Ynni'r Môr

Yng Nghymru rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o sbarduno arloesedd.

Mae cyfleoedd newydd, mentrau newydd a phartneriaethau newydd yn rhan o uchelgais Cymru i dyfu a rhagori ym myd busnes.

Drwy helpu i sefydlu a datblygu diwydiannau newydd, gallwn greu catalydd ar gyfer economi Cymru a fydd yn hybu busnes, creu swyddi newydd a chyflymu twf economaidd. Ar yr un pryd, byddwn yn meithrin doniau newydd, datblygu sgiliau newydd a chynnig cyfleoedd newydd i genedlaethau heddiw a’r dyfodol.

Un o’n huchelgeisiau allweddol yng Nghymru yw paratoi’r llwybr ar gyfer diwydiant ynni’r môr llewyrchus. Mae creu ynni’n ganolog i hanes Cymru, yn deillio o’n cyfraniad at y diwydiant glo. Nawr, wrth i’r byd chwilio am ffynonellau ynni amgen ac adnewyddadwy, mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i’r her hon. Gydag arfordir enwog yn ein hamgylchynu, mae ein hasedau morol naturiol yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw i ymateb i’r galw am ynni’r môr sy’n canolbwyntio ar harneisio pŵer o’r môr; drwy donnau, ffrydiau llanw neu amrediadau llanw. Ac mae’r cyfle yn gyfle heb ei ail.

Mae sectorau ynni ac amgylchedd Cymru yn cyflogi bron i 60,000 o bobl , gan gynhyrchu mwy na £4.8 biliwn. Rydym eisoes wedi gweld arloesi cyflym yng Nghymru gyda nifer cynyddol o fentrau ynni’r môr a phrosiectau carbon isel.

Gan edrych ymlaen, mae diwydiant ynni'r môr yn bwriadu defnyddio 100GW o gapasiti ynni ledled Ewrop erbyn 2050 - cyfwerth â mwy na holl gapasiti cynhyrchu trydan y DU - a rhagwelir y bydd hyn yn creu 400,000 o swyddi newydd. Gyda’r nod o ddenu datblygiadau yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru wedi creu cysylltiadau ffurfiol ag Ocean Energy Europe (OEE) sy’n agor drysau i ymgysylltu a chydweithio yn y dyfodol rhwng y diwydiant a Chymru.

Ledled y sector cyhoeddus, y byd busnes a’r byd academaidd, mae angen i ni baratoi a bod yn barod ar gyfer y cyfleoedd y gall twf ynni’r môr eu creu yng Nghymru. Bydd yn creu llwyfan newydd ar gyfer entrepreneuriaid y dyfodol o ran datblygu technolegau newydd ond hefyd drwy gefnogi busnesau a chadwyni cyflenwi. Bydd ein prifysgolion mewn sefyllfa dda i feithrin a hyfforddi doniau’r dyfodol a sbarduno arloesi pellach drwy ymchwil a datblygu yn y diwydiant. Byddwn yn denu buddsoddiad mewnol hefyd gan y bydd llygaid y byd ar Gymru fel arweinydd ym maes arloesi a busnesau ynni’r môr.

Dim ond trwy fanteisio ar gyfleoedd newydd y byddwn yn gwireddu potensial Cymru; gan fod yn fwrlwm o arloesedd, ac elwa ar ei ddatblygiad a helpu i sbarduno ei lwyddiant. Mae Cymru yn barod am chwyldro ynni’r môr. Ydych chi?