Chris Hancock – Creo Medical

Yr academydd a aeth yn ddyfeisiwr ac yna’n entrepreneur sy’n gyfrifol am y syniadau y tu ôl i gwmni £60M.

Roedd Chris Hancock yn cerdded ym mynyddoedd Himalaia bymtheg mlynedd yn ôl pan ddatblygodd ddiddordeb angerddol yn y syniad o ddefnyddio egni microdonnau amledd uchel i drin ystod o friwiau canseraidd yn y corff dynol, a dyna greu sylfeini Creo Medical. Mae Creo Medical yng Nghas-gwent yn arbenigo mewn egni uwch ar gyfer triniaethau anymwthiol neu led-anymwthiol – gan gynnwys canser y colon, yr ysgyfaint a’r pancreas. Cyhoeddwyd cyfrannau’r cwmni ar farchnad twf AIM Cyfnewidfa Stoc Llundain yn ddiweddar am £60M. Ond mewn gwirionedd fe ddechreuodd llwybr Chris tuag at lwyddiant yn gynt o lawer na hynny.

 

Ac yntau’n fachgen ifanc, roedd gan Chris ddiddordeb brwd mewn cylchedau electronig a chael gwybod sut roedd pethau’n gweithio. Byddai’n treulio oriau’n creu cylchedau electronig yn ei garej – yn trin syniadau newydd o hyd ac yn ei wthio’i hun i ddod i ddeall mwy. Doedd neb yn synnu felly pan adawodd yr ysgol i gychwyn prentisiaeth peirianneg.

 

Yn ystod ei brentisiaeth, cafodd Chris brofiad o beirianneg microdonnau, ac yna aeth ymlaen i Goleg Technegol Caerfaddon lle roedd yn dal i fagu profiad ymarferol. Wedyn, enillodd Chris nawdd gan Thorn EMI i fynd i Brifysgol Bangor a dyna ddechrau ei siwrnai hir i’r byd academaidd lle’r enillodd radd Meistr mewn Peirianneg Cyfathrebu a PhD mewn Dylunio Offer Electronig. Oddi yno, aeth i Gyrus Medical, cwmni arloesol a oedd yn datblygu dyfeisiau electrolawfeddygol yn seiliedig ar egni radio-amledd deubegwn i reoli meinweoedd. Roedd y pwyslais ar y pryd yn bennaf ar lawdriniaethau laparosgopig (llawdriniaethau lled-anymwthiol gan ddefnyddio endoriadau bach, yn yr abdomen fel arfer). Yno, daeth o hyd i amgylchedd a fyddai’n helpu i lywio ei lwyddiannau yn y dyfodol.

 

Meddai Chris, “Ar y pryd, roedd Gyrus yn lle hynod greadigol ac arloesol i weithio ynddo a dyna lle dysgais i am werth creu eiddo deallusol a chyflwyno ceisiadau am batentau i warchod syniadau sy’n fasnachol werthfawr, yn hytrach na chyflwyno canlyniadau mewn cynadleddau academaidd a chyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd. Roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn wedi dod ar ei draws yn y brifysgol, ac yn rhywbeth na allai dim byd ond profiad yn y byd go iawn ei ddysgu i mi.”

 

Wedi’i ysbrydoli yn Gyrus, penderfynodd Chris gymryd seibiant gyrfa a mynd i deithio am 9 mis er mwyn gweithio ar ei syniadau ei hun – a dyna fynd â ni’n ôl i fynyddoedd Himalaia. “Fe wnaeth mynd i deithio agor fy meddwl a gwneud i mi feddwl yn fwy rhydd a pheidio â bod yn gaeth i’r drefn,” meddai Chris. “Fe ddechreuais feddwl yn fwy agored am arloesi a sut y gallwn fynd ati o ddifrif i helpu pobl i ymladd canser, a dyna lle y dechreuodd y syniadau sydd bellach wrth wraidd Creo Medical.”

 

Ond rhag ofn bod hynny’n rhoi’r argraff ei bod yn hawdd cychwyn busnes llwyddiannus, doedd pethau ddim yn fêl i gyd i Chris. Pan ddaeth Chris yn ôl i’r DU roedd nid yn unig yn llawn syniadau newydd, ond roedd hefyd wedi cyflwyno nifer o geisiadau am batentau tra oedd i ffwrdd. Er hynny, roedd yn dipyn o her rhoi popeth ar waith – a thra oedd yn dal i ddatblygu ei syniadau fe gymerodd sawl swydd dros dro, gan gynnwys gweithio shifftiau nos mewn ffatri bwydydd wedi’u rhewi, argraffu Santas enfawr ar gyfer ymgyrch hysbysebu i Coca Cola, rhoi bocsys cardfwrdd at ei gilydd i gwmni pecynnu lleol, a’r cwbl er mwyn casglu digon o arian i ddal ati.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd anogaeth a chefnogaeth gan nifer o gyfeillion agos – rhoddodd un ei ystafell sbâr iddo’n ddi-dâl am dros flwyddyn tra oedd yn datblygu ei syniadau cychwynnol a gadawodd un arall iddo ddefnyddio garej roedd yn ei rentu er mwyn i Chris allu creu’r prototeipiau cyntaf. Cafodd anogaeth hefyd gan gyfeillion yr oedd perthnasau agos iddynt wedi dioddef o’r mathau o ganser roedd Chris yn awyddus i’w trin.

 

Yna, daeth hen ffrind prifysgol at Chris i gynnig anogaeth iddo yn ogystal â chymorth ariannol. Rhyngddynt, daethant o hyd i griw o angylion buddsoddi a llwyddo i godi £400k, a oedd yn allweddol er mwyn bwrw ymlaen â phatent diweddaraf Chris a chreu syniadau newydd. Dyna gychwyn Creo Medical, ac mae’n mynd o nerth i nerth byth ers hynny.

 

Dywed Chris ei fod wedi dysgu llawer wrth newid o fod yn ddyfeisiwr i fod yn entrepreneur. “Er mwyn bod yn entrepreneur llwyddiannus, mae’n rhaid cadw meddwl agored a dal i gredu bod yr amhosib yn bosib, a magu’r agwedd iawn yn ogystal â phenderfyniad,” meddai. “Ac mae’n hollbwysig hefyd cydnabod bod angen cael y bobl iawn atoch er mwyn gwneud i’r holl beth weithio.”

 

Nawr, yn rhan o CreuSbarc, mae Chris yn llawn cyffro ynghylch gallu’r rhaglen nid yn unig i ysbrydoli eraill, ond hefyd i newid meddylfryd y genedl. “Mae CreuSbarc yn ymwneud â meithrin diwylliant arloesi mor gynnar â phosib,” meddai Chris. “Yn y pen draw, rydym am newid pethau fel bod mentergarwch yn rhywbeth sy’n cael ei annog a’i ddathlu.”