Straeon y Sylfaenwyr: Paul Shepherd, Prif Swyddog Gweithredol We Build Bots

Yn y cyfweliad diweddaraf ar gyfer Straeon y Sylfaenwyr – a gyflwynwyd ar y cyd â Creu Sbarc, Tech Dragons a Town Square – cawsom sgwrs â’r entrepreneur technoleg o Gaerdydd, Paul Shepherd. Ef yw Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd We Build Bots, cwmni deallusrwydd artiffisial sy’n defnyddio sgyrsfotiaid, cynorthwywyr llais a phrosesau dadansoddeg i helpu i wella gwasanaethau i gwsmeriaid.

PS - FounderTales

Erthygl gan Nic Fearn, Tech Dragons.

Mae Paul yn trin a thrafod sut rhoddodd y gorau i’w swydd gorfforaethol i sefydlu cwmni technoleg, y gwersi mwyaf y mae wedi’u dysgu ym myd busnes, a beth sydd angen i chi ei wybod wrth geisio cael buddsoddiad.

 

FT: Sut cychwynnodd hyn i gyd?

PS: Sefydlais asiantaeth cyfryngau cymdeithasol yn ôl yn 2010, ar ôl gweithio ym maes cyfathrebu digidol i gwmnïau gwasanaethau ariannol mawr. Rhan fawr o’r gwaith roedden ni’n ei wneud oedd rheoli’r elfennau gwasanaethau cwsmeriaid ar draws Facebook, Twitter ac ati, i gorfforaethau eitha mawr.

Wrth wneud hynny, gwelsom pa mor ailadroddus y gall gwasanaethau cwsmeriaid fod. Ar unrhyw un adeg, mae’n siŵr bod rhwng 15 a 20 o bobl yn ateb cwestiynau, a’r rheini'r un rhai lawer o’r amser.

Felly aethom ati i ddatblygu apiau gwe mewnol eitha elfennol, dim ond i hwyluso pethau a gwneud ein prosesau mewnol yn fwy effeithlon. Ar ôl gweld y canlyniadau, dyma ni’n penderfynu fod hwn yn gynnyrch y bydden ni’n gallu ei roi ar y farchnad o bosib.

Felly fe aethon ni ati o ddifri i ddatblygu'r cynnyrch rhwng 2016 a 2017. Daeth We Build Bots i fodolaeth ganol 2017 a chyflwynwyd IntelAgent ar y farchnad.

 

FT: Felly roedd gennych chi gwmni llwyddiannus, ac fe wnaethoch chi’r penderfyniad anodd i lansio We Build Bots fel rhywbeth newydd. Allwch chi sôn rhywfaint am hynny?

PS: Coup Media yw enw’r asiantaeth, ac mae hi’n dal mewn bodolaeth heddiw. Mewn gwirionedd, mae Coup wedi dod yn ddeorfa ar gyfer mwy nag un peth rydw i wedi mynd ymlaen i’w lansio.

Ar wahân i’r gwaith marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol roedden ni’n ei wneud i gorfforaethau mawr, rydyn ni wedi llwyddo i gael yr OI Conference (Cynhadledd Dylanwad Ar-lein), sef cynhadledd sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi’n cyd-fynd yn strategol â’r hyn roedden ni’n ei wneud. Felly cawsom gyfle i noddi’r gynhadledd un flwyddyn ac yna fe ddaeth i'n meddiant ni. Aethom ymlaen i ddenu 2500 o gyfranwyr a’i gwneud yn un o’r cynadleddau sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop.

Rydw i wedi cyd-sefydlu cwmni dadansoddeg hefyd o’r enw Hello Soda. Mae hwnnw wedi mynd ymlaen i oddeutu 40/45 o bobl mewn swyddfeydd ym Manceinion, Austin a Bangkok; gan godi 10 miliwn o ddoleri.

Felly yn ogystal â bod yn asiantaeth, daeth Coup yn llwyfan i mi roi cynnig ar wahanol bethau a lansio neu gyd-sefydlu gwahanol gwmnïau. Un o’r rheini oedd We Build Bots.

 

FT: Sut datblygodd y cyfle ar gyfer Coup Media?

PS: Fe wnes i lansio Coup Media gan fod fy swydd ym maes gwasanaethau ariannol gyda Lloyds Banking Group, ac yna Principality yma yng Nghaerdydd, yn golygu gwaith rheoli asiantaethau yn fwy na dim.

Roeddwn i wedi dod i adnabod y diwydiant yn eithaf da, wedi dod i ddeall y modelau prisio, ac wedi dod i wybod llawer ynglŷn â sut mae asiantaethau’n delio â’u cleientiaid. Penderfynais y byddwn i'n gallu gwneud hynny, ac es ati i sefydlu’r asiantaeth.

 

FT: Wnaethoch chi roi’r gorau i’ch swydd a chychwyn Coup Media dros nos?

PS: Roedd fy ngwraig – fy nghariad ar y pryd – yn feichiog gyda'n hail blentyn, ac roedd gen i syniad yn fy mhen y byddwn i'n hoffi gwneud rhywbeth ar fy mhen fy hun. Doeddwn i ddim wedi gwneud y penderfyniad ar y pryd, ond cymerais bythefnos o gyfnod tadolaeth, a dechrau dod i arfer â deffro’n hwyrach a gwneud rhywfaint o waith tra ’mod i’n gwneud pethau eraill.

A meddyliais, ‘rydw i’n hoffi hyn – rydw i'n hoffi gwneud pethau pan rydw i'n dymuno’u gwneud nhw, a sut rydw i'n dymuno’u gwneud nhw.’ Ac fe fyddwn i’n gweithio’n hwyr yn y nos yn hytrach na’n gynnar yn y bore. Felly wnes i ddim mynd yn ôl ar ôl y cyfnod tadolaeth. Dyma fi'n ffonio'r bos a dweud ‘dydw i ddim yn dod yn ôl’. Ac roedd e’n iawn am y peth. A dweud y gwir, dyna o le daeth ein contract mawr cyntaf, felly fe weithiodd popeth yn dda iawn.

Cafodd y teulu dipyn o sioc, ac roedden nhw’n poeni am nad oedd gennym ni arian – dim taliadau morgais yn y banc na dim – ond roedd popeth yn iawn yn y pen draw.

 

FT: Allwch chi sôn rhywfaint am gael y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?

Mae hynny’n her yn y dyddiau cynnar, ond er fy mod i'n gweithio oriau hir, doeddwn i ddim yn gaeth i weithio oriau penodol – ddim o hyd beth bynnag – ac roeddwn i wrth fy modd gyda hynny.

Sylwais fy mod i'n mwynhau gweithio’n hwyr yn y nos ac yn oriau mân y bore pan nad oedd pobl eraill yn gweithio. Roeddwn i'n gallu gwneud llawer iawn o waith bryd hynny pan roedd hi’n hollol dawel, ac yn cael cyfle i feddwl go iawn.

Ac yna yn ystod y dydd byddwn yn gallu helpu o gwmpas y tŷ a threulio amser gyda’r mab. Yn amlwg, mae ffonau symudol, a’r gallu i dderbyn negeseuon e-bost ar eich ffôn, yn golygu eich bod o fewn cyrraedd o hyd mewn gwirionedd. Felly os oes angen i chi wneud rhywbeth ar adeg benodol, a chithau ddim wedi bwriadu gwneud hynny, does dim problem. Mae’n ddigon hawdd picio adref neu roi gwybod i rywun y byddwch chi’n rhoi sylw i'r mater yn yr awr nesaf neu rywbeth felly.

 

FT: Beth yw’r gwersi mwyaf rydych chi wedi’u dysgu fel entrepreneur?

PS: Roeddwn i'n arfer ymfalchïo yn y ffaith nad oeddwn i'n cynllunio rhyw lawer, ac fy mod i ychydig yn chwit-chwat gyda ’mhen yn y gwynt. Roeddwn i hefyd yn manteisio ar gyfleoedd pan oedden nhw’n codi. Ac mae llawer i'w ddweud dros fachu ar gyfle, gweld bwlch yn y farchnad, a mynd amdani go iawn.

Ond rydw i'n sicr wedi dysgu, os gallwch chi greu cynllun sy’n dangos lle rydych chi’n dymuno bod a sut rydych chi'n mynd i gyrraedd yno – hyd yn oed os nad ydynt yn gynlluniau pendant, a’ch bod yn gwyro oddi wrthynt yn ystod y mis neu ddau gyntaf – mae cynllunio’n dra phwysig.

Ac yna wrth i'r busnes dyfu, a hithau’n amser codi cyllid, y cwestiwn cyntaf gewch chi yw lle mae’r cynllun busnes a’r rhagolygon.  Rydw i wrth fy modd gyda’r pethau hynny erbyn hyn. 

 

FT: Sut mae cychwyn y sgwrs pan rydych chi’n ceisio argyhoeddi rhywun dieithr i roi arian i chi er mwyn gwireddu'ch breuddwydion?

PS: Pan rydych chi’n ceisio argyhoeddi rhywun i fuddsoddi – ac i bob pwrpas yn gofyn i rywun nad ydych chi'n ei adnabod roi arian i chi – rydw i'n meddwl bod stori yn fuddiol iawn. I ni, roedd yn help mawr gallu dweud bod y syniad ar gyfer y cynnyrch wedi deillio o brofiad personol o’r hyn oedd yn aneffeithlon mewn gwasanaethau cwsmeriaid, a hynny gan mai ni oedd y bobl aneffeithlon hynny, yn gwneud llawer o waith â llaw.

Mae hynny’n beth da gan ei fod yn dangos eich bod chi wedi cael profiad o’r broblem rydych chi am geisio’i datrys. Mae sut rydych chi’n rhyngweithio â phobl yn bwysig hefyd yn fy marn i. Mae angen i chi fod yn ddiymhongar, wedi’r cyfan, rydych chi’n gofyn am arian.

Byddwch yn barod i dderbyn unrhyw amheuon sy’n cael eu codi. Fe wnaeth sawl un gwestiynu sut roedden ni wedi prisio’r cwmni – We Build Bots yn sicr. Aethon ninnau ati i ddangos y sail resymegol dros y prisiad, gan dderbyn yr hyn a ddywedwyd. Ond aethom yn ôl at y bobl ac egluro pam fod y prisiad yn gywir yn ein barn ni – ac roedden ni'n llwyddiannus.

Yn y pen draw, y prif beth roedd hynny’n ei olygu oedd peidio digio a pheidio rhoi ein sodlau yn y ddaear wrth glywed geiriau fel ‘dydyn ni ddim yn meddwl bod eich cwmni mor werthfawr â beth rydych chi’n ei feddwl’. Mae angen i chi gymryd pwyll, derbyn y wybodaeth, meddwl amdani a cherdded i ffwrdd. Rydw i'n siŵr bod pobl yn llygad eu lle am brisiadau ac am ostwng prisiadau ar adegau, ond os ydych chi wir yn credu yn yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, mae’n bwysig eich bod yn treulio llawer o amser yn egluro pam, ac yna'n mynd yn ôl.

Gwyliwch y cyfweliad fideo yma.