Cwrdd â'r entrepreneur benywaidd sy'n anelu’n uchel yn ei gyrfa newydd yn darparu gwasanaethau angladdol pwrpasol

Fe wnaethom ni siarad â Claire Mountain mewn cyfweliad yn ddiweddar; entrepreneur benywaidd o dde Cymru ydy Claire, ac fe ddechreuodd Mountain Celebrations yn 2010 ar ôl gadael gyrfa yn hedfan yn uchel i ddarparu gwasanaethau angladdol pwrpasol.

Ffurfiwyd y cwmni yn y lle cyntaf â’r syniad o fod yn fusnes bach ar yr ochr a fyddai'n cyd-fynd â swydd arall Claire, sef hedfan i British Airways - mae hi wedi bod yn gwneud hynny am fwy na 25 mlynedd. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl ei lansio, fe welwyd bod Mountain Celebrations yn mynd o nerth i nerth ac yn mynnu holl sylw Claire nes iddi benderfynu ymroi i’r gwaith yn llawn amser.

Claire Mountain - Mountain Celebrations

C: Sut y ffurfiwyd Mountain Celebrations? Sut/pam wnes di benderfynu gadael gyrfa gyda BA i ddarparu gwasanaethau angladdol?

Ar ôl cael sgwrs â threfnydd angladdau lleol, Philip Toms & Sons, fe sylweddolais fod bwlch yn y diwydiant i rywun a allai gynnig gwasanaethau angladdol pwrpasol a oedd yn diwallu anghenion a dymuniadau unigryw pob teulu. Yn fuan wedi hynny, dilynais gwrs byr mewn Dathliadau Sifil (hwn oedd yr unig gwrs ar gael ar y pryd).

Yn ystod fy ngyrfa’n gweithio i British Airways, dysgais nifer fawr o sgiliau trosglwyddadwy mewn gwasanaethau i gwsmeriaid yn ogystal â phrofiad hanfodol o weithio gyda phobl o bob cefndir, diwylliant a chrefydd. Rhoddodd yr hyder a'r gallu i mi addasu ein gwasanaethau’n unigol i bob teulu rydym yn gweithio gyda nhw.

 

C: Mae Mountain Celebrations wedi gweld twf sylweddol ers lansio yn 2010 - Beth wyt ti’n feddwl yw eich USP (pwynt gwerthu unigryw)? Sut mae Mountain Celebrations yn wahanol i bawb arall yn y diwydiant?

USP Mountain Celebrations yw’r ffaith ein bod yn wirioneddol bwrpasol. Rydym yn gwrando ar anghenion a dyheadau ein cleientiaid ac yn gwneud ein gorau glas i’w diwallu. Mae ein hagwedd yn hyblyg ac mae gennym lawer iawn o empathi a gwybodaeth am y byd a phrofiad o bobl.

 

C: Pryd oeddet ti'n gwybod ei bod hi’r adeg iawn i fynd â'r busnes o ran-amser i amser llawn?

Ar ôl fy ngwasanaeth angladdol cyntaf i ferch fach a anwyd yn cysgu - dydw i dal ddim yn gwybod sut y llwyddais i ddal y dagrau'n ôl, ond fe wnes i, a chynnal gwasanaeth hyfryd. O fewn ychydig wythnosau roedd nifer o bobl yn y diwydiant wedi cysylltu â mi i ofyn a fyddai modd iddyn nhw archebu fy ngwasanaethau.

O fewn 6-8 wythnos, roedd gen i fwy na 10 angladd, a chyn pen 6 mis roeddwn i'n gweithio bob awr rydd ar y busnes. Ar ddiwrnodau nad oeddwn yn gweithio i BA, roedd gen i angladdau neu wasanaethau wrth i'r busnes barhau i dyfu. O fewn blwyddyn roedd yn rhaid i mi ddewis - a oedd am fod yn fusnes go iawn neu aros yn hobi? Felly, penderfynais leihau fy oriau unwaith eto yn BA, ond daliodd Mountain Celebrations i dyfu. Penderfynais gymryd 6 mis i ffwrdd yn ddi-dâl o BA i weld a allai’r busnes lwyddo yn llawn amser… a wnes i ddim mynd yn ôl.

Rwy'n credu eich bod chi’n gwybod yn eich calon, dydi o ddim yn benderfyniad hawdd o bell ffordd ac mae’n beth brawychus cerdded i ffwrdd o gyflogaeth 25 mlynedd, ond gyda'r rhwydwaith cefnogi a oedd gen i o'm cwmpas, cymerais gam dewr ac mae wedi talu ar ei ganfed.

 

C: Wrth i’r busnes dyfu, fe ddaeth cyfleoedd i ehangu’r hyn roeddech chi’n ei gynnig ac ychwanegu at y tîm. Elli di ddweud ychydig mwy wrthym am y tîm sydd y tu ôl i'r busnes?

Gwelais fod angen mwy o weinyddion wrth i'm busnes dderbyn mwy a mwy o waith. Dechreuais gysylltu â’r rhai yr oeddwn yn tybio y byddai ganddynt ddiddordeb mewn ymuno â’m tîm, ac fe ddechreuais eu hyfforddi. Erbyn hyn mae gen i 7 o weinyddion eraill a 2 aelod o staff gweinyddol sy'n helpu i redeg y busnes.

Gwelais hefyd fod bwlch mewn addysg a chymwysterau yn y diwydiant; felly datblygais Ddiploma mewn Dathliadau Sifil gyda Rhwydwaith y Coleg Agored Cenedlaethol (NOCN) - cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant. Fe ddechreuodd mewn ystafell ddosbarth, ond fe wnaethom sylweddoli’n fuan bod angen i'r rhai sydd am fod yn weinyddion gael profiad ymarferol o sut mae’r diwydiant angladdol yn gweithio yn eu hardaloedd nhw, felly aethom ati i ddatblygu'r cwrs eto a'i gynnig ar-lein.

Hyd yma, mae gennym fwy na 50 o ddysgwyr sy’n astudio ar gyfer Diploma NOCN.

Rydym yn hyfforddi gweinyddion ar gyfer y diwydiant angladdau a phriodasau, ac rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid hyfforddi MVRRS sy'n ein galluogi i ddarparu hyfforddiant sy'n estyn ar draws gwasanaethau i gwsmeriaid a rheoli busnes yn y ddau ddiwydiant.

 

C: A oes gen ti gyngor ar gyfer darpar entrepreneuriaid eraill?

Dechreuodd y cwmni o syniad, breuddwyd i helpu pobl i gydnabod dathliadau bywyd mewn ffordd wirioneddol unigryw a phwrpasol, heb unrhyw gyfyngiadau. Doedd gen i ddim arian, dim profiad na gwybodaeth flaenorol am fyd busnes, dim ond uchelgais i lwyddo.

Byddwn i’n dweud wrth eraill, gofynnwch am gyngor, gwnewch eich ymchwil ac ewch amdani. Mae’n bosib ei wneud, gyda gwaith caled ac aberth, ond mae'n werth pob eiliad. Mae gwylio'ch breuddwyd yn tyfu ac yn ffynnu yn destament i'r math o berson ydych chi.

Doedd gen i ddim llawer o gymwysterau pan adewais yr ysgol, ac roedd fy nghynghorydd gyrfaoedd wedi dweud wrthyf na fyddwn yn cyflawni rhyw lawer â’m lefelau O fel yr oedden nhw’n cael eu galw bryd hynny, ond fe wnes i. Cefais fy swydd berffaith yn BA drwy weithio’n galed a chredu yn fy ngallu, a bellach rwy’n rhedeg dau fusnes, felly mae’n bosib ei wneud - “Os ydw i’n gallu ei wneud, fe allwch chi”.

 

C: Beth nesaf i Mountain Celebrations?

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llawn bwrlwm. Mae gen i dîm anhygoel o'm cwmpas, ac rydw i mor ddiolchgar am gefnogaeth fy nheulu a'm ffrindiau.

Y llynedd, enillais wobr Gwraig Fusnes y Flwyddyn, ynghyd â gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn 2019 ar gyfer y Diwydiant Priodasau gan Lux Wedding Magazine. Rwyf newydd dderbyn gwobr Merched Cymru am fusnes cymeradwy yn y categori busnesau bach.

Yn fwy diweddar, cefais wahoddiad i feirniadu yn y Gwobrau Busnesau Priodas ac fe dderbyniais gynnig cyffrous i sefyll ar adain awyren tra ei bod yn hedfan er mwyn codi arian i Elusen ABF.