Straeon y Sylfaenwyr: Aimee Bateman, Prif Swyddog Gweithredol Careercake.com

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pobl sy'n chwilio am eu swydd ddelfrydol neu sy’n awyddus i ddringo’r ysgol yrfa wedi bod yn troi at Careercake.com. Sefydlwyd y llwyfan cynnwys fideo hwn yn ôl yn 2010 gan Aimee Bateman – cyn swyddog recriwtio proffesiynol. Mae’n cael ei gefnogi gan unigolion fel sylfaenydd GoCompare, Hayley Parsons, ac yn cael ei ddefnyddio gan bobl mewn mwy na 43 o wledydd.

AB - FounderTales

Fis Tachwedd diwethaf, llwyddodd y cwmni i gael £300,000 o fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru ac angylion buddsoddi eraill, a hynny er mwyn lansio ymgyrch i fynd â’r cwmni i’r lefel nesaf.

Mae nod Aimee yn ddiffuant iawn: helpu pobl i gael eu gyrfa ddelfrydol a gwella’u siawns o gael swydd. Yn ôl Aimee: “Mae Careercake.com yn llwyfan y gall pobl ei ddefnyddio er mwyn cyflawni hyd eithaf eu gallu a grymuso eu gyrfa.”

 

Mynd amdani

Cyn sefydlu Careercake, roedd Aimee yn gweithio ym maes recriwtio corfforaethol. A hithau'n teimlo'n anfodlon ei byd yn ei maes gwaith, rhoddodd y gorau i'w swydd, prynu camera rhad, a dechrau gwneud fideos yn rhoi cyngor ar yrfaoedd i’w postio ar YouTube.

Doedd hi ddim wedi dychmygu troi Careercake yn gwmni llwyddiannus, wedi’r cyfan, ei bwriad hi oedd helpu pobl oedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith mewn cyfnod o ddirwasgiad. “Doedd e ddim wir i fod yn fusnes. Sianel YouTube oedd e,” meddai.

“Roeddwn i wedi bod yn gweithio fel swyddog recriwtio masnachol am 12 mlynedd, i Robert Half, Red Recruitment a Hays. Felly roeddwn i’n gweithio gyda phobl a oedd yn chwilio am waith, ac yn 2010 daeth y dirwasgiad. Roedd llawer iawn o bobl dalentog yn ei chael yn anodd cyfleu eu gwerth i eraill.

“Penderfynais fy mod i am eu helpu. Does gen i ddim llawer o wybodaeth am lawer iawn o bethau, ond ar yr adeg honno, roeddwn i'n gwybod llawer am rai pethau. Prynais gamera ail-law am ddeg punt ar eBay a dechrau gwneud fideos yn fy nghegin.”

 

Wynebu'r rhwystrau

Mae’r siwrnai wedi bod yn un droellog iawn. “Y rhwystr mwyaf oedd mynd mas o fy ffordd fy hun, ac un o’r pethau wnes i oedd rhoi enw i’r llwyfan.

“Er mai fi oedd wrth wraidd y cyfan, drwy roi enw gwahanol ar yr hyn roeddwn i'n ei wneud, roeddwn i'n gallu cuddio’r impostor syndrome a rhoi’r gorau i amau fy ngallu a’r hyn roeddwn i’n ei gyflawni. Mae gwneud eich fideo cyntaf a’i roi ar y rhyngrwyd yn brofiad brawychus. Mae’n anhygoel fy mod i’n gwneud rhaglenni dysgu ar gyfer y BBC erbyn hyn – rydw i'n ffilmio o hyd!  Y peth nesaf oedd dysgu beth oedd y gynulleidfa am ei weld, a gofyn llawer iawn o gwestiynau.  

“Pethau felly, ond bwrw ‘mlaen drwy'r cyfan. Doedd gen i ddim arian o gwbl ar ôl rhoi’r gorau i fy swydd. Roeddwn i'n bwyta ffa pob drwy'r amser – a digon o datws pob i wneud i mi edrych fel un!

“Ond roeddwn i’n dal ati drwy'r cyfan oherwydd fy mod i wir eisiau helpu pobl.  Rydw i’n meddwl mai dyna’r ffordd orau y gwnes i ddelio gyda rhwystrau yn y dyddiau cynnar – cofio i bwy roeddwn i'n gwneud hyn i gyd.”

 

Dal i ddysgu

I fynd i’r afael â heriau busnes, mae Aimee o’r farn bod gwthio eich hun y tu hwnt i beth sy’n teimlo’n gyfforddus yn hanfodol. Ac mae dysgu sgiliau newydd yn rhan fawr o hyn.

“Fe wnes i ddysgu fy hun. Dwi'n defnyddio YouTube. Fe wnes i ei ddefnyddio i hyrwyddo fy musnes – ac i ddysgu popeth arall hefyd. Dysgais fy hun sut i greu gwefan a golygu fideos – pethau sylfaenol iawn yn y dyddiau cynnar – a chael pobl eraill o’r tu fas i wneud y gweddill.

Wrth i Careercake dyfu, roedd yr amheuon ynglŷn â’i llwyddiant a’i gallu, a dysgu dweud na, yn heriau eraill yr oedd yn rhaid i Aimee fynd i’r afael â nhw. “Dysgais yn fuan iawn ei bod yn rhaid i chi ddweud na. Treuliais lawer o amser mewn gofal maeth pan oeddwn i’n tyfu i fyny ac roedd hi mor braf clywed y ganmoliaeth a’r geiriau caredig,” meddai.

“Doedd gen i ddim llawer o hunan-barch pan oeddwn i’n tyfu i fyny. Roeddwn i'n dod o ystâd o dai cyngor yn y Barri, a mwyaf sydyn, roedd pobl glyfar o ’nghwmpas i ym mhobman. Ond doeddwn i wir ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon da – roedd hynny'n broblem enfawr – ac roedd angen i mi gamu o’r ffordd a pheidio â bod yn rhwystr i mi fy hun.

“A’r impostor syndrome – rydw i'n deall hynny – ac mae gweithio drwy hynny’n un peth, ond mae methu dweud na yn beth arall. Fyddwn i byth yn gwrthod neb gan fy mod i mor ddiolchgar bod y bobl fusnes hyn – pobl glyfar – eisiau cyfarfod am baned.  ‘Rydych chi wir eisiau treulio amser gyda fi a chlywed am fy musnes i? Mae hynna’n anhygoel!’

“Doedd dim gwahaniaeth nad oedden nhw byth yn mynd i fy helpu i wneud arian – fe fydden nhw'n ceisio gwerthu am awr neu faint bynnag, ond roeddwn i mor falch fy mod i'n cael fy ngweld, fy nghlywed, fy ngwerthfawrogi. Dyna beth mae pawb ei eisiau yn y pen draw.”

 

Edrych yn ôl ar y daith

Pan mae’n fater o ddatblygu busnes, dywed Aimee ei bod yn bwysig gwneud yn siŵr bod digon o bobl o’r un anian â chi – pobl sy'n credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud – o’ch cwmpas.

Mae hi’n cyfaddef: “Rydw i wedi gwneud camgymeriadau, ac mae’n siŵr bod rhagor i ddod, yn enwedig o ran pobl. Ond fe fydda i'n gwneud yn siŵr bod digon o bobl dda o ’nghwmpas i – pobl sy’n credu yn yr un pethau â fi.”

“Ac rydw i’n ffodus iawn o’r rhwydwaith sydd gen i. Fi wnaeth dargedu pob un o’r buddsoddwyr sydd gen i. Fe wnes i dargedu’r tri buddsoddwr cyntaf. Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau eu cael fel buddsoddwyr flwyddyn mae’n siŵr cyn i mi siarad â nhw hyd yn oed am fuddsoddi ynof fi.

“Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau Hayley Parsons, mae hi'n anhygoel. Ac yna mae Ashley Cooper – fy nghadeirydd – un o’r pethau gorau i ddigwydd i mi erioed ar lefel broffesiynol.  Am bob penderfyniad gwael rydw i wedi’i wneud, rydw i wedi gwneud iawn amdano gyda’r bobl sydd ar fy mwrdd, a’r tîm sydd o ’nghwmpas i.”

Drwy gydol ei siwrnai gyda’r busnes, mae Aimee wedi dysgu sawl peth sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Careercake. Yn fwy na dim, mae hi’n cyfaddef fod cyflogi rheolwr gweithrediadau wedi ei galluogi i hwyluso’r llwyth gwaith.

“Yn ddiweddar, rydw i wedi recriwtio rhywun i wneud yr holl waith rhedeg, hynny yw, gweithrediadau'r busnes. Ac rydw i wir yn difaru na fyddwn i wedi gwneud hynny’n gynt. Am y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rydw i wedi bod yn berson cyllid ac yn delio gyda chyfreithwyr a thwrneiod. Dydw i ddim wedi bod yn gwneud yr holl bethau rydw i wrth fy modd yn eu gwneud, sef hyfforddi, addysgu, siarad, a helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w llais yn y byd.

Ychwanega: “Rydw i'n credu mai’r peth mawr arall oedd sicrhau fy mod i'n mynd mas o fy ffordd fy hun. Mae dysgu bod yn berson gwerthu pan mai chi eich hun sydd wedi sefydlu’r busnes yn her fawr, oherwydd rydych chi'n gwerthu chi eich hun, ac roedd hynny’n anodd i mi ar adegau.

“Ac mae pawb yn gwybod, heb werthiannau a heb arian yn y banc, dim ond hyn a hyn o arian y bydd buddsoddwr yn fodlon ei roi i chi nes bod y gwerthiannau'n dechrau cynyddu.

“Rydw i'n meddwl y gallwn i fod wedi dechrau gwthio mwy arnaf fi fy hun i fod yn berson gwerthu yn gynt nag y gwnes i, yn hytrach na chwilio am bobl eraill i werthu a recriwtio ar fy rhan i, a bod hynny wedyn ddim yn gweithio. Fi sy'n gwerthu'r cynnyrch – fy musnes i yw Careercake, a fi yw’r person gorau i wneud hynny.”

 

Gwyliwch y cyfweliad fideo