Saith seren o Ogledd Cymru

Yn dilyn gwobrau Dathlu Busnesau Bach cyntaf FSB Cymru a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2019 roedd Creu Sbarc yn awyddus i ysgrifennu erthygl fer am yr enillwyr a’r doniau entrepreneuraidd amrywiol o Ogledd Cymru a gafodd eu cydnabod yn y digwyddiad.

FSB Award Winners 2019

Enillodd y rhanbarth saith o’r 11 gwobr a oedd ar gael yn y digwyddiad – gan drechu llawer o gwmnïau i ennill y teitlau.

Roedd y busnesau hyn yn amrywio o asiantaethau creadigol amlgyfrwng sydd eisoes wedi ennill gwobrau i’r acwariwm annibynnol mwyaf yng Nghymru.

Yr enillwyr o Ogledd Cymru yn y digwyddiad oedd:

 

Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn - Ruth Lee Ltd, Corwen

Mae Ruth Lee yn un o’r prif gwmnïau sy’n darparu manicinau maint llawn a chymhorthion hyfforddi i arbenigwyr hyfforddi achub ar hyd a lled y byd: Gwasanaethau Tân ac Achub, Parafeddygon, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Meysydd Awyr, Sefydliadau Bad Achub Cenedlaethol a Gwylwyr y Glannau, cwmnïau sy’n gweithredu ar y môr a nifer o sefydliadau Chwilio ac Achub Rhyngwladol

Mae’r cwmni wedi bod yn cynhyrchu manicinau hyfforddi achub ers chwarter canrif ac mae’n arbenigo mewn troi hyfforddi’n brofiad byw; ei wneud mor realistig ag y gall fod. Ychydig iawn o gwmnïau eraill sydd â chymaint o brofiad a gwybodaeth â Ruth Lee ac mae’r cwmni’n cael ei gydnabod fel arweinydd y farchnad yn y DU ac yn Ewrop.

 

Microfusnes y Flwyddyn – Animated Technologies, Sir Ddinbych

Asiantaeth Farchnata sy’n defnyddio Animeiddiadau a Fideos – mae’n greadigol ac yn ysbrydoledig, ac mae’n gallu addasu ac ehangu. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn fideos marchnata animeiddiedig, fideos i lansio cynnyrch technegol ac animeiddiadau prawf o gysyniad ar gyfer cwmnïau technolegol, gwyddonol, meddygol a pheirianyddol. Mae’n creu ymgyrchoedd ac animeiddiadau cyffrous sydd wedi’u hanelu at gynulleidfa benodol ac yn rhoi negeseuon clir iddi.

Maen nhw’n arbenigwyr ym maes marchnata technegol a lansio cynnyrch; yn defnyddio animeiddiadau a fideos o safon uchel i wneud i dechnoleg beirianyddol neu gynnyrch gwyddonol sefyll allan. Maen nhw’n helpu cwmnïau i bontio’r bwlch dealltwriaeth rhyngddyn nhw a’u cwsmeriaid drwy gyfrwng animeiddio a fideo, arbenigedd marchnata a dulliau gwerthu.

 

Busnes Moesegol a Gwyrdd y Flwyddyn – Sw Môr Môn

Mae Sw Môr Môn yn acwariwm cwbl annibynnol. Dyma’r acwariwm mwyaf yng Nghymru, ac mae’n cael ei reoli gan y perchennog a’r Cyfarwyddwr, Ms Frankie Hobro. Mae’n acwariwm unigryw â thros 40 o danciau yn arddangos y gorau o fywyd gwyllt morol Prydain. Mae’r dŵr môr yn dod yn syth o Afon Menai, felly mae’r bywyd morol sy’n cael ei gynnal yn profi amrywiadau tymhorol mewn tymheredd, yn union fel y byddent yn y gwyllt. Mae hyn yn galluogi ôl troed a hefyd yn cefnogi ein hegwyddorion sylfaenol, sef cynaliadwyedd, ailgylchu a materion amgylcheddol. Mae’r sw’n denu 80,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac mae ganddi hefyd gyfanswm o 50,000 o ddilynwyr ar ei chyfrifon Facebook a Twitter. Egwyddor greiddiol y busnes yw cefnogi pryderon amgylcheddol drwy ymchwil forol a chadwraeth, yn ogystal ag addysgu ac ymgysylltu ag ymwelwyr yn yr acwariwm.

Er Medi 2018 mae dros 4 miliwn o wylwyr wedi gweld y cwmni’n hysbysebu harddwch Gogledd Cymru, Ynys Môn ac Afon Menai fel un o’r prif gyfranwyr i’r gyfres The Island Strait a ddarlledwyd mewn 4 pennod ar ITV drwy Brydain.

 

Busnesau Datblygol y Flwyddyn – RA & CE Platt Limited, Llai

Mae gan fusnes teuluol Platts Animal Bedding dros 45 mlynedd o brofiad o ddarparu deunydd i anifeiliaid orwedd arno yn y diwydiant amaethyddol. Sefydlwyd y cwmni yn 1973 gan ŵr a gwraig, sef Robert a Christine Platt, ac erbyn hyn maen nhw’n cyflogi 58 o weithwyr.

 

Mae Platts yn arbenigo mewn cynhyrchu deunydd arbenigol i anifeiliaid orwedd arno a’i gyflenwi i bob rhan o’r DU ac Iwerddon. Maen nhw’n cynnig ffordd gyfrifol i weithgynhyrchwyr gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol/amgylcheddol yn ymwneud â gwaredu gweddillion gwastraff pren. Bob blwyddyn mae Platts yn atal miloedd o dunelli o bren rhag cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

 

Busnes Teuluol y Flwyddyn – Henllan Bread (UK) Ltd, Dinbych

Becws crefftus sydd bellach yn rhan annatod o Ogledd Cymru. Erbyn hyn mae Henllan Bread Ltd yn cyflogi dros 90 o staff ac mae gan y cwmni 18 o faniau sy’n danfon bara 6 diwrnod yr wythnos i Ogledd a Chanolbarth Cymru, Lerpwl, Wirral a gororau Sir Amwythig.

Mae bod yn fecws crefftus yn elfen hanfodol o lwyddiant y cwmni. Mae’r llanw’n troi yn y DU ac mae mwy a mwy o ddefnyddwyr yn chwilio am gynnyrch lleol o safon yn hytrach na’r ‘bara’ rhad sy’n cael ei gynhyrchu ar raddfa eang, ac sydd wedi bod mor amlwg ar silffoedd siopau ers tua hanner can mlynedd. Mae gwneud bara’n grefft ac mae’r cwmni’n teimlo bod eu cwsmeriaid yn eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu oherwydd y grefft hon. Mae’r bara’n cael ei wneud â llaw, nid peiriannau yn unig.

 

Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn – Simon Evans, Monopoly Buy Sell Rent, Wrecsam

Asiant tai hybrid wedi’i leoli yn Wrecsam yng Ngogledd Cymru yw Monopoly Buy Sell Rent. Mae’r model busnes yn darparu gwasanaeth asiant eiddo stryd fawr i werthwyr tai a landlordiaid, ond â ffioedd asiant ar-lein.

Nid yw’r cwmni’n codi ffi os nad yw’r eiddo’n cael ei werthu – dim gwerthiant, dim ffi – ac mae hyn yn dangos ymrwymiad i’r cleient na fyddai’n ei gael o bosibl gan asiant ar-lein sy’n codi tâl ymlaen llaw. Mae’r cwmni’n ateb y ffôn 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae’n ceisio dod yn ôl at gleientiaid yr un mor gyflym, er enghraifft drwy anfon ebost gyda’r nos. Erbyn hyn mae llawer o waith y cwmni’n deillio o atgyfeiriadau, ac maent yn falch iawn o hynny.

Ar ôl treialu’r model yn llwyddiannus yn Wrecsam, maent bellach wedi masnachfreinio’r model ac mae ganddynt 7 cangen.

 

Busnes Cymunedol y Flwyddyn – Enbarr Enterprises Limited

Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Victoria Roskams, wedi creu genre o safon uchel sy’n helpu sefydliadau i fod yn fwy ‘Hyderus o ran Anabledd’ ac i gefnogi ‘Cyfamod y Lluoedd Arfog’ yn ogystal â darparu model busnes heb ei ail i gefnogi’r grwpiau hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf, a’r rhai sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn ein cymunedau lleol.

Mae Vicki yn priodoli llwyddiant Enbarr Enterprises i angerdd y tîm cyfan sydd y tu ôl i’r brand, gan gyfeirio at eu hymrwymiad i ddeall anghenion cynlluniau llesiant ac adfywio’r gymuned leol.