Ifan Evans – Llywodraeth Cymru

Arloeswr yn Llywodraeth Cymru sy’n helpu i newid cyflwr gofal iechyd yng Nghymru.

Yn ei swyddogaeth yn arwain Arloesedd a Strategaeth Technoleg Gofal Iechyd yn Llywodraeth Cymru, mae Ifan Evans yn archwilio ffyrdd newydd o gyflymu arloesi drwy systemau iechyd a gofal y dywysogaeth, fel bod y GIG yng Nghymru yn cyflawni mwy dros y bobl y mae’n eu gwasanaethu - ac ar yr un pryd, mae ganddo yn ogystal gyfrifoldeb am sicrhau bod gweithgaredd gofal iechyd yng Nghymru yn cefnogi twf economaidd a chymunedau cryfach.

Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae Ifan yn gwybod bod cydweithredu yn allweddol.  Dywedodd fod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa unigryw i greu’r diwylliant cywir i symbylu newid cadarnhaol. Esbonia Ifan, “Ychydig iawn o endidau sydd â diddordeb mewn edrych ar effaith gyfan system gofal iechyd ar gymdeithas a’r economi. Ond mae llywodraethau yn wahanol. Maen nhw yn dymuno cefnogi swyddi a thwf, annog dysgu ac uchelgais, cryfhau cymunedau, a diogelu system iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn gallu cwrdd ag anghenion pawb. Yn Llywodraeth Cymru, rydym ni’n dod â llawer o bobl at ei gilydd i gydweithredu fel un o gwmpas yr her hon, gan gynnwys prifysgolion, sefydliadau ymchwil, elusennau, mentrau cymdeithasol a busnesau masnachol.”

Os yw hyn yn gosod Llywodraeth Cymru fel hwylusydd, mae Ifan yn awyddus i gyfeirio at y ffaith fod ei dîm yn ogystal yn chwarae rôl allweddol o ran arloesi.“Rydym ni’n gwneud llawer ar fabwysiadu technoleg,” dywed Ifan. “Rydym ni’n cefnogi’r GIG yng Nghymru i ymgysylltu â’r cyfleoedd technolegol newydd, yn cynnwys asesu nwyddau a gwasanaethau  newydd yn gyflymach, ac yna’n defnyddio’r rhai hynny sy’n gweithio orau ar raddfa fwy.”

“Hyd yn oed yn fwy cyffrous, rydym ni’n gweithio yn agos â’r GIG yng Nghymru a phartneriaid eraill er mwyn datblygu’r atebion yr ydym ni wirioneddol eu hangen. Rydym yn nodi problemau a heriau allweddol, ac yna yn gweithio gyda’n gilydd i arloesi yn erbyn yr anghenion hynny er mwyn creu technolegau sy’n ymdrin â nhw yn uniongyrchol. Mae hynny’n dda ar gyfer y system gofal iechyd, sy’n cael gwell offer i weithio gyda nhw, ac mae’n dda ar gyfer partneriaid hefyd, oherwydd bod ganddyn nhw nwyddau a gwasanaethau ymarferol sy’n cwrdd â gwir angen yn y farchnad.”

Bu’r GIG yng Nghymru yn arloesi drwy weithio gyda diwydiant yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau, ac felly mae’r strategaeth hon yn ddychweliad pwrpasol at y dull hwn.  Eglura Ifan, “Drwy weithio yn uniongyrchol â’r sector corfforaethol, mae’r GIG yng Nghymru yn cael mwy o bobl i weithio ar broblemau sydd angen eu datrys, gan ddod â mewnwelediadau ffres o ddiwydiant a phartneriaid prifysgol sydd â gwir awydd ac ysgogaeth i arloesi. Mae cyflymdra’r newid wedyn yn cynyddu, sydd yn union yr hyn yr ydym ni ei angen.

Mae Ifan yn priodoli ei arddull entrepreneuraidd o arweinyddiaeth yn y lle cyntaf i’w brofiad o adeiladu a gweithredu amrywiaeth o fusnesau ar draws gwahanol sectorau, yn cynnwys hamdden, manwerthu, twristiaeth, eiddo a gweithgynhyrchu, ac yn ail, wrth ddysgu gan lawer o’r busnesau sy’n cychwyn a’r busnesau technoleg twf cynnar yr oedd ef a’i dîm yn gweithio gyda nhw. Mae’n dweud “Mae iechyd a gofal yn lle hyfryd dros ben ar gyfer technoleg ac arloesi, ac rydym ni’n gwybod ein bod ni’n gorfod dal i fyny gyda’r busnesau hynny, ac felly, rydym ni bob amser yn ceisio dysgu o’u dull a’u hynni nhw. Pan ofynnwyd iddo ynglŷn â Creu’r Sbarc, mae Ifan yn amlwg yn gyffrous ynglŷn â gweld sut y bydd y rhaglen yn datblygu. “Oherwydd bod MIT yn cymryd rhan, ac os ystyriwch eu cymwysterau, bydd Cymru yn elwa o’r dysgu ynglŷn â rhai o’r ymarferion gorau rhyngwladol anhygoel. Bydd entrepreneuriaid yma yn cael eu hysbrydoli i symud eu busnesau i’r lefel nesaf, ac mae hynny yn rhywbeth sy’n gorfod bod yn dda i’r genedl.”