Rhwydwaith Entrepreneuriaid Gymar i Gymar - Tasglu'r Cymoedd

Lansio rhwydwaith cymar i gymar y cymoedd i gefnogi arweinwyr busnes uchelgeisiol.

Mae'r Rhwydwaith Entrepreneuriaid Gymar i Gymar yn gynllun peilot newydd ar gyfer arweinwyr busnes uchelgeisiol sydd am ysgogi twf yn eu cwmnïau, ymgymryd â rheoli newid yn effeithiol a chyrraedd eu llawn botensial o ran arweinyddiaeth.

Peer to Peer - VTF

Dan arweiniad entrepreneuriaid a siaradwyr gwadd profiadol, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn dysgu o arferion gorau'r diwydiant ar strategaethau twf ac arweinyddiaeth o fewn amgylchedd preifat ac adeiladol. 



Bydd grŵp wedi'i ddethol yn ofalus o 8-10 o arweinwyr busnes yn cwrdd yn fisol i ystyried pwnc twf busnes allweddol, rhannu profiadau a helpu ei gilydd i oresgyn heriau.  



Er mwyn cael eu hystyried i gymryd rhan yn y peilot, rhaid i unigolion fod mewn swydd arwain uwch mewn busnes sefydledig yn rhanbarth Cymoedd y De a bod yn barod i ymrwymo o leiaf 12 diwrnod o'u hamser i'r rhwydwaith, dros gyfnod o flwyddyn.



Mae'r rhwydwaith entrepreneuriaid gymar i gymar yn cefnogi uchelgais Tasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymoedd y De i hyrwyddo twf a swyddi mewn busnesau gyda photensial uchel ar draws y rhanbarth.



Mae'r rhwydwaith entrepreneuriaid gymar i gymar bellach ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb.

Rhaid derbyn datganiadau o ddiddordeb cyn 21 Mehefin 2019.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.