Holi ac ateb gyda Mark Wardill, o Wardill Motorcycle Company

Cawsom sgwrs yn ddiweddar gyda Mark Wardill, perchennog a chyfarwyddwr cwmni moto-beics Wardill, i’w holi beth yw hynt ei gwmni ers iddo gymryd rhan yn ein digwyddiad ‘Pitch It’ yn ôl yn 2019. Dyma ni’n gofyn i Mark beth sy’n ei ysbrydoli, beth oedd y wers fwyaf a ddysgodd fel entrepreneur a beth yw ei gyngor i bobl eraill sy’n meddwl cychwyn eu busnes eu hun.

Mark Wardill - WMC

Alli di ddweud ychydig mwy wrthon ni am dy gwmni?

Cafodd ein cwmni, Wardill Motorcycle Company, ei sefydlu gyntaf yn ôl yn 1927. Ry’n ni’n gwneud moto-beics hen-ffasiwn newydd, wedi’u gwneud â llaw ar archeb ym Mhrydain.

 

I’n darllenwyr sydd falle yn gwybod rhywfaint am dy fusnes, fedri di’n hatgoffa ni a rhoi gwybod inni ble rydych chi nawr ers cymryd rhan yn ein digwyddiad Pitch It yn ôl yn 2019?

Ers cymryd rhan yn Pitch It yn 2019, ry’n ni wedi gorffen ein prototeip moto-beic ac wedyn wedi datblygu’r beic i’w gynhyrchu. Rhan o’r broses hon oedd datblygu’r lluniadau technegol er mwyn gallu cynhyrchu’r rhannu mewn niferoedd mawr. Ry’n ni hefyd wedi datblygu profiad rhithwir sy’n rhoi cyfle i gwsmeriaid posib gael tro ar y beics mewn sefyllfa rithiol, er enghraifft mewn sioe farchnata. Hefyd ry’n ni wedi datblygu ap adeiladu beic rhithiol sy’n galluogi darpar gwsmeriaid i adeiladu beic rhithiol ac wedyn taflunio’r beic i’w garej neu eu dreif.

 

Fyddet ti’n dweud fod gennyt ti batrwm dyddiol iach? Os felly, sut mae’n mynd fel arfer?

Ar hyn o bryd nid rhedeg Moto-beics Wardill yw fy unig swydd. Mae gen i waith amser llawn hefyd, felly fel arfer bydd fy niwrnod yn dechrau wrth imi logio mewn i ’ngwaith bob dydd a chanfod amser i ffitio’r busnes moto-beics o gwmpas fy oriau gwaith – fel arfer yn ystod fy awr ginio ac ar ôl gwaith. Dyw e ddim yn ddelfrydol ond ddywedodd neb y byddai cychwyn busnes yn hawdd!

 

Beth sy’n dy ysbrydoli di bob dydd i ddal i dyfu a datblygu’r busnes?  

Mae wedi bod yn hen flwyddyn galed ac mae llawer o’r digwyddiadau lle roedden ni wedi bwriadu hysbysebu’r beic wedi cael eu canslo, a llawer o bobl oedd yn meddwl prynu beic wedi methu teithio i gael reid prawf cyn prynu. Wrth lwc, mae’r beic wedi cael croeso mor wych, a’r rhan fwyaf sydd wedi ei weld yn llawn canmoliaeth. Rwy’n gwybod y gwnes i’r peth iawn yn lansio’r busnes ’ma, felly dyna beth sy’n fy nghadw i i fynd.

 

Beth yw dy 3 ‘top tip’ ymarferol i entrepreneuriaid i oresgyn unrhyw her yn eu busnes?

Os gallwch chi, dechreuwch yn ifanc, ond peidiwch byth â gadael i’ch oed benderfynu a ddylech chi gychwyn busnes ai peidio.

Ysgrifennwch restrau a’u croesi i ffwrdd pan fyddwch wedi’u gwneud nhw. Mae’n ymddangos yn syml, ond fe synnech chi gymaint o bobl sy’n meddwl y gwnawn nhw gofio gwneud popeth – wnân nhw ddim!

Peidiwch â bod ofn dysgu a chymerwch gymaint o gyngor ag y gallwch, cerwch i seminarau, cwrddwch â phobl, siaradwch â nhw.

 

Beth yw’r wers fwyaf rwyt ti wedi’i dysgu fel entrepreneur?

Wnaiff e ddim digwydd dros nos; bydd e’n waith caled ac mi fyddi di’n blino, ond dal ati ac fe gyrhaeddi di yn y pen draw!

 

Unrhyw gyngor i ddarpar entrepreneuriaid sy’n meddwl cychwyn eu busnes eu hunain?

Wnaeth Amazon ddim dechrau fel cwmni mawr, na Tesla chwaith. Agorwch ‘google earth’ ar eich cyfrifiadur, teipiwch eich cod post ac wedyn sgroliwch allan. Daliwch i sgrolio allan a sylwch faint o dai sydd yna – maen nhw i gyd yn gleientiaid neu gwsmeriaid posib.