Cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid – y Principality a CAWC
Mae’r astudiaeth achos isod yn enghraifft wych o Creu Sbarc ‘ar waith’ drwy ddod â'r entrepreneur a grwpiau o randdeiliad corfforaethol ynghyd yn weithredol er mwyn helpu i greu ecosystem entrepreneuraidd fwy gweladwy, syml a chysylltiedig yng Nghymru.
Ar 17eg Mai 2018, croesawyd tîm gweithrediaeth y Principality gan y tîm arweinyddiaeth yng Nghanolfan Arloesi Wesley Clover i’w hadeilad yn y Celtic Manor, Casnewydd. Cododd y cyfle hwn yn wreiddiol gan Caroline Thompson, PSG Creu Sbarc yn llywyddu cyfarfod yr oedd ganddi gyda Steve Hughes, PSG y Principality yn yr adeilad wythnosau cyn hynny.
Pwrpas yr ymweliad hwn oedd hwyluso cyfarfod o fwrdd y Principality a ddilynwyd gan gyfle unigryw ar gyfer pump o fusnesau a leolir yn y ganolfan Arloesi er mwyn i bob busnes gael cynnig eu syniadau 1:1 i’r tîm gweithredol.
Roedd y busnesau a gynigiodd eu syniadau i dîm y Principality yn cynnwys:
- CulturVate
- Talkative
- Volunteer Space
- Codeherent
- Hut Six
Roedd y syniadau a gyflwynwyd yn cynnig cynnyrch neu wasanaeth sy’n anelu at ddatrys problemau busnes dilys y mae cwmnïau yn eu hwynebu yn amgylchedd heddiw a gwella effeithlonrwydd y cwmni wrth gyflawni hyn.
Drwy ddefnyddio methodoleg Creu Sbarc, gan gysylltu ac annog cydweithrediad rhwng y grwpiau rhanddeiliaid corfforaethol ac entrepreneuraidd, roedd yr ymweliad hwn yn dod ag entrepreneuriaid uchelgeisiol at sylw cwmnïau corfforaethol.
Profodd y cyfle unigryw hwn o fudd i’r naill a’r llall. Ar ddiwedd y cyfarfod, cynigiodd y Principality gyfarfod dilynol i bob entrepreneur er mwyn trafod eu datrysiad a’u cynnig ymhellach. Dyrannwyd eu haelod eu hunain o’r Bwrdd yn ogystal i bob entrepreneur fel mentor.
Yn dilyn cynnig eu syniadau i’r Principality, cyflwynwyd Simon Fraser, PSG Hut Six yn uniongyrchol i’w tîm diogelwch sy’n rheoli diogelwch seibr a digidol i’r Principality:
“Ers cyfarfod y Principality am y tro cyntaf yng Nghanolfan Arloesi Wesley Clover yn dilyn eu diwrnod tîm yn ôl ym mis Mai, mae Hut Six ers hynny wedi cyfarfod â thîm diogelwch y Principality er mwyn cymharu nodiadau a chael mewnwelediad ynglŷn â’u rhaglen ymwybyddiaeth diogelwch mewnol a’r cynnyrch yr ydym yn ei gynnig. Mae hyn wedi arwain at adborth da ynglŷn â chynnyrch a’r potensial i weithio gyda’n gilydd yn y flwyddyn sydd i ddod, ac rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â hyn.”
Yn ogystal, gwelodd Jordan Alexander, PSG Codherent – offeryn côd sy’n anelu at bontio’r bwlch sgiliau drwy alluogi datblygwr amhrofiadol i ddefnyddio Terraform yn hawdd, gydag ychydig o hyfforddiant neu arbenigedd – y cyfle yn fuddiol drwy gael mewnwelediad gwerthfawr yn uniongyrchol gan dîm TG y Principality:
“Mae Codherent wedi cael sawl cyfarfod gydag uwch aelodau o dîm TG y Principality sy’n gyfrifol am swyddogaeth TG yn y busnes. Mae’r Principality yn gwmni blaengar a chyfeillgar dros ben, sydd wedi ffurfio perthynas dda gyda ni, ac yn y dyfodol agos, rydym yn gobeithio eu helpu nhw i fabwysiadu Terraform yn eu sefydliad nhw.”
“Mae’r Principality wedi ein darparu â dilysrwydd a mewnwelediad gwerthfawr, sydd yn ei dro, wedi helpu i arwain datblygu platfform gwirfoddoli newydd ar gyfer busnesau. Mae’r tîm yn y Principality wedi bod yn gefnogol dros ben ac edrychwn ymlaen at eu croesawu nhw i gael profiad o Volunteer Space yn y Flwyddyn Newydd.”
Darganfu Craig Barnett, PSG CulurVate y profiad yr un mor werthfawr. Yn dilyn cynnig ei syniadau, cafodd ei gyflwyno yn uniongyrchol i Sam Marshall o dîm Saernïaeth TG y Principality, ychydig amser ar ôl y cyfarfod:
“Ers cyfarfod â Steve Hughes a’r tîm gweithredol, rydym wedi cael nifer o drafodaethau gyda’r Principality ynglŷn â’u prosesau arloesi. Mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn ddefnyddiol i alluogi CulturVate i ddeall sut mae cwmnïau corfforaethol yn meithrin a chadw dull arloesol tuag at weithio. Rydym yn gyffrous ynglŷn â’n perthynas sy’n datblygu gyda’r Principality a beth all y dyfodol ei gynnig.”