein plwyf yn ein sectorau cyfredol wrth i ddarpar gwsmeriaid ddod yn ymwybodol ohonom.  Mae ein lefelau gwasanaeth hefyd yn cynnig cyfleoedd cryf ar gyfer twf naturiol gyda’n cwsmeriaid, a rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar hynny er mwyn sicrhau nad yw ein safonau cyfredol yn dirywio.

Rydym yn gweithio ar gyfleoedd cyffrous ar hyn o bryd, a fydd yn helpu i osod y llwyfan ar gyfer twf parhaus.  Hefyd, mae angen i ni gryfhau ein seilwaith, felly mae symud swyddfa wedi ein helpu i greu gofod angenrheidiol.  Hefyd, rydym wedi cyflwyno ein system CRM newydd ar y cwmwl yn ddiweddar, gan ganiatáu gwasanaeth mwy personol ar gyfer ein cwsmeriaid gan ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

Rydym wedi canolbwyntio ar hyfforddi a datblygu mewnol, ac yn ddiweddar rydym wedi lansio ein llwybr Arweinwyr y Dyfodol, gan gydnabod yr angen i ddarparu datblygiad wedi’i strwythuro ar gyfer ein staff trwy’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.  Rydym wedi cefnogi cydweithwyr trwy CIPD Lefel 5 a 7, NEBOSH a chymwysterau Iechyd a Diogelwch IOSH ynghyd â darparu hyfforddiant mewnol arall i’r tîm.  Mae’r datblygiad strwythuredig hwn yn helpu i’n gosod ar wahân, ond mae hefyd yn creu teyrngarwch ac mae’n dangos buddsoddiad go iawn yn ein pobl er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i dyfu.

Mae potensial ar gyfer uno yn y diwydiant recriwtio, felly mae chwilio am gyfleoedd caffael strategol wastad yn ystyriaeth.  Rydym hefyd yn y broses o gyflwyno nifer o fentrau Gwerth Ychwanegol synergyddol i’n cwsmeriaid, gan helpu i sicrhau ein bod yn parhau i dorri cwys newydd yn ein sector.

 

Pam eich bod chi wedi dewis sefydlu eich cwmni yma yng Nghaerffili?

 

Steve Lanigan:  Roeddem ni wastad wedi bwriadu sefydlu’r cwmni yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi twf ac mae’r Cynllun Gweithredu Economaidd yn strategaeth hynod arloesol, mae Banc Datblygu Cymru yn unigryw yn y ffordd y maent yn cefnogi busnesau Cymru, ac rydym wedi manteisio’n uniongyrchol o’r Gronfa Olyniaeth Rheoli ac o gefnogaeth barhaus.

Mae Cymru’n wych am ddatblygu busnesau, gyda chynlluniau Entrepreneuraidd fel rhaglen Natwest, BeTheSpark a mentrau eraill tebyg wedi’u cynllunio i annog a meithrin y natur entrepreneuraidd sydd ei angen i fusnesau bach a chanolig ffynnu.  Mae’n llwyfan gwych i fusnesau newydd lwyddo.

Cefais fy ngeni a’m magu yn ardal Cyngor Caerffili a gweithiais yma am 7 mlynedd yn fy swydd flaenorol, felly rwy’n teimlo’n gartrefol ac yn deyrngar i’m gwreiddiau.  Mae Caerffili yn lle gwych ar gyfer busnes hefyd, gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog, band eang cyflym iawn a seilwaith sylweddol sy’n darparu’r cyfleusterau sydd eu hangen arnom er mwyn ehangu.  Rydym yn agos at Brifysgolion mawr hefyd, gan ddarparu cyfuniad gwych o dalent ar gyfer ein tîm a rhwydweithiau cefnogi arbenigol ar gyfer cydweithio ac arloesi.

 

Rhowch un neu ddwy o wersi busnes gwerthfawr rydych chi wedi’u dysgu yn ystod eich taith entrepreneuraidd?

 

Steve Lanigan:

DIWEDD Y GAN YW’R GEINIOG

Roeddwn wedi clywed y dywediad “Cash is King” yn aml yn fy swydd flaenorol, ond roedd hwnnw’n fusnes FTSE250 ac felly roedd pwysau gwahanol iawn.  Mae ein llif arian gweithredu yn rhoi pwysau sylweddol ar ein twf, a chawsom gefnogaeth anhygoel gan y banc drwyddi draw.  Gan ein bod ni wedi tyfu mor gyflym roedd yr effaith ar lif arian yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd cynnar.  Rydym yn talu cyflogau ein gweithwyr rhan amser yn wythnosol ac roedd ein cwsmeriaid yn talu hyd at 120 diwrnod wedyn.

Rydym wastad wedi bod yn agored gyda’n darparwyr cyllid, gan rannu ein Cynllun Busnes cadarn, ein rhagolygon, Elw a Cholled a’r Fantolen yn rheolaidd.  Gwnaethom hefyd sicrhau ein bod yn siarad bob wythnos bron ac yn cyfarfod unwaith y mis i sicrhau bod ganddynt hyder yn ein cynlluniau.  Mae’r hyblygrwydd a’r gefnogaeth a gawsom gan HSBC wrth ddechrau ein busnes yn rhan pwysig o pam rydym ni yma heddiw.

PEIDIWCH Â BOD OFN GOFYN AM HELP

Roeddwn i’n hynod o ddiniwed pan ddechreuais, gan fy mod wedi cael fy ynysu oddi wrth ofynion perchennog busnes yn fy swydd flaenorol.  Yn aml, nid ydych yn sylweddoli faint o gefnogaeth allanol sydd ar gael i fusnesau i’ch helpu i lwyddo, nac ychwaith y gefnogaeth fewnol gan eich tîm sydd yn aml yn ysu i’ch helpu dim ond i chi adael iddyn nhw wneud hynny.

Rydw i wedi cael fy magu i fod yn annibynnol, gwydn a gonest, ac i ddod o hyd i ffodd o lwyddo ac i fod yn gystadleuol.   Mae’r rhain yn nodweddion da wrth ddechrau cwmni, ond roeddent hefyd yn ein dal yn ôl ar brydiau.  Rwyf wedi gorfod dirprwyo mwy o waith, ond hefyd i annog fy nhîm i wneud penderfyniadau.  Rwyf wedi dysgu ofyn am help a chyngor, gan Gyfarwyddwyr Anweithredol, gan Fanciau, gan weithwyr proffesiynol a gan fy nghyfoedion.  Mae’n syndod faint o bobl sydd yn rhannu fy awydd i weld pobl eraill yn llwyddo, ac mae eu harweiniad a’u profiad wedi bod yn amhrisiadwy.

 

Beth yw’r cyngor busnes gorau rydych chi wedi’i dderbyn a allai fod o fudd i entrepreneuriaid eraill?

 

“BYDDWCH YN ONEST”

Yn fy musnes blaenorol, collais un o fy Uwch-reolwyr i ganser.  Roeddem ni wedi siarad llawer, ac roeddwn i’n un o nifer ar y tîm a oedd wedi ystyried Colin yn fentor yn ystod ein cyfnod yn gweithio gyda’n gilydd.  Cawsom sgwrs ar ôl ei ddiagnosis, a dywedodd pa mor bwysig oedd gonestrwydd ar eich gwaddol mewn busnes, ond hefyd mewn bywyd.  Mae’n rhywbeth rwyf wastad wedi’i gofio wrth symud ymlaen. Byddai’n well gen i gael busnes llai y gallaf fod yn falch ohono na mynd ar ôl elw neu beryglu fy ngonestrwydd.   Cofiwch yr hen air am allu cysgu’n dawel yn y nos.

 

Pam eich bod chi’n credu ei bod yn bwysig creu ecosystem entrepreneuraidd mwy amlwg, syml a chysylltiedig yng Nghymru? Pam eich bod chi’n credu bod y mudiad BeTheSpark mor bwysig i Gymru?

 

Steve Lanigan:  Roedd busnes newydd yn cynnig dwy brif sialens i mi, i ddechrau, y cam o adael cwmni oedd wedi ei sefydlu a swydd ddiogel, ac yn ail gwybod pa gymorth ac arweiniad oedd ar gael a sut i ofyn amdano. 

Mae BeTheSpark a’r symudiad tuag at ecosystem fwy cydweithredol ar gyfer Entrepreneuriaid yng Nghymru yn ateb y ddwy broblem.  Dylai perchnogion busnesau siarad am eu siwrneiau, y sialensiau a’r llwyddiannau er mwyn helpu i ysbrydoli pobl eraill, a darparu’r adnoddau sydd eu hangen, y gwersi i’w dysgu a’r camgymeriadau i’w hosgoi.  All hyn ddim ond bod yn gadarnhaol ar gyfer arweinwyr busnes y dyfodol.

Bydd gwaith BeTheSpark a chyrff Llywodraethol eraill o ran gwneud yr ecosystem honno’n fwy amlwg, ynghyd â gofyn i Entrepreneuriaid roi eu hamser a’u cefnogaeth i helpu eraill i lwyddo yn sicr o greu storïau o lwyddiant yn y dyfodol ar gyfer busnesau Cymru.

 

Beth sydd nesaf i ALS Managed Services?

 

Steve Lanigan: Rydym wedi cynyddu ein gweithrediadau Gwerthu a Marchnata yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn gweithio yn y dirgel am y 4 blynedd ddiwethaf ac felly rydym angen gwella ymwybyddiaeth o’n brand a chysylltu’n well â’n cwsmeriaid a’n diwydiant.  Mae hyn yn helpu i gryfhau ein brand a sicrhau ei bod yn cyrraedd y targedau twf rydym wedi’u gosod.

Rydym wedi rhoi cynllun cadarn ar waith i ddarparu datblygiad strwythuredig i’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, gan sicrhau ein bod yn cynnig dilyniant wrth i ni dyfu, a pharhau i wella ein gwasanaethau.

Rydym yn mynd rhagddi â nifer o fentrau cyffrous er mwyn parhau i wella ein cynnig i gwsmeriaid a darpar gwsmeriaid, gan hefyd gynyddu ein cymhwysedd a chreu cyfleoedd datblygu i’n gweithlu hyblyg er mwyn manteisio ar y talent o fewn ein gweithlu a helpu i lenwi’r bylchau o ran sgiliau ar gyfer y dyfodol sydd wedi cael eu nodi gan y diwydiannau rydym yn eu gwasanaethu.