Q&A: InTouch Marketing Consultancy

Yn dilyn rhaglen cyflymu busnes di-ecwiti y Town Square ddiweddaraf, cawsom sgwrs â Hannah Warden a Rebecca Maddocks, sef Cyd-sylfaenwyr InTouch Marketing Consultancy. Yn ystod ein sgwrs, cawsom gyfle i glywed am eu taith entrepreneuraidd ar garlam a sut mae cymryd rhan yn y rhaglen cyflymu wedi helpu i’w paratoi ar gyfer lansio eu busnes.

InTouch Marketing Consultancy

Yn gyntaf, llongyfarchiadau am lansio InTouch Marketing Consultancy yn ddiweddar - allwch chi ddweud wrthym ni pam y gwnaethoch lansio’r busnes?

Mae InTouch Marketing yn darparu gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol i fusnesau bach er mwyn cynyddu ymgysylltiad a’u presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ein gwasanaethau’n cynnwys dadansoddiadau ac awgrymiadau, creu cynnwys, a rheoli’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ddwy ohonom yn farchnatwyr brwd ac mae gennym brofiad o'r hyn a ddysgwyd yn y brifysgol a thrwy ddefnyddio’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ein hunain. Roeddem eisiau creu busnes yn gwneud rhywbeth roeddem yn ei fwynhau a rhywbeth mae gennym y sgiliau ynddo hefyd er mwyn darparu gwasanaeth o safon uchel i’n cleientiaid.

Gwnaethom feddwl am y syniad ar gyfer InTouch Marketing Consultancy yn ystod yr wythnosau cyntaf o gyfyngiadau symud Covid-19. Roeddem eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio ein hamser yn gynhyrchiol i wella ein hymwybyddiaeth, ein profiad a’n sgiliau masnachol. Hefyd, roeddem eisiau helpu busnesau bach i adfer ar ôl Covid-19 gyda phresenoldeb cryfach yn y farchnad. Trwy gydol ein hamser yn astudio gradd rheoli busnes, rydym wedi ymgymryd ag amrywiaeth o astudiaethau sy’n ymwneud â marchnata ac mae hynny wedi ein helpu i ddeall pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnesau bach. Roedden ni eisiau gwella ein hunain a darparu cymorth i’r rheini a oedd ei angen yn ystod y pandemig ofnadwy hwn. Felly, gwnaethom feddwl y byddai sefydlu busnes ym maes cyfryngau cymdeithasol yn gyfle gwych i ni!

 

Dywedwch ychydig amdanoch chi

Mae’r ddwy ohonom ni newydd orffen ein hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Astudiodd Hannah Rheoli Busnes gyda Marchnata ac astudiodd Rebecca Rheoli Busnes. Daethom yn ffrindiau ar ôl sylwi bod y ddwy ohonom yn frwd dros farchnata, yn weithgar ac yn llawn cymhelliant. Cawsom y cyfle i weithio’n agos iawn mewn gwaith grŵp yn ystod y flwyddyn academaidd hon ac yna penderfynu y byddai sefydlu busnes gyda’n gilydd yn gyfle gwych i wella ein profiad marchnata.

 

Rydym yn ymwybodol eich bod wedi cymryd rhan yn rhaglen cyflymu busnes Town Square yn ddiweddar - pam gwnaethoch benderfynu gwneud cais a beth oeddech yn gobeithio ei gyflawni o’r rhaglen?

Gwnaethom wneud cais ar gyfer y rhaglen cyflymu oherwydd roeddem eisiau gwella ein sgiliau, dysgu a gwneud yn siŵr ein bod yn barod i lansio’r busnes. Gwnaethom lansio’r busnes ar 1 Mehefin yn ystod y rhaglen ac roedd pob sesiwn a gawsom yn rhoi cymorth a syniadau i ni a oedd yn cynyddu ein hyder yn ystod y dyddiau cyn lansio’r busnes a’r dyddiau ar ôl ei lansio. Wrth wneud cais i’r rhaglen, roeddem yn gobeithio y byddai’n rhoi hwb i’n lansiad ac yn rhoi'r cyfle i ni fod yn llwyddiannus.

Cyn y rhaglen cyflymu, nid oeddem yn gwybod beth i’w ddisgwyl, roedd y ddwy ohonom yn poeni a fyddai’r rhaglen yn gwneud i ni deimlo nad oeddem yn barod i ddechrau ein busnes ein hun. Ond i’r gwrthwyneb! Yn syth ar ôl dechrau’r rhaglen, cawsom gyngor a gwybodaeth a’r cyfle i gwrdd â phobl eraill mewn sefyllfa debyg i ni gyda’r un brwdfrydedd a chymhelliant. Roedd yr holl nerfau wedi diflannu ac roeddem yn teimlo’n barod i ddechrau’r busnes oherwydd roeddem yn gwybod bod gennym dîm mawr yn gefn i ni i roi cymorth os byddem ei angen wrth i ni ddechrau gweithio gyda chleientiaid.

 

Pa wybodaeth a chymorth sydd wedi eich helpu i wireddu InTouch Marketing fel busnes?

Roedd y rhaglen cyflymu’n wych oherwydd roedd yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol bob dydd. Roedd hyn yn golygu ein bod yn cael gwybodaeth ddiddorol a gwahanol bob dydd. Roedden ni’n lwcus ein bod yn gyn-fyfyrwyr Rheoli Busnes oherwydd roeddem wedi astudio llawer o’r wybodaeth a gawsom ar y rhaglen yn ein gradd. Ond, drwy atgyfnerthu’r wybodaeth yn y rhaglen, roedden ni’n teimlo’n hyderus am ein sgiliau a’n gwybodaeth ac roedd hynny’n cynyddu ein hyder ar gyfer cyflawni ein busnes.

Roedd y ddwy ohonom yn poeni am yr ochr gyfreithiol, felly ar ôl y sesiwn gyfreithiol, gwnaethom fanteisio ar y cyfle i holi’r prif siaradwr yn breifat. Roedd hyn yn werthfawr iawn i ni, ac roeddem yn falch iawn bod pob siaradwr ar y rhaglen yn garedig, yn hawdd mynd atyn nhw, ac yn awyddus i helpu.

 

Mae’r byd entrepreneuraidd yn llawn heriau ond mae’n llawn cyfleoedd hefyd, sut mae eich taith wedi bod hyd yma a beth yw eich dyheadau ar gyfer y 6 mis nesaf?

Mae ein taith hyd yma wedi bod yn well na’r hyn roeddem wedi’i ddisgwyl. Roedd yr ymateb a gawsom ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl lansio’r busnes yn wych. Roedd dros 400 wedi ymweld â’n gwefan yn ystod ein 2 diwrnod cyntaf yn masnachu. Roedd hyn yn rhyfeddol i ni oherwydd roedd gan bobl ddiddordeb yn yr hyn roeddem yn ei wneud. Ers hynny, rydym wedi cael 3 cleient ac roedd pob un angen gwasanaethau gwahanol. Gwnaeth hynny brofi elfennau gwahanol o’n sgiliau a’n harbenigedd.

Yn ystod y 6 mis nesaf, ein dyheadau yw parhau i dyfu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael cynulleidfa eang ar ein llwyfannau i rannu awgrymiadau, triciau a gwybodaeth. Rydym hefyd eisiau parhau i dyfu drwy siarad â darpar gleientiaid newydd ac ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar beth sydd ei angen ar ein cleientiaid. Rydym eisiau defnyddio’r 6 mis nesaf i roi cynnig ar bethau newydd er mwyn gweld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim, gwella ein presenoldeb a dangos i bobl beth rydym yn gallu ei wneud.

 

Beth yw eich prif gyngor i’r bobl sydd mewn sefyllfa debyg ac eisiau gwireddu eu syniad busnes?

Does dim amser gwell i ddechrau busnes a chreu’r llwybr at y dyfodol rydych eisiau. Doedd gennym ni ddim byd i’w golli, ar ôl gorffen ein harholiadau yn y Brifysgol, roeddem yn gallu canolbwyntio 100% ar ein busnes. Roeddem yn awyddus i ganfod ffordd o gael incwm ychwanegol a phrofiad gwaith i ddechrau ein gyrfaoedd marchnata.

Rydym yn cynghori pawb sy’n ystyried dechrau busnes i fynd amdani! Ewch amdani a chamu i mewn i fyd anghyfarwydd! Bydd hyn yn creu argraff dda ar gyflogwyr yn y dyfodol, eich ffrindiau a’ch teulu ond mae hefyd yn rhoi’r teimlad o hunangyflawniad i chi ac yn eich galluogi i ddangos beth rydych yn gallu ei wneud. Mae dechrau’r busnes hwn wedi’n galluogi ni i gwrdd â phobl ysbrydoledig a gwneud cysylltiadau gwych drwy rwydweithio. Byddwn yn gallu edrych ar y profiadau hyn a bod yn falch ohonynt am weddill ein hoes.

 

Pa ddwy wers werthfawr rydych wedi’u dysgu hyd yma yn ystod eich taith entrepreneuraidd?

Rydym wedi dysgu ei bod yn bwysig credu ynoch chi’ch hun a’ch bod yn gallu llwyddo! Rydym wedi baglu dros rai pethau ac mae hynny wedi bod yn rhwystredig, ond rydym wedi cyflawni pethau gwych hefyd. Felly, un wers rydym wedi’i dysgu yw canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, nid ar y pethau negyddol, a chredu ein bod yn gallu cyflawni ein nodau wrth weithio’n galed a bod yn benderfynol. 

Ble gallwn ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eich cwmni? (Mae croeso i chi ychwanegu eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol/gwefannau yma)

Mae gennym wefan (www.intouchmarketingconsultancy.co.uk) lle gall pobl gysylltu â ni a darllen ein blogiau. Rydym yn llwytho blog i fyny bob wythnos am bynciau gwahanol sy’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gennym dudalen LinkedIn a Facebook (InTouch Marketing Consultancy) ar gyfer rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf a dangos beth rydym yn ei wneud. Mae gennym dudalen Instagram hefyd (@theintouchgirls) ar gyfer rhannu awgrymiadau a thriciau am y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn ei ddefnyddio fel llwyfan ddysgu ar gyfer ein dilynwyr fel y gallwn arddangos ein sgiliau a’n gwybodaeth wrth ddarparu cymorth i fusnesau bach.