Astudiaeth Achos - Cyfalaf Risg - Peter Saunders

Dewrder a pharodrwydd i fentro ym myd busnes – dyna ddau beth sydd gan bob entrepreneur llwyddiannus yn gyffredin.

Yn wir, mae rhai o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus Cymru yn cydnabod bod buddsoddi arian newydd mewn busnesau newydd yn gallu talu ar ei ganfed.

Mae Peter Saunders yn un ohonyn nhw. Ei fenter fawr gyntaf ym myd busnes oedd ymddiswyddo o yrfa ddisglair ym maes peirianneg gemegol yn BP i weithio i fferm fêl fach yn y Gorllewin. O fewn pum mis, roedd y cyw entrepreneur wedi cytuno i brynu’r busnes, ac wedi mynd ati i droi fferm fêl Holgate yn fenter genedlaethol.

Trodd fy mywyd yn ysgol fusnes i mi,” meddai Peter. “Dysgais bethau’n reddfol, a gwneud y pethau a oedd yn ymddangos yn iawn imi. Roeddwn i’n aml yn cymryd cam gwag, ond erbyn yr ail neu’r trydydd tro, roeddwn i wedi dysgu. Roedd yn brofiad bywyd go iawn.

O fewn dim, roedd Peter wedi gweld cyfle i arloesi yn y sector bwyd iach oedd yn tyfu. Datblygodd y busnes a sefydlwyd Halo Foods a dechreuodd Peter gynhyrchu bariau byrbrydau iach, wedi’u melysu gan ddefnyddio mêl yn hytrach na siwgr wedi’i buro.

Roedd yn syniad a allai wneud elw – syniad a ddenodd sylw’r cewri melysion Rowntree, ac o fewn dim roedden nhw wedi cysylltu gyda Peter i gynnig prynu ei fusnes.

Roedden nhw’n cydnabod fy natur entrepreneuraidd a diwylliant y busnes, ac am i hynny barhau,” eglurodd Peter. “Yr unig wahaniaeth imi oedd bod gen i’r holl adnoddau oedd eu hangen arna i, a mod i’n gallu manteisio ar lawer mwy o arbenigedd. Roedden ni gyda Rowntree am chwe blynedd, ac aeth y busnes o nerth i nerth.

Doedd pethau ddim cystal ar ôl i Rowntree ddod yn eiddo i Nestlé ym 1988. Cafwyd bygythiad i gau ei ffatri a dyna pryd y camodd Peter i’r adwy a phrynu’r busnes yn ôl, gan fentro ei arian ei hun i’w achub. Drwy adleoli ac aildanio’r busnes, daeth tro ar fyd a chafodd y cwmni 12 mlynedd lwyddiannus arall fel cwmni annibynnol.

Gwerthodd Peter Halo Foods yn 2004, gan droi ei olygon at helpu ei gyd-entrepreneuriaid i greu busnesau llwyddiannus. Mae’n angerddol iawn am fuddsoddi mewn busnesau o Gymru, a chafodd ei enwi’n Angel Busnes y Flwyddyn 2012 am ei barodrwydd i fentro ei gyfalaf ei hun ar syniadau entrepreneuriaid eraill yng Nghymru.

Yn ogystal â gwneud arian, gall bod yn fuddsoddwr o fri sbarduno newid cymdeithasol. Un o fentrau diweddaraf Peter fel cadeirydd a phrif fuddsoddwr Cwmni Sure Chill yw defnyddio technoleg arloesol i helpu i achub bywydau plant yn rhai o wledydd tlotaf y byd.

Mae’n rhaid i ni greu diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru, er mwyn dangos i bobl yma nad yw elw a llwyddiant yn bethau budr – maen nhw’n bethau da i bawb ac yn dda i Gymru,” pwysleisia Peter.

Mae bod yn entrepreneur yn dod o’r galon. Mae’n ymwneud â ffydd ac argyhoeddiad, a bod yn barod i fentro. Bydd rhai pethau’n methu - mae’n amhosib llwyddo gyda phopeth - ond mae hynny’n elfen iach o ecosystem fywiog.

Os ydych chi’n credu yn eich syniad busnes, wedi ei bwyso a’i fesur yn ofalus ac yn gyfforddus gyda’r risg, ewch amdani!