Merch Raddedig Jenny Kate mewn Dylunio yn sicrhau £350k mewn Arian Cyllido Angyion i gynyddu maint Brand cartref moethus

Mae Jenny Kate yn creu cynhyrchion nwyddau cartref Prydeinig moethus sydd wedi cael eu hysbrydoli gan natur i ddod â'r awyr agored i'ch bywyd a'ch cartref.

Jenny Kate - Investment

Erthygl: Banc Dat Cymru

Dechreuodd Jenny Evans ei brand nwyddau cartref moethus, Jenny Kate, wrth astudio Tecstilau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Enillodd Wobr Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander yn 2018 ac mae hi wedi cael cefnogaeth aruthrol gan ei Phrifysgol a Santander ar ei thaith gychwynnol. Ar ôl graddio, enillodd le fel rhan o Gyflymydd Entrepreneur Natwest yng Nghaerdydd ac roedd yn y gynulleidfa yn y digwyddiad #PitchIt a gynhaliwyd gan Met Caerdydd, a drefnwyd gan CreuSbarc ac fe gyflwynodd i gonsortiwm Angylion ar yr un math o arddull â “Dragon's Den”.

Meddai Jenny “Roedd yn ddigwyddiad ysbrydoledig iawn, a chefais fy nharo gan wybodaeth buddsoddwyr Inspire Wales a'u parodrwydd i gefnogi buddsoddwyr ac entrepreneuriaid yng Nghymru. Cysylltais â Caroline Thompson, Prif Weithredwr CreuSbarc, a gofynnais am gyflwyniad. Fe wnaeth hi “fy annog” i gyflwyno fy hun ac fe wnes i hynny, ac fe ddechreuodd hynny ar siwrne ariannu fyd-eang i Jenny Kate. Fe wnes i gyflwyno fy achos trwy gyflwyno pitsh i Bwyllgor Buddsoddi Inspire Wales yr wythnos wedyn ac fe gytunon nhw i fy ariannu i. Cytunodd pedwar o'u grŵp (Hayley Parsons, Ashley Cooper, Richard Calvert a Roger Gambarini) i gyd i fy ariannu i yn bersonol yn ychwanegol at hynny. Rydw i wrth fy modd fy mod yn cael fy nghefnogi gan Gonsortiwm Inspire Wales, gan Angylion Buddsoddi Cymru a Chronfa Gyd-fuddsoddi Angylion Cymru, a chan rai o'r Buddsoddwyr Angel mwyaf profiadol yng Nghymru a hynny ochr yn ochr gyda chefnogaeth bancio corfforaethol cynyddol gan Santander. Mae'n fraint mawr imi fy mod wedi recriwtio tîm cychwynnol gwych yn gweithio yn y busnes, a chael grŵp o randdeiliaid ehangach sydd mor anhygoel. Mae gennym gynlluniau enfawr ac rydym wedi gweld bod bwlch o ddifri yn y farchnad ar gyfer ein brand Prydeinig sydd wedi'i ysbrydoli gan natur.”

Dywedodd Hayley Parsons, Sylfaenydd GoCompare, aelod o Inspire Wales sydd hefd yn Fuddsoddwr Angel, “Cefais fy nenu'n syth at Jenny. Mae'r cynnyrch mor hudolus, ac mae hi ei hun yn wirioneddol wych. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi. Mae dyfodol anhygoel o flaen Jenny Kate.”

Meddai Richard Calvert, aelod o Inspire Wales sydd hefyd yn Fuddsoddwr Angel “Fe wnaeth gweledigaeth fusnes Jenny argraff dda iawn arnaf i ynghyd â’r ysbryd entrepreneuraidd a'r tîm talentog y mae hi wedi'i greu ar gyfer y daith gyffrous hon, ac felly roedd yn bleser buddsoddi yn Jenny Kate.” 

Meddai Ashley Cooper, Buddsoddwr Arweiniol gydag Angylion Buddsoddi Cymru “Roeddwn yn rhan o dîm Inspire Wales pan gyflwynodd Jenny ei phitsh. Roedd hi'n llawn cymhelliant ac felly fe gytunais i gefnogi Jenny Kate yn bersonol. Ar ôl cynnull syndicâd trawiadol o angylion, fel Prif Fuddsoddwr, roeddwn wedyn yn gallu cysylltu gydag Angylion Buddsoddi Cymru i sicrhau arian cyfatebol o Gronfa Gyd-fuddsoddi Cymru. Mae gan Jenny y gallu i wireddu ac i weithredu er mwyn gwneud Jenny Kate yn llwyddiant ysgubol. Dyma enghraifft wych o'r doniau entrepreneuraidd ifanc sydd gennym yma yng Nghymru.”

Dywedodd Steve Holt, Cyfarwyddwr gydag Angylion Buddsoddi Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwych i Fanc Datblygu Cymru gefnogi'r buddsoddiad yn Jenny Kate ac mae'n ffitio'n berffaith gyda Chronfa Gyd-fuddsoddi Cymru.

“Mae'r cytundeb hwn yn cynrychioli'r pedwerydd trafodiad sydd wedi cael ei gwblhau gan y gronfa gyd-fuddsoddi, sydd, bob un ohonynt i bob pwrpas wedi bod yn wahanol iawn o ran y sector a’r timau sefydlu. Mae Jenny Kate yn arddangos doniau dylunio gwych, tîm dechreuol cadarn a grŵp profiadol o fuddsoddwyr a fydd yn sicr yn torchi eu llewys wrth helpu i yrru'r busnes yn ei flaen.”