Wolfestone a Bumbles of Honeywood i helpu addysgu sgiliau menter mewn ysgolion

Bydd Grŵp Wolfestone yn cydweithio â rhaglen addysgol leol newydd sy'n addysgu sgiliau entrepreneuraidd i blant ysgol gynradd. Bydd y rhaglen, o'r enw The Bumbles of Honeywood, yn rhedeg yn ystod tymor yr haf/hydref mewn dwy ysgol leol.

Wolfstone and Honeybees

Bydd staff Wolfestone a VoiceBox ac aelodau o dîm 2B Enterprising [2B Mentrus] yn ymweld ag ysgolion cynradd Gellifedw a Brynhyfryd lle byddant yn helpu i addysgu plant am arweinyddiaeth, menter, creadigrwydd a gwaith tîm - sgiliau y gallant eu defnyddio yn y gweithle rhyw ddydd.

Fe gafodd y rhaglen Bumbles of Honeywood ei chreu a'i hysgrifennu gan yr Addysgwraig Fenter arobryn Sue Poole, Prif Swyddog Gweithredol a chyfarwyddwraig 2B Enterprising o Abertawe, cwmni sy'n anelu at hybu sgiliau entrepreneuraidd dysgwyr o bob oed.

Mae'r gyfres o chwe llyfr a deunydd cysylltiedig wedi'i thargedu at blant y Cyfnod Sylfaen sy'n bump a chwech oed. Y nod yw helpu plant i ddeall ac ennill sgiliau entrepreneuraidd pwysig sydd eu hangen nid yn unig yn eu bywyd gwaith ond hefyd eu bywyd bob dydd hefyd.

Arweinwyr y Dyfodol

“Rydym wrth ein bodd bod Wolfestone a VoiceBox, dau gwmni arobryn ac uchel eu parch o Abertawe, wedi dod yn bartneriaid corfforaethol i gefnogi ein hentrepreneuriaid ac arweinwyr busnes y dyfodol,” meddai Sue.

“Mae'r rhaglen yn cyflwyno'r plant i sgiliau mentro sy'n bwysig iddynt gyflawni dyfodol llwyddiannus. Mae'r sgiliau y bydd y bobl ifanc yn eu datblygu wrth ymgymryd â'r rhaglen yn hanfodol bwysig a byddant yn eu helpu i lwyddo ym mha lwybr bynnag maent yn ei gymryd mewn bywyd.”

Dywedodd Mari Hockin, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gellifedw, ei bod “wedi'i chynhyrfu” i fod yn bartner gyda Wolfestone ar y prosiect.

“Mae'r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i archwilio sgiliau hanfodol mewn ffordd ddifyr a llawn dychymyg,” meddai. “Mae menter yn sgil bwysig

ac rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio adnoddau Bumbles of Honeywood i ymgysylltu â dysgwyr ifanc o Ysgol Gynradd Gellifedw yn y gweithgareddau cyffrous a'r tasgau sy'n seiliedig ar fenter. Bydd y math hwn o ddysgu yn eu cefnogi i ddod yn ddysgwyr gydol oes, cydnerth a fydd yn barod am fywyd a gwaith yn y 21ain ganrif.”

Dywedodd Alex Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr Wolfestone, “O 2022 bydd sgiliau menter a chreadigrwydd yn elfennau gorfodol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion yng Nghymru, felly rydym wrth ein bodd i chwarae ein rhan wrth helpu plant lleol i ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd a mynd ymlaen i gyflawni eu potensial llawn.”

Sefydlwyd Wolfestone, darparwr gwasanaethau iaith yn Abertawe, yn 2006 gan ddau entrepreneur, Anna Bastek a Roy Allkin, ac ers 2008 mae wedi ennill neu wedi cyrraedd rownd derfynol mewn dros 30 o wobrau busnes. Mae'n cefnogi talent leol yn weithredol, gan fwynhau cydberthynas fuddiol gyda'r brifysgol, colegau ac ysgolion lleol, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi tua deg ar hugain o aelodau staff parhaol.