Arloesi digidol yn ysgwyd y diwydiant adeiladu

Dau beiriannydd sifil angerddol ac uchelgeisiol o Sir Benfro ac Ynys Môn yw George Smithies ac Aaron Vousden, sydd  bellach yn entrepreneuriaid. Graddiodd y ddau o Brifysgol Caerdydd ac maen nhw’n rhannu’r un angerdd i chwyldroi'r diwydiant adeiladu drwy eu platfform digidol innDex, gan helpu i ddod ag awtomeiddio a thryloywder i rheng flaen y diwydiant adeiladu.

George and Aaron - innDex Founders

Ar ôl i'r ddau weithio yn y diwydiant adeiladu yn ystod y 7 mlynedd diwethaf, daethant yn fwyfwy rhwystredig oherwydd y prosesau hir a diflas a oedd yn orfodol i’w cwblhau fel rhan o brosiect o'r dechrau i'r diwedd. Roedden nhw’n treulio oriau o'u diwrnod yn cyflawni tasgau ar bapur, â llaw, yn ailadroddus ac nad oeddent yn darparu unrhyw bwrpas pellach na chydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch.

Gwelodd George ac Aaron eu cyfle, ac ym mis Ionawr 2019 fe lansiwyd cam 1 o’u platfform digidol integredig, innDex. Eu nod oedd newid y ffordd y mae'r diwydiant adeiladu yn gweithredu drwy chwyldroi'r ffordd y mae data'n cael ei gadw a’i ddefnyddio i wella cynhyrchiant, cyfathrebu ac effeithlonrwydd. Bydd canlyniadau gweithredu'r feddalwedd yn effeithiol yn dod â gwelliannau enfawr i'r diwydiant, gan yrru cynaliadwyedd, lleihau effaith gymdeithasol negyddol prosiectau a dod â gwelliannau mawr i iechyd a diogelwch ar safleoedd.

Mae'r platfform innDex yn ei gwneud hi'n hawdd i bob gweithiwr greu proffil sy'n cadw eu manylion personol, eu dogfennau a'u cymwysterau (wedi'i ddilysu'n awtomatig gan gwmnïau hyfforddi allanol). Yna gall y defnyddiwr rannu'r proffil hwn gyda rheolwyr pob prosiect i'w adolygu cyn cyrraedd y safle. Ar gyfartaledd, mae trawsnewid y broses hon yn blatfform digidol yn arbed 4 awr o waith i'r tîm rheoli fesul pob defnyddiwr newydd. Yn ogystal, mae'r platfform yn annog cyfathrebu ar draws y safle gyda nifer o nodweddion mewnol. Mae'r nodweddion hyn yn caniatáu i weithwyr leisio barn, awgrymiadau neu newidiadau y maen nhw'n credu sy'n ofynnol i gefnogi datblygiad y prosiect maen nhw'n gweithio arno.

Mae diffyg tryloywder a chyfathrebu yn cael ei ystyried yn her gyffredin ar draws sawl maes ar safle adeiladu, gyda staff ar y safle yn teimlo eu bod weithiau'n gweithio ar eu pennau eu hunain yn lle rhan o dîm mwy. Nod innDex yw darparu data a gwybodaeth gwbl gyfoes y gellir eu gweld ar unrhyw ddyfais symudol sy'n caniatáu gwelededd go iawn ar draws tîm y prosiect cyfan.

Mae'r ddau sylfaenydd yn rhannu gweledigaeth eang ar gyfer innDex ac yn datblygu'r platfform yn gyson gyda mwy a mwy o offer defnyddiol y gall pawb yn y diwydiant eu defnyddio. Ar hyn o bryd maen nhw’n adeiladu dangosfyrddau rhyngweithiol sy'n galluogi pob contractwr i reoli ei weithlu yn haws. O'r dangosfwrdd hwn gall y busnes fonitro symudiadau staff ar bob safle, mapio eu sgiliau, cymhwysedd, profiad a bylchau posibl o fewn eu tîm o safbwynt y DU gyfan.

O'r wybodaeth a ddarperir, gellir defnyddio'r platfform i arwain y rheini sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y  llywodraeth a'r diwydiant i gynllunio prosiectau adeiladu yn fwy effeithlon o ran argaeledd gweithlu lleol medrus, gan wella cynaliadwyedd ar ffurf effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Er mwyn sicrhau bod y tîm yn aros yn arloesol ac wrth wraidd tirwedd gyffrous a newidiol y diwydiant, maen nhw’n  gweithio ochr yn ochr â nifer o gontractwyr ac arbenigwyr adeiladu sy'n rhoi adborth yn barhaus i helpu i ddatblygu a siapio cynllun y platfform.

Gyda'r awydd i gadw gwreiddiau eu busnes yn gadarn yng Nghymru, mae George ac Aaron yn bwriadu ehangu eu tîm presennol i 20+ dros y flwyddyn nesaf rhwng eu prif swyddfa a'u hail swyddfa yn Llundain. Mae'r nifer yma yn cynnwys staff llawn amser a rhan-amser, gyda'r nod o gefnogi pobl ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd/bywydau, gan greu amgylchedd gwaith cynhwysol.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am y cwmni.