Arwain busnes sy’n tyfu ac sydd wedi ennill sawl gwobr yng Nghymru

Yn ddiweddar buom yn siarad â'r tîm sydd y tu ôl i Freight Logistics Solutions ar ôl iddynt ddod i'r brig yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru i gael gwybod mwy am eu busnes, pam eu bod wedi mynd ati i'w sefydlu a beth oedd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cwmni rheoli cadwyn gyflenwi sy'n arbenigo mewn logisteg yw Freight Logistics Solutions. Maent yn cynnig gwasanaeth cludiant ar lefel y DU, Ewrop a Byd-eang, gyda’r nod sylfaenol o wella gwasanaeth cludiant busnesau a lleihau costau ar yr un pryd.

Freight Logistics

Yn y lle cyntaf, llongyfarchiadau ar ennill pedair gwobr yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru yn ddiweddar.  Sut deimlad oedd ennill a chael eich cydnabod fel enillydd cyffredinol y noson?

FLS: Diolch. Digon niwtral oedd ein disgwyliadau gan ein bod wedi ennill dau gategori y llynedd ac, fel pawb arall, roedd y posibilrwydd o ennill dwy flynedd ar ôl ei gilydd yn ymddangos yn uchelgeisiol iawn.  Ond roeddem yn falch iawn o ennill Busnes Gwasanaethau Newydd y Flwyddyn a Busnes Byd-eang Newydd y Flwyddyn eto. Roedd ennill Busnes Newydd y Flwyddyn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn beth annisgwyl iawn gan fod hwn yn gategori eithriadol o gystadleuol oedd yn cynnwys rhai busnesau nodedig iawn ond, wrth gwrs, i goroni'r cwbl, fe lwyddon ni i ennill gwobr Busnes Newydd Cymru - roedden ni ar ben ein digon, roedd yn ganmoliaeth wirioneddol i gael ein cydnabod felly. 

 

Allwch chi ddweud ychydig bach wrthon ni am eich cefndir - pam y gwnaethoch chi benderfynu sefydlu Freight Logistics Solutions a’r tîm sydd y tu ôl i’r cwmni?

FLS: Ar ôl ennill gradd mewn TG, fe wnes i ymuno â'r sector recriwtio ac adeiladu gyrfa lwyddiannus iawn i mi fy hun ym maes recriwtio i ddechrau cyn datblygu i fod yn rheolwr tîm, yna’n gyfarwyddwr rhanbarthol ac yna’n rheolwr gyfarwyddwr.   Yn 2006, fe ddes i’n rhan o fusnes newydd fel rheolwr prosiect gyda chyfrifoldeb dros ddechrau busnes recriwtio newydd.  Datblygodd y rôl i fod yn swydd rheolwr gyfarwyddwr gyda chyfrifoldeb dros hybu twf o fewn y busnes, datblygu strwythurau gweithio a dod o hyd i gyfleoedd newydd. 

Ymhen 10 mlynedd roeddem wedi creu cwmni gwerth £100m ac roedd ei lwyddiant yn ddiamheuol, ond roeddwn i wedi bod yn ysu erioed am ganfod a datblygu fy nghyfle fy hun un diwrnod. 

Yn ystod fy ngyrfa ym maes recriwtio roeddwn i wedi bod yn cyflenwi gwasanaethau i'r sectorau modurol, gweithgynhyrchu, gwastraff a logisteg, a oedd yn cynnwys gweithrediadau dechrau busnes a phrosiectau swmpus, ac fe weles i gyfle yn y sectorau hynny.

Tyfodd y syniad am fusnesau newydd o waith ymchwil roeddwn i wedi’i wneud i'r pethau oedd yn achosi prinder gyrwyr yn y DU gyda’r nod o gefnogi anghenion recriwtio ym myd busnes yn y lle cyntaf. Er bod busnesau yn ei chael yn wirioneddol anodd denu ymgeiswyr ar gyfer swyddi’n ymwneud â gyrru cerbydau cwmni, roedd busnesau perchen-yrrwr a chludo nwyddau yn ffynnu.

Y cam nesaf oedd cyfuno'r wybodaeth hon ag adborth gan ddarpar gleientiaid a buan iawn y gwelais i fod pobl yn teimlo’n fwy a mwy rhwystredig yng nghyswllt y gwasanaethau logisteg allanol a mewnol oedd yn cael eu cyflenwi i gleientiaid.  Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Safon isel ymysg gyrwyr wedi’i gyfuno â'r gost o redeg eu fflyd eu hunain.
  • Yr angen i ddefnyddio nifer o wahanol gwmnïau i fodloni eu gofynion o ran logisteg a rheoli'r rhain.
  • Cyfyngiadau o ran y cerbydau a’r gwasanaethau roedd cludwyr yn eu cynnig.
  • Gwasanaeth is na’r safon o safbwynt gwasanaeth cwsmeriaid a gweinyddu yng nghyswllt diwallu anghenion cleientiaid.
  • Costau cynyddol gwasanaethau.

Daeth yn amlwg fod galw am fusnes cyflenwi unigol oedd yn gallu cynnig bob math o wasanaethau logisteg a gwella safonau gwasanaeth a dileu rhwystredigaethau perthnasol i wasanaeth ar yr un pryd.

Fel cwmni rheoli cadwyn gyflenwi, byddem yn gallu cyflenwi'r holl wasanaethau oedd yn cael eu cynnig gan gwmnïau logisteg, cwmnïau anfon nwyddau, neu ddarparwyr allanol ar hyn o bryd.  Roeddwn yn hyderus y gallwn greu cadwyn gyflenwi helaeth i fodloni'r holl ofynion hyn.   Y nod eithaf oedd datblygu gwasanaeth byd-eang oedd yn gallu cynnig popeth o wasanaethau ad-hoc i wasanaeth allanol cyflawn a fyddai’n bodloni gofynion cludiant cleientiaid.



Yn gongl faen i lansio'r busnes newydd hwn yn 2016 oedd penderfyniad y DU ynglŷn â Brexit a'r prinder cynyddol mewn gyrwyr yn genedlaethol.

Roeddwn yn teimlo y gallai lansio'r busnes bryd hynny ysgogi diddordeb yn syth ymysg cwsmeriaid oedd yn ei chael hi’n anodd ac a oedd yn chwilio am newid oherwydd newidiadau oedd yn yr arfaeth yn y sector logisteg yn sgil Brexit a'r sefyllfa o ran gyrwyr yn y DU,  drwy gael effaith gynaliadwy ar eu defnydd o gludiant.  

Roeddwn wedi dyfalu, pe bai'r DU yn penderfynu gadael yr UE, byddai’r cyfle, y posibilrwydd a’r angen am gwmni cadwyn gyflenwi newydd annibynnol ym maes logisteg oedd yn arbenigo mewn mewnforio ac allforio yn cynyddu ddengwaith. Roedd y cyfle eisoes ar gael i mi yn y farchnad ond pan wnaeth y DU y penderfyniad i adael, yr wythnos ganlynol, mi es ati i gorffori’r cwmni a rhoi rhybudd fy mod yn gadael fy swydd amser llawn.  

 

Buom am 18 mis yn sefydlu'r busnes, gan nodi ein gwerthoedd fel gwella gwasanaethau a darparu hyblygrwydd a gwerth am arian ar draws y sector logisteg ar yr un pryd.

Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn ar fy mhen fy hun.  Felly, er mwyn helpu i sefydlu'r busnes a darparu cynllun busnes, fe wnes i gyflogi 2 gyfarwyddwr – Gavin Clarke, arbenigwr logisteg yng nghyswllt y farchnad yn y DU a'r farchnad Ewropeaidd, a Dafydd Rosser, arbenigwr gyda phrofiad o baratoi adnoddau a rheoli prosiectau ar raddfa fawr.    Fel cyfarwyddwyr, mae gan y tri ohonom ein set sgiliau a’n cylch gorchwyl penodol ein hunain o fewn cynllun busnes FLS, a gyda’n gilydd rydym yn parhau i sbarduno a sicrhau twf ariannol a gwelliannau i'n gwasanaeth er budd ein cleientiaid. 

 

Mae twf sylweddol wedi bod yn ddiweddar yn Freight Logistics Solutions - mae staff y cwmni wedi cynyddu o 3 chyfarwyddwr i 22 aelod o staff. Rydych wedi datblygu cadwyn gyflenwi sy'n cynnwys dros 40,000 o gerbydau, mae gennych dros 200 o gleientiaid ac ar hyn o bryd rydych chi’n mewnforio ac yn allforio i 24 o wledydd – oes gennych chi unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r busnes ymhellach eto yn y dyfodol?

FLS:

  • Mae ein staff wedi cynyddu o 3 i 22 erbyn hyn ac rydym yn bwriadu penodi 4 pennaeth ychwanegol dros y chwe mis nesaf.
  • Rydym yn gweithio’n galed i gynyddu nifer ein cleientiaid i dros 250.
  • Byddwn yn symud i adeilad addas i'r pwrpas ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi’r lle a'r cyfle i ni gyflawni ein cynlluniau ar gyfer twf ac i ddarparu ar gyfer adrannau newydd y busnes.
  • Mae FLS wedi gwella ei ‘lwybrau rheolaidd’ yn ddramatig dros y flwyddyn a aeth heibio a byddwn yn parhau i wella'r rhain wrth i’n proffil cwsmeriaid dyfu.
  • Rydym wedi bod wrthi’n brysur yn datblygu ein cadwyn gyflenwi i gefnogi lansio ein hadrannau cludiant awyr a môrgludiant ehangach ym mis Ionawr 2019.
  • Mae gennym gynlluniau i agor ail ganolfan logisteg yng Nghanolbarth Lloegr (Birmingham).
  • Mae gennym gynlluniau helaeth i ehangu ein rhestr o gyflenwyr a ffafrir ar draws ein holl ranbarthau byd-eang.
  • Rydym wedi cynnal cyfarfodydd cychwynnol yn Awstria a Gwlad Pwyl, gyda golwg ar sicrhau canolfannau yn Ewrop erbyn diwedd 2019. 
  • Rydym wedi dechrau datblygu ein systemau mewnol ar gyfer llunio amserlenni cludiant er mwyn cynnig porthol olrhain llwybrau gwell a system fonitro gwasanaeth.   Bydd hyn yn cynnig gwell eglurder i’n cleientiaid o ran contractau oherwydd byddant yn ei chael yn haws olrhain lle mae eu llwyth ar ei daith ar draws y byd. 
  • Rhyddhau ein porthol cleientiaid rydym wedi’i ddatblygu’n fewnol. Bydd hwn wedi'i integreiddio â'r system olrhain, ond bydd hefyd yn gallu rhoi'r wybodaeth reoli ddiweddaraf am elfennau ariannol allweddol, data cludiant, dogfennau cysylltiedig â thollau a POD.  
  • Rydym wedi dechrau'r gwaith o gynllunio ein Ap danfoniadau gyrwyr ein hunain.

 

Ac eithrio'r ffaith bod y tri chyfarwyddwr yn Gymry, pam rydych chi wedi dewis lleoli eich cwmni yng Nghwmbrân, Cymru?

FLS: Cyn dechrau'r busnes, roeddem mewn swyddi cyswllt â chleientiaid ledled y tirlun gweithgynhyrchu yn Ne Cymru. Mae’r gwaith o sefydlu perthynas newydd â darpar gwsmeriaid yn gallu cael ei wneud yn fwy effeithiol os ydych chi’n lleol, ar dir cyffredin ac os oes gennych chi adnabyddiaeth drylwyr o'r rhwydweithiau cadwyni cyflenwi rhanbarthol.  Roedden ni am fod yn ganolog i ardal fasnachol roeddem yn ei hadnabod yn dda.

Mae Torfaen yn ardal fywiog iawn i ni ac mae’n golygu ein bod mewn sefyllfa dda i roi cefnogaeth a chymorth corfforol i’n cleientiaid pan fo angen.   Ar ben hynny, fel bechgyn o Dorfaen (wel, Dafydd a minnau o leiaf - wedi symud i'r ardal mae Gavin), rydym am fod yn agos i’n cartref a gwneud ein gorau i gyflogi talent leol a rhoi rhywbeth yn ôl i'r cymunedau sydd mor agos at ein calonnau. 

 

Allwch chi rannu un neu ddwy o wersi gwerthfawr rydych chi wedi’u dysgu am fusnes ar eich taith fel entrepreneuriaid?

FLS: Mae angen cysylltiadau gwych ar fusnesau llwyddiannus. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu i amgylchynu eich hun â phobl gwirioneddol dda.  Rydych chi’n treulio llawer iawn o amser ar eich taith tuag at sefydlu busnes newydd, felly gwnewch yn siŵr bod eich cyd-deithwyr yn meddwl yr un fath â chi ac yn gwmni da.

Mae’n rhaid wrth ymddiriedaeth a pharch os ydych am gael y gorau allan o bobl - er mai chi sy'n berchen ar y busnes, mae’n rhaid i chi eu hennill a’u haeddu.  Felly byddwch yn onest a gwnewch yn siŵr bod y bobl hynny yn gwybod eich bod yn eu gwerthfawrogi.

 

Beth yw'r cyngor busnes gorau rydych chi wedi'i gael rydych chi’n meddwl y byddai’n fuddiol i entrepreneuriaid eraill?

FLS: Gwnewch eich gwaith ymchwil i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r farchnad a’r sector, eich bod yn gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael a beth yw’r gystadleuaeth.  Wedyn, cynlluniwch.   Buom am 18 mis yn cynllunio'r busnes hwn, gan lunio cynllun busnes 5 mlynedd clir oedd yn cynnwys nodau a gweledigaeth glir yn nodi sut roeddem am gyflawni'r cynllun hwnnw - gwnewch eich gwaith ymchwil, cynhaliwch y cyfarfodydd a pheidiwch â dechrau tan eich bod yn gwbl barod. 

 

Pam rydych chi’n credu ei bod mor bwysig i greu ecosystem entrepreneuraidd fwy gweledol a syml sydd wedi'i chysylltu yng Nghymru? /Pam rydych chi’n meddwl fod CreuSbarc mor bwysig i Gymru?

FLS:

Dydy hi ddim yn bosibl buddsoddi gormod yn y gwaith o ddatblygu economi Cymru. Yn fy marn i, mae’r cysylltiadau busnes sydd gennym yn hanfodol i dwf busnes. Dim ond yn ddiweddar iawn rydw i wedi cael fy nghyflwyno i CreuSbarc, ac rydw i'n sicr yn gallu gweld sut y gallai'r busnes hwn a busnesau eraill elwa o'r mudiad, rydw i'n teimlo’n gyffrous iawn i weld beth fydd yn digwydd nesaf...  

 

Beth nesaf i Freight Logistics Solutions?

FLS:

Mewn gair, parhau i dyfu a datblygu ein gwasanaethau, gan gadw at ein gwerthoedd bob amser. Mae cyfnod cyffrous iawn o’n blaenau ni dros yr ychydig fisoedd nesaf, sef:

Lansio ein hadrannau cludiant awyr a môrgludiant ym mis Ionawr

2 aelod newydd o staff yn aros i ddechrau gyda’r tîm

Symud i’n prif swyddfa newydd

Ar ben ennill pedair gwobr yng ngwobrau busnesau newydd Cymru, rydym hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Cyflogwr y Flwyddyn Gwobrau Prentisiaethau Cymru, fel cydnabyddiaeth o’n rhaglen prentisiaeth.  Mae ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Ieuan Rosser, ar y rhestr fer ar gyfer entrepreneur busnes newydd y flwyddyn yng ngwobrau Great British Entrepreneur 2018.  Bydd y ddau ddigwyddiad yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd.