Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am #PitchItCymru?

Wrth i'r cyffro a'r diddordeb gynyddu yn sgil cyhoeddi ein digwyddiad Pitch It yn ddiweddar - digwyddiad sy'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Inspire Wales - roeddem yn meddwl y byddai’n ddefnyddiol cynnwys taflen holi ac ateb gryno ynghylch y broses gwneud cais a’r digwyddiad ei hun.  

Q&A Cymru

Oes angen i fy musnes i fod yn un penodol i'r sector i wneud cais?

Mae Pitch It yn agored i fusnesau o bob sector.

 

Ar ba gam yn ei ddatblygiad y mae angen i fy musnes i fod i wneud cais?

Os byddai eich busnes chi yn elwa o fuddsoddiad ecwiti gwerth rhwng £10,000 a £50,000 a mynediad at wybodaeth arbenigol a chyngor o'r radd flaenaf gan ein panel, yna mae eich busnes ar y cam iawn i wneud cais.

 

Sut mae gwneud cais?

I wneud cais, y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw anfon eich dalen hyrwyddo busnes  (a elwir hefyd yn grynodeb gweithredol) at hello@bethespark.info cyn y dyddiad cau, sef 10fed Medi.

 

Beth ddylwn i ei gynnwys yn fy nalen hyrwyddo busnes/crynodeb gweithredol?

Mae nifer fawr o erthyglau defnyddiol ar ysgrifennu dalen hyrwyddo busnes ar gael ar-lein.  Dyma rai ohonynt, er gwybodaeth:

  1. https://www.inc.com/christopher-mirabile/one-page-that-matters.html
  2. https://www.inc.com/guides/2010/09/how-to-write-an-executive-summary.html
  3. https://www.virginstartup.org/how-to/business-plan-how-write-executive-summary

 

Pryd ga’i wybod os ydi fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd aelod o'r tîm yn ymateb o fewn 24 awr i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich cais.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus a’ch bod yn cael eich dewis i gael cyfweliad 1:1 (mae’n bosibl gwneud hyn dros Skype hefyd) byddwn yn cysylltu â chi yr wythnos sy’n dechrau ar 17eg Medi.

 

Beth yw'r dyddiadau gorfodol?

28ain Medi – Os bydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer, byddwn yn gofyn i chi ddod am gyfweliad 1:1 ar y dyddiad hwn – mae’n bosibl cynnal hwn dros Skype hefyd yng nghyswllt y rheini sydd ddim yn gallu bod yn bresennol yn bersonol.

17eg Hydref – os ydych chi'n cael eich dewis i fod yn un o bump entrepreneur i roi cyflwyniad byw ar ddiwrnod y digwyddiad, bydd angen i chi fod ar gael i fynychu’r digwyddiad yn bersonol.

 

Faint o fuddsoddiad ddylwn i ofyn amdano?

Cewch ofyn i'r panel am fuddsoddiad ecwiti gwerth rhwng £10,000 a £50,000. Rydym yn gofyn i chi gynnwys gwerth eich busnes yn eich cyflwyniad a defnyddio hwn i gyfiawnhau swm y buddsoddiad rydych yn gofyn amdano.

Enghraifft: “Rydw i'n chwilio am £30,000 ar gyfer x% o fy musnes”

Cyn belled â'ch bod yn gallu cyfiawnhau yr hyn rydych yn gofyn amdano ac yn dangos sut bydd eich busnes yn elwa ohono, yna eich dewis chi yw faint yn union rydych yn gofyn amdano.

 

Pa waith papur cyfreithiol y mae angen i mi ei lenwi?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus a'ch bod yn cael eich dewis i fod yn un o'r pump entrepreneur i roi cyflwyniad byw i'r panel ar y diwrnod, byddwn yn anfon copi o gytundeb buddsoddi safonol Inspire Cymru atoch ymlaen llaw er mwyn i chi gael golwg arno.

Disgwylir i chi lofnodi'r ddogfen hon ar 17eg Hydref unwaith y cytunir ar swm y buddsoddiad ecwiti.

 

Faint o ecwiti fy musnes y bydd disgwyl i mi ei ildio?

Fel entrepreneur, eich penderfyniad chi yn gyfan gwbl fydd hynny a bydd yn seiliedig ar werth eich busnes. 

 

Ydw i’n dal yn gallu gwneud cais os ydw i’n chwilio am fwy o arian?

Ydych, ond uchafswm y buddsoddiad ecwiti fydd yn cael ei roi ar y diwrnod yw £50,000.

 

Oes raid i mi fod yn gwmni cofrestredig?

Oes, mae’n rhaid i'ch busnes fod yn un cofrestredig.

 

Pwy sydd ar y panel?

Bydd y panel yn cynnwys aelodau o Gonsortiwm Buddsoddi Inspire Wales. Byddwn yn cyhoeddi enwau'r rhai fydd ar y panel yn fuan iawn...