Holi ac ateb gydag Adele Pember, Sylfaenydd Dog Furiendly

Cawsom y pleser o siarad ag Adele Pember, sylfaenydd Dog Furiendly yn gynharach y mis yma i gael yr hanes diweddaraf am ei thaith entrepreneuraidd ers cymryd rhan yn ein cystadleuaeth Pitch It yn ôl yn 2019. Fe ofynnon ni i Adele hefyd am unrhyw gyngor y byddai hi’n fodlon ei rannu gydag unrhyw berchennog busnes sy’n ceisio goresgyn heriau yn eu busnes a beth sy’n ei hysbrydoli i barhau i dyfu ei busnes hi.

Adele Pember - We are family image

Dwed wrthym am dy gwmni.

Fe ddechreuais i Dog Furiendly i helpu fy nghi shiwawa, Charlie, sydd, fel 85% o gŵn ym Mhrydain, yn dioddef gorbryder ac unigrwydd pan gaiff ei adael gartref ar ei ben ei hun. I ddechrau, dim ond blog bach oedd e lle byddwn yn rhannu enwau llefydd oedd yn croesawu cŵn yn lleol yng Nghaerdydd – ond wrth i’w boblogrwydd gynyddu roedd pobl yn galw am blatfform mwy a gwell. Felly, dyma ni’n creu platfform mwy cynhwysfawr, lle gall perchnogion cŵn ddod o hyd i lefydd sy’n croesawu cŵn ar hyd a lled Prydain, rhannu eu hoff lefydd a gadael adolygiadau – fel TripAdvisor i berchnogion cŵn.

Platfform teithio yw Dog Furiendly, sy’n helpu perchnogion cŵn ledled Prydain ddod o hyd i lefydd sy’n croesawu cŵn – hynny yw, yn eu caniatáu yn yr adeilad – llefydd fel tafarnau, caffis, gwestai a mwy. Ein nod yw cynnig gwasanaeth i berchnogion cŵn gael darganfod a theimlo’n fwy hyderus wrth fynd i lefydd newydd gyda’u cŵn, ac ar yr un pryd caniatáu llwyfan i fusnesau sy’n croesawu cŵn ddangos beth sydd ganddynt i’w gynnig ac ennill cwsmeriaid newydd. Byddwn yn dod â phobl at ei gilydd hefyd, drwy drefnu grwpiau mynd â chŵn am dro, lle gall pobl a chŵn fel ei gilydd gyfarfod ag eneidiau o’r un anian. Erbyn heddiw, rydyn ni’n helpu dros 250,000 o berchnogion cŵn bob blwyddyn i drefnu eu hanturiaethau bythgofiadwy efo’i gilydd.

 

Fedri di ddweud wrth ein darllenwyr sydd efallai’n gwybod am dy fusnes beth rydych chi wedi bod yn ei wneud a ble rydych chi nawr ers cymryd rhan yn ein digwyddiad Pitch It yn ôl yn 2019?

Ers ein llwyddiant yn Pitch It y Cymoedd rydyn ni wedi methu peidio â llon-gyfarth ein gilydd! Bydd y buddsoddiad yn ein helpu i gynyddu’r busnes a’i ymestyn yn fyd-eang, ond nid yr arian yw’r unig beth sy’n cyfri i ni. Y gwerth go iawn, yn enwedig mewn cyfnod mor ddyrys, yw’r arweiniad strategol rydyn ni wedi’i gael gan ein buddsoddwyr a’n cyfarwyddwyr newydd. Gyda’n gilydd ry’n ni’n canolbwyntio ar gyrraedd y brig yn y farchnad fyd-eang am deithio ac antur. Rydyn ni wedi rhyddhau ap ac ry’n ni hefyd yn gweithio ar ffyrdd newydd i gynyddu twristiaeth pedair coes a chynffon yng Nghymru. Mae cefnogi’r diwydiant ymwelwyr a chroeso yn hollbwysig nawr yn fwy nag erioed a’n nod ni yw helpu cael yr economi’n ôl ar ei bawennau.

 

Fyddet ti’n dweud fod gennyt ti drefn ddyddiol iach? Os byddet, sut beth ydi o fel arfer?

Er gwaetha’r pandemig, rwy’n wirioneddol ffodus o gael cwmni dau gi yn fy mywyd. Mae cŵn yn ein helpu ni i lynu at drefn ddyddiol iach – ac yn helpu i’n cael ni allan o’r tŷ rhag inni fynd yn wallgo yn y caethiwed rydyn ni ynddo ar hyn o bryd! Rwy wastad yn gwneud yn siŵr, waeth pa mor wyllt neu brysur fydd fy niwrnod, fod gen i’r un awr rhydd honno i gerdded y cŵn a chymryd hoe o’r gwaith. Dyna pryd y bydda i fel arfer yn meddwl am fy syniadau gorau; mae wedi fy helpu i siapio’r busnes.

 

Beth sy’n dy ysbrydoli di bob dydd i ddal i dyfu ac adeiladu’r busnes?

Mae ’na lawer o ffactorau gwahanol sy’n fy ysbrydoli i i ddal i fynd a thyfu – ond yn y pen draw, y cŵn yw fy ysbrydoliaeth. Pan gaf ddiwrnod lle rwy’n teimlo’n llawn o hunan-amheuaeth, rwy’n meddwl yn ôl am y rheswm pam y dechreuais i’r busnes. Yn ffodus i mi, mae’r rheswm hwnnw’n eistedd nesaf ata’i bob dydd. Pan nad ydw i wrthi’n dwlu ar fy nghi, mae gwylio entrepreneuriaid benywaidd yn rheoli eu diwydiant yn rhoi’r symbyliad angenrheidiol imi geisio sicrhau bod Dog Furiendly mor wych ag y gall e fod.

 

Beth yw dy dri chyngor ymarferol gorau i entrepreneuriaid i oresgyn yr heriau yn eu busnes?

Fy nghyngor cyntaf i helpu entrepreneuriaid i oresgyn yr heriau yn eu busnes yw: ewch yn ôl at eich gwreiddiau. Mae’n gallu bod mor hawdd amau eich hun a cholli ffocws ar y prif nod. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi, ewch yn ôl at wraidd y busnes: eich rheswm dros wneud hyn. Atgoffwch eich hun pam y gwnaethoch chi gychwyn y busnes yn y lle cyntaf a beth oedd eich breuddwyd. Sgrifennwch y rhesymau hynny i lawr a gosodwch ambell darged bach i’ch cario chi drwy’r wythnos, y mis neu’r flwyddyn. Bydd hyn yn help i chi adennill eich pwrpas ac yn rhoi’r penderfyniad ichi wynebu unrhyw rwystrau.

Fy ail gyngor fyddai: peidiwch â gorweithio’ch hun. Mae gofalu amdanoch chi’ch hun mor bwysig, achos mae eich busnes eich angen chi. Fel entrepreneuriaid, ry’n ni’n gwisgo cymaint o hetiau (a sgarffiau a menig). Gweithiwch yn glyfrach, ddim yn galetach – canolbwyntiwch ar y tasgau sy’n cyfrannu at gyrraedd eich targedau, boed hynny’n gynyddu gwerthiant neu dyfu eich cymuned. Pan fyddwch yn ei chanol hi’n gofalu am fusnes, mae’n hawdd anghofio gofalu amdanoch chi’ch hun. Cymerwch hoe i gael eich gwynt atoch, gwnewch ymarfer corff i leihau straen, bwytwch yn dda, cysgwch yn dda, ewch allan i’r awyr iach a gofalwch am eich iechyd meddwl.

Yn olaf: credwch ynoch chi’ch hun ac yn eich gallu i dyfu. Pan deimlwch rwystr yn ffordd eich busnes, peidiwch â’i wthio o’r neilltu oherwydd diffyg hunan-hyder; sgrifennwch bob peth y gallech ei wneud i’w oresgyn. Rai blynyddoedd yn ôl, fe wnaethon ni drefnu ‘Dogtoberfest’ i berchnogion cŵn. I ychwanegu at deimlad ‘go-iawn’ y digwyddiad, roedden ni’n daer eisiau cael rhywun i mewn i wneud ychydig o iodlo. Ond roedd y prisiau a gawson ni am hyn yn wirion o ddrud, felly yn lle torri ’nghalon am y peth mi gymerais i gwrs ar sut i iodlo a’i wneud e fy hun. Os na wnewch chi gredu ynoch chi’ch hun neu yn eich busnes, wnaiff neb! Does dim byd na allwch chi ei gyflawni, a phwy a ŵyr, falle un diwrnod byddwch chi’n iodlo hefyd.

 

Beth yw’r wers fwyaf rwyt ti wedi’i dysgu fel entrepreneur?

Rwy’n dal i ddysgu rhywbeth newydd bob dydd. Y peth mwyaf oedd dod allan o’m lle cysurus a derbyn yr holl wybodaeth oedd ei hangen arna’i i gynnal y busnes. Roedd pethau fel strwythur corfforaethol, codi arian a chyllid yn eiriau dierth i mi cyn dechrau Dog Furiendly. Dysgais yn gyflym y byddai Google yn dod yn ffrind pennaf imi. Bob tro rwy’n meddwl fy mod i wedi ei deall hi, rwy’n sylweddoli nad ydw i ddim, ond dyma sut rwy’n tyfu a sut mae newid da yn digwydd.

 

Unrhyw gyngor i bobl sydd am fod yn entrepreneuriaid a chychwyn eu busnes eu hun?

Daliwch i herio’ch hun, byddwch yn chwilfrydig a pheidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu na holi cwestiynau. Mae pob ffordd at lwyddiant yn cynnwys heriau, ac wrth ddysgu mwy am eich busnes, fe ddysgwch chi fwy amdanoch chi’ch hun hefyd!