Steve Holt – Angels Invest Wales ym Manc Datblygu Cymru

Cyfarfyddwch â’r uwch was sifil sy’n gyrru newid drwy’r rhwywaith Angel yng Nghymru.

Mae Steve Holt wedi bod yn hyrwyddo Cymru ers amser hir. 23 o flynyddoedd i fod yn fanwl gywir. Dyna hyd y cyfnod ers iddo symud o’r preifat sector, lle yr oedd wedi datblygu gyrfa lwyddiannus mewn rheolaeth gweithgynhyrchu, i swydd gydag Awdurdod Datblygu Cymru gynt.

Neidiwch ymlaen i’r dydd presennol, ac erbyn hyn mae Steve yn Gyfarwyddwr ar Angels Invest Wales, a’u cenhadaeth o helpu rhwydwaith bywiog Cymru o entrepreneuriaid, busnesau newydd a Busnesau Bach a Chanolig gyrraedd y lefel nesaf o lwyddiant trwy gyflwyniadau strategol i rwydwaith buddsoddi Angel yng Nghymru.

Roedd rôl gyntaf Steve yn Awdurdod Datblygu Cymru ryw ugain mlynedd yn ôl ym maes rheoli’r gadwyn gyflenwi, ond symudodd yn fuan i rôl ryngwladol trwy arwain y Tîm Mewnfuddsoddi Ewrop. Ar ôl helpu i sefydlu swyddfeydd rhyngwladol i Gymru yn Amsterdam a Munich, treuliodd 10 mlynedd yn rheoli tîm bach ymrwymedig ar draws Ewrop yn chwilio am gyfleoedd buddsoddi uniongyrchol dramor i Gymru ar draws diwydiannau allweddol.

Yn 2009, dychwelodd Steve i’r Deyrnas Unedig i gymryd cyfrifoldeb dros Raglen Arloesedd Busnes a ariennir gan Ewrop, Llywodraeth Cymru, sef menter sy’n rhedeg o hyd gan ysbrydoli arloesi, gwella prosesau ac Ymchwil a Datblygu ym musnesau bach a chanolig Cymru.

Gan adrodd gweddill y stori ei hun, “Ar ôl ychydig o fisoedd yn cyflenwi’r Rhaglen Arloesedd Busnes, gofynnwyd i mi sefydlu swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Llundain a oedd yn flaenoriaeth strategol i’r Prif Weinidog. Enillais ddyrchafiad i’r uwch wasanaeth sifil a helpais i sefydlu’r swyddfa newydd yn San Steffan. Yna treuliais bedair blynedd yn Llundain yn creu’r tîm yn y swyddfa honno. Gyda datganoli Cymru a Brexit ar eu hanterth, ein nod oedd adnabod cyfleoedd am fewnfuddsoddi a masnach, a hefyd darparu amgylchedd effeithiol er mwyn i Lywodraeth Cymru drafod a gwneud busnes yn San Steffan a’r Neuadd Wen ar draws meysydd polisi hanfodol i Gymru. Roedd yn rhyw fath o Lysgenhadaeth Cymru yn Llundain os mynnwch chi.”

Ar ddiwedd yr aseiniad bedair blynedd, cymerodd Steve her newydd ymlaen a chafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr y Rhaglen yn xénos, rhwydwaith angel fusnes Cymru, gan dderbyn brîff i ailstrwythuro ac ail-frandio’r sefydliad a ddaeth yn Angels Invest Wales yn y pendraw, sy’n rhan annatod o’r sefydliad newydd sef Banc Datblygu Cymru.

Mae hynny’n ein harwain i’r dydd presennol. Meddai Steve, “Mae fy sefyllfa bresennol yn Angels Invest Wales yn fy helpu i ddefnyddio fy mhrofiad o reoli a chyflenwi cymorth i fusnesau i fusnesau Cymru. Wrth gefnogi cleientiaid a buddsoddwyr yn y banc datblygu, rydym yn helpu i greu a datblygu cyfleoedd busnes go iawn yng Nghymru a fydd yn y pendraw yn creu swyddi newydd.”

“Mae’r pedair blynedd a dreuliais yn Llundain yn ddiweddar yn ganolog i’m gwaith presennol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cwrddais â llawer o unigolion uchel eu proffil, gwerth-net-uchel a darpar fuddsoddwyr – angylion busnes – a all o bosib wneud cyfraniad sylweddol i ddatblygu busnesau yng Nghymru yn y dyfodol.”

O ran menter Creu’r Sbarc, mae Steve wedi’i gyffroi gan ei photensial i galfaneiddio’r genedl a chynyddu synergedd busnesau i’r eithaf. Meddai, “Diben menter Creu’r Sbarc yw ceisio cael pawb i dynnu ynghyd a chynyddu swm ein rhannau i’r eithaf. Gwlad fach ydym ni ac mae’n wych bod gennym raglen mor bwysig i ysbrydoli pawb i gydweithredu a chydweithio – yn y pendraw mae pawb yn canu’r un dôn.”

“Credaf hefyd fod angen i Gymru aros yn gystadleuol yn y farchnad fasnachol fodern. Mae hyn yn hanfodol bwysig. Trwy fentrau megis Creu’r Sbarc a’r unigolion ymroddedig sy’n rhan ohonynt, mae gennym gyfle i gyflawni llwyddiant economaidd go iawn.”