Kellie Beirne – Cyngor Sir Fynwy

Arweinydd meddwl yn ysgogi meddylfryd Silicon Valley mewn llywodraeth leol yng Nghymru

Ar gyfer entrepreneuriaid, mae’r mantra “methiant cyflym” wedi datblygu i fod yn holl bresennol ac wedi creu sawl stori lwyddiannus. Y syniad ydi bod rhaid i chi brofi’n aml, methu’n gyflym a dysgu’n gyflymach fyth - a bydd hyn o help i chi droi eich cefn ar bethau nad ydynt yn gweithio er mwyn canolbwyntio ar bethau sy’n gweithio. Wedi’i sefydlu yng nghwmnïau technolegol newydd Silicon Valley, mae’n ddull o weithio na fyddai llawer o ddadansoddwyr yn ei gysylltu â llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae un fenyw’n dangos ei fod yn ddull o weithredu y gall y sector cyhoeddus fanteisio arno hefyd. A Kellie Beirne yw'r fenyw honno.

 

Fel Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Swyddog Menter gyda Chyngor Sir Fynwy, mae Kellie wedi gwneud enw da iawn iddi’i hun am ddod ag arloesi - a ffyrdd arloesol o weithio - yn rhan o'r gofod cyhoeddus. Fel yr esbonia Kellie, “Rydw i’n gweld fy ngwaith i fel datblygu ffyrdd newydd o weithio a sicrhau bod llywodraeth yn gallu manteisio ar bob cyfle. Yn hytrach na gwneud yr un pethau’n well, rydw i eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud pethau gwell yn sylfaenol.”

 

Fel gwas cyhoeddus, mae Kellie’n gwybod bod gwneud pethau gwell yn golygu rhoi’r hyn maen nhw ei eisiau i’w dinasyddion. Ac yn yr oes fodern mae hynny’n golygu pedair awr ar hugain saith niwrnod yr wythnos, cyswllt digidol cyson a’r un mathau o dechnolegau ag y mae'r sector preifat yn eu cynnig.  I helpu gyda throi ei gweledigaeth yn realiti, mae Kellie wedi mynd ati i ddatblygu diwylliant sy’n annog risg a does ganddi ddim ofn methu.

 

Dywedodd Kellie, “Yn fy sefydliad i, mae gennym ni feddylfryd methiant cyflym. Os ydych chi’n mynd i redeg gyda rhywbeth newydd, mynd ati i’w brototeipio, ac os nad yw’n gweithio, dod allan yn gyflym a’i newid. Mae hynny’n gymaint gwell na gwneud dim byd oherwydd mae gwneud dim byd yn arwain at barlysu.  Yn aml, mae pobl yn meddwl y byddan nhw’n wynebu sancsiynau o ryw fath os bydd pethau’n mynd o chwith. Ond yng Nghyngor Sir Fynwy rydyn ni’n croesawu gwerth methiant oherwydd mae’n gyfle i ni ddysgu.”

 

Ar wahân i alluogi i arloesi ffynnu, mae'r diwylliant bywiog o ddysgu a datblygu wedi’i anelu tuag at y dyfodol hefyd. Yn benodol, creu gwasanaeth cyhoeddus sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif - un sy’n annog cydweithredu ac sy’n gosod gwir bwrpas gwasanaethau cyhoeddus wrth galon popeth mae Kellie a’i sefydliad yn ei wneud.